Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/182

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a aeth i Dowlais. Pan ddychwelodd ef o Dowlais, nid oedd yno fawr o'r ddeadell fechan yn aros heb eu gwasgaru, rhai wedi myned o'r ardal, ac eraill wedi oeri a gwrthgilio, a dim ond ychydig chwiorydd yn dal yn ffyddlon. Felly wrth ail gychwyn moddion crefyddol yno, bu pwys y gwaith yn gorphwys ar ysgwyddau E. Williams agos yn hollol am dymor. Yn 1804, derbyniwyd ei frawd, Thomas Williams, yn Ebenezer, a throdd allan yn grefyddwr gwerthfawr a defnyddiol. Yr oedd yn Gristion teilwng, yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ddyn diofn, diddiogi, a chyson yn ei gyflawniad o holl ddyledswyddau crefydd. Yr oedd y ddau frawd, Edward a Thomas Williams, i'w rhifo yn mysg y dynion goreu y cawsom erioed y fraint o gyfeillachu a hwy. Edward oedd yr henaf, a Thomas yr ieuangaf o blant eu mham. Saith mlynedd oedd y naill yn hŷn na'r llall. Dechreuodd pob un o honynt grefydda yn saith ar hugain oed, a buont feirw yn yr un oed, sef triugain a dwy ar bymtheg. Felly buont ill dau haner can' mlynedd yn aelodau eglwysig, ni bu un o honynt trwy eu holl dymor dan gerydd eglwysig am unrhyw gamymddygiad. Maent ill dau er's llawer o flynyddoedd bellach wedi myned "i mewn i lawenydd eu Harglwydd."

Yn y flwyddyn 1804, daeth William Allgood, aelod ffyddlon yn Ebenezer, i fyw i'r ardal. Bu am haner can' mlynedd yn arddwr i brif arolygydd gwaith haiarn Blaenafon. Nodweddid ei gymmeriad crefyddol gan ffyddlondeb a gostyngeiddrwydd. Bu yn golofn hardd yn yr eglwys hyd derfyn ei oes. Tua yr un amser, daeth Henry Roberts, o Frynbiga yma. Yr oedd yntau yn Gristion enwog, ac yn ddoniol iawn i siarad a gweddio yn y ddwy iaith. Bu yn ddefnyddiol yma nes iddo ddychwelyd i Frynbiga yn 1828. Yn 1807, ymunodd Hopkin Jenkins (taid Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd) a'r achos, a derbyniwyd ef yn aelod Yr oedd yn Gristion goleu, cadarn yn yr athrawiaeth, ac yn ganwr rhagorol, yn ol yr hen ddull o ganu. Symudodd i ardal Pontypool yn 1810, a bu yn ddiacon yn Ebenezer am lawer o flynyddau. Tua yr amser yma hefyd y derbyniwyd Griffith Abraham, a Thomas James, nai fab chwaer i'r diweddar Dr. Jenkins o Hengoed. Yr oedd yma hefyd y pryd hwnw amryw wragedd ffyddlon a rhagorol iawn, megys Peggy Rees, Shan Lot, Mary James, Leah Williams, a Leah James. yn Ebenezer.

Teimlid erbyn hyn fawr angen am gapel, ond cyfodai rhyw rwystr neu gilydd beunydd ar eu ffordd. Bu y Bedyddwyr yn fwy ffodus. Cawsant hwy dir, ac adeiladasant gapel yn 1807. Rhoddid benthyg y capel hwn yn garedig i'r Annibynwyr pan fyddai ganddynt bregethwr. Cynhalient eu cyfarfodydd gweddio o dy-i-dy, a'u cyfeillachau yn nhy Edward Williams. Casglasant yn eu plith eu hunain 14p. at gapel y Bedyddwyr, a darfu i'r brodyr hyny yn onest ddychwelyd yr arian iddynt pan yr aethant yn nghyd ag adeiladu capel iddynt eu hunain.

Mae yn amlwg fod Annibynwyr Blaenafon wedi dyoddef cam mawr oddiar law Mr. Ebenezer Jones ac eglwys Ebenezer, oblegid dylasent eu hanog a'u cynnorthwyo i adeiladu capel, o leiaf ugain mlynedd cyn iddynt ei wneyd. Bu amryw o'r ffyddloniaid hyn yn cerdded bob boreu Sabboth o Flaenafon i Ebenezer—pum' milldir o ffordd arw—am tua phum' mlynedd ar hugain; ac yn dychwelyd adref erbyn yr hwyr i gynal cyfarfodydd gweddio a chyfeillachau. Mae yn rhaid eu bod yn ffyddlon iawn i egwyddorion eu henwad cyn iddynt ddal cyhyd wrthynt dan y fath anfanteision, ac yn enwedig, pan welent yr enwadau eraill yn cael eu hanog a'u