i Mr. John Hughes, o athrofa y Neuaddlwyd, yr hwn tua yr un amser a dderbyniasai alwad oddiwrth yr eglwys yn y Maendy, Bro Morganwg, ac er mawr siomedigaeth i bobl Blaenafon, y Maendy a ddewisodd.
Wedi hyn edrychwyd allan am un arall, ac ar gymeradwyaeth Mr. T. G. Jones, y pryd hwnw o Bethania, Dowlais, rhoddwyd galwad i Mr. W. Phillips, yr hwn a fuasai am tua blwyddyn neu ddwy ar brawf yn Ruthin. Gwyddid nad oedd wedi cael ei urddo yno, er cyhyd y buasai yn pregethu ar brawf, ond gan faint eu hawydd am gael gweinidog, rhoddasant alwad iddo yn unig ar gymeradwyaeth Mr. Jones, heb holi dim o berthynas i'w gymmeriad. Dichon pe buasent yn ymgynghori ag eglwys Ruthin y buasent yn cymeryd mwy o bwyll cyn ei urddo. Pa fodd bynag, urddwyd ef Gorphenaf 13eg a'r 14eg, 1826. Cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn ngwasanaeth yr urddiad: D. Griffiths, Castellnedd; D. Jones, Llanharan; G. Hughes, Groeswen; T. Powell, Aberhonddu; D. Lewis, Aber; D. Jenkins, Brychgoed; E. Jones, Pontypool; M. Jones, Merthyr; T. Rees, Llanfaple, &c.
Yr oedd Mr. Phillips yn bregethwr galluog, ac yn feddianol ar lawer o gymwysderau at waith y weinidogaeth, ond ei fod yn amddifad o'r prif gymwysder, sef cymmeriad teilwng o'r efengyl. Bu ychwanegiad mawr at yr eglwys am ychydig fisoedd wedi urddiad Mr. Phillips, yn benaf trwy i adfywiad y gweithiau dynu llawer o aelodau eglwysig o ardaloedd eraill i'r gymydogaeth i fyw; ond lleihawyd eu rhif yn fuan trwy i 35 o'r aelodau a breswylient yn ardal y Varteg fyned i ddechreu yr achos yn Sardis. Yr oedd hyny yn golled fawr i'r achos yn Mlaenafon, ond y peth a wasgodd waethaf arno oedd y si annymunol a ymdaenodd trwy yr ardal o berthynas i gymmeriad y gweinidog. Daeth y peth yn fuan yn fater eglwysig, a galwyd gweinidogion cymydogaethol yno i ystyried yr achos. Y gweinidogion a ddaethant yno oeddynt Mr. Jones, Pontypool; Mr. Skeel, Abergavenny; Mr. Rees, Llanfaple; a Mr. Davies, Aberteifi. Aelod o Aberteifi oedd Mr. Phillips. Cynghorodd y gweinidogion yr eglwys i'w adael i bregethu ei bregeth ymadawol y Sul canlynol, a'i ollwng ymaith heb ddwyn un cyhuddiad yn ei erbyn. Cydsyniwyd a hyny; ond yr wythnos ganlynol cafodd ef blaid o'r eglwys i fyned allan gydag ef, a dechreuodd bregethu iddynt o dy i dy. Yn ngwyneb hyny, penderfynwyd galw gweinidogion drachefn i ail ystyried yr achos. Pan glywodd Mr. Phillips enciliodd at y Bedyddwyr; ac ni pherthyn i ni gofnodi ychwaneg o'i hanes. Bu yr amgylchiad yn wanychiad mawr i'r achos. Ymadawodd rhai teuluoedd a'r capel, ac ni ddychwelasant mwyach. Aeth eraill i dir gwrthgiliad. Un o'r swyddogion yn unig a drodd gyda phleidwyr Mr. Phillips. Dychwelodd hwnw i'w le yn mhen amser.
Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Mr. Phillips, rhoddwyd galwad i ddyn gwir dda a duwiol, sef Mr. Morgan Morgans, aelod o eglwys Llanharan; yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr gyda Mr. Davies, Penywaun. Urddwyd Mr. Morgans Chwefror 6ed a'r 7fed, 1828. Gweinyddwyd yn y gwahanol gyfarfodydd yn y drefn ganlynol: Am 3, y dydd cyntaf, gweddiodd Mr. D. Davies, Penywaun; a phregethodd Mr. H. Morgans, Samah, oddiwrth Math. v. 3; a Mr. E. Jones, Neuaddlwyd, oddiwrth Rhuf. v. 8. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. W. Watkin, Pontypool; a phregethodd Mr. D. Stephenson, Nantyglo, oddiwrth Ioan xvi. 20; Mr. H. Jones, Tredegar, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xvi. 2; a Mr. J. Rowlands, Cwmllynfell, oddiwrth Luc i. 32. Am 7, yr ail ddydd,