cynnorthwyo gan gyfeillion o wahanol ardaloedd i sefydlu achosion yn eu hardal eu hunain.
Heblaw yr aelodau a berthynent i Ebenezer, yr oedd yma rai o aelodau Hanover a Llangattwg, megys David Lot a John Richmond, William Lewis a'i wraig, ac Edward James a'i wraig. Pan aed i adeiladu y capel, darfu i'r rhai hyn uno yn galonog a'r cyfeillion o Ebenezer.
Ar ol hir oediad, cafwyd tir gan Mr. E. James am ddwy geiniog y flwyddyn, os gofynid hwy, dros 999 o flynyddau. Rhoddodd yr un gwr hefyd y cerrig mewn rhan o'r un cae a'r capel yn rhad ar eu codi o'r chwarel. Bu y gwyr, y gwragedd, a'r plant yn gweithio yn galed trwy haf y flwyddyn 1820, i godi a chludo y cerrig at yr adeilad. Amseriad y Trust Deed yw Awst 6ed, 1820, ac enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt John Sheppard, Ebenezer Jones, John Morgan, Lewis Evans, Isaac Evans, Edward Williams, Thomas Williams, William Allgood, Henry Roberts, Griffith Abraham, a Thomas James. Costiodd y capel 400p., heblaw llafur y bobl yn cludo defnyddiau ato. Agorwyd ef Rhagfyr 24ain a'r 25ain, 1820, a galwyd ei enw Bethlehem, o herwydd mai ar ddydd Nadolig yr agorwyd ef. Cymerodd y Meistriaid D. E. Evans, Nantyglo; D. Stephenson, Rhymni; D. Thomas, Nebo; D. Davies, Penywaun; D. Davies, Llangattwg; D. Thomas, Penmain; ac Ebenezer Jones, Pontypool, ran yn y gwasanaeth. Yn fuan ar ol agoriad y capel, awd i'r draul ychwanegol o 120p. i adeiladu anedd-dy, a chyfleusderau eraill yn ei ymyl, a thalwyd y cwbl mewn ychydig iawn o flynyddau. Rhif yr aelodau pan orphenwyd y capel oedd 33, ond yn fuan wedi hyny symudodd Edward James a'i deulu i Sirhowy. Corpholwyd yr eglwys y pryd hwn, a dewiswyd Edward Williams, a Thomas James yn ddiaconiaid, a Thomas Williams, a Henry Roberts yn Henuriaid. Yr oedd yr eglwys bellach yn Annibynol, ond etto dan weinidogaeth Mr. Ebenezer Jones, yr hwn, o herwydd ei ofalon yn Ebenezer a Brynbiga, ni allai ymweled a Blaenafon ond anfynych, a phan y deuai traddodai ran fawr o'i bregethau yn Saesonaeg, er mwyn rhyw ychydig Saeson a berthynent i'r gwaith. Byddai meistr y gwaith, ac amryw o'r prif oruchwylwyr yn dyfod yn fynych i'w wrando. Ond cwynfan yr oedd y Cymry uniaith fod eu heneidiau yn cael eu nychu trwy fod gormod o Saesonaeg yn cael ei arfer yn y gwasanaeth. Mae yn amlwg fod Mr. Jones, a rhai eraill o'i gydoeswyr, wedi gwneyd niwed mawr i achos Ymneillduaeth trwy wthio Saesonaeg i'r gwasanaeth crefyddol, pryd nad oedd galwad neillduol am dano, ac y mae mor amlwg a hyny fod amryw weinidogion yn yr oes hon yn cloddio dan sail Ymneillduaeth mewn llawer ardal trwy wrthwynebu, neu o leiaf trwy daflu dwfr oer ar bob ymdrech i sefydlu achosion Saesonaeg, lle y mae galwad am danynt. Peth pwysig iawn yw i weinidogion a phrif aelodau ein heglwysi fod fel meibion Issachar, "Yn rhai a fedrant ddeall yr amseroedd."
Bu yr achos yn y capel newydd yn lled ddilewyrch, o herwydd cymysg edd yr ieithoedd yn y gwasanaeth, ac anallu Mr. Jones i ymweled a'r lle mor fynych ag oedd angen iddo wneyd; ac oblegid ei fod yn gweled hyny rhoddodd yr eglwys i fyny yn 1823. Y diweddaf a dderbyniodd yma oedd William Davies. Ar ol ymadawiad Mr. Jones bu Mr. Davies, New Inn, yn gofalu am y lle am dymor; "a bu ei lafur yma yn foddion dan fendith yr Arglwydd i godi yr achos o'r iselder y buasai ynddo er pan gorpholwyd yr eglwys. Gwenodd y nefoedd ar lafur Mr. Davies: llan-