gweddiodd Mr. T. Williams, Cwmaman; a phregethodd Mr. E. Williams, Caerphili, oddiwrth Job i. 1; a Mr. E. Griffiths, Browyr, oddiwrth Salm cxxxix. 23, 24. Am 10, gweddiodd Mr. T. Evans, Aberhonddu; pregethodd Mr, D. Lewis, Aber, ar natur eglwys, oddiwrth Actau ii. 47; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Penywaun; gweddiwyd yr urddweddi, gydag arddodiad dwylaw, gan Mr. D. Stephenson; pregethwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth 1 Tim. iv. 14; ac i'r eglwys gan Mr. J. Rowlands, Cwmllynfell, oddiwrth Heb. xii. 22. Am 3, dechreuwyd gan Mr. Josuah Thomas, Penmain; a phregethodd Mr. D. Griffiths, Castellnedd, oddiwrth Actau xiv. 22; a Mr. J. Jones, Main, oddiwrth 2 Cor. iv. 18. Am 7, gweddiodd Mr. Thomas Thomas, Caerlleon-ar-wysg; a phregethodd Mr. D. E. Owens, Cendl, oddiwrth Ioan iii. 3; Mr. J. Hughes, Maendy, oddiwrth Salm viii. 4; a Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Ioan xvii. 1.
Cymharol fechan oedd yr eglwys y pryd hwn, ond ychwanegwyd llawer ati yn fuan, ac yn eu mysg amryw a droisant allan yn ddynion gwir ddefnyddiol. Y mae tri o honynt yn bresenol yn ddiaconiaid yn yr eglwys, sef David Jones, Isaac Evans, a James Cook, a bu yr olaf o'r tri yn flaenor y canu yn y gynnulleidfa am fwy nag ugain mlynedd. Bu Mr. Morgans yn barchus a defnyddiol iawn yma am yn agos naw mlynedd, ond yn Awst 1836, er mawr alar i'r eglwys a'r holl gymydogaeth, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bethesda-y-fro, Morganwg, a symudodd yno. Bu yma lawer o gyfnewidiadau pwysig yn nhymor ei weinidogaeth ef, yn neillduol trwy ymfudiaeth i America ac Awstralia. Rhoddodd ar unwaith lythyrau i bedwar-ar-ddeg o ieuengetyd yr eglwys i fyned i Awstralia, ac y mae perthynasau y rhai hyny yn myned ar eu hol o flwyddyn i flwyddyn. Mae y gweinidog presenol hefyd wedi gollwng llawer o ugeiniau trwy lythyrau i America, a gwledydd eraill. Cafodd amryw o'r aelodau eu symud trwy farwolaeth yn amser Mr. Morgans, ac yn eu plith un gwr ieuangc gobeithiol iawn, sef Thomas, mab Thomas Williams. Yr oedd wedi cael cymhelliad i ddechreu pregethu, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo roddi heibio y meddwl am bregethu. Bu farw Awst 4ydd, 1829, a chladdwyd ef yn medd ei fam yn Ebenezer, Pontypool. Gweinyddodd Mr. Morgans yn ei gladdedigaeth.
Cyn pen dwy flynedd wedi ymadawiad Mr. Morgans, rhoddwyd galwad i Mr Thomas Griffiths, aelod o eglwys Zoar, Merthyr. Yr oedd Mr. Griffiths y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Mhenywaun. Urddwyd ef Mehefin 5ed a'r 6ed, 1888, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: D. Davies, Penywaun; D. Stephenson, Nantyglo; H. Jones, Tredegar; E. Rowlands, Pontypool; J. T. Jones, Merthyr; T. Rees, Craigyfargod; M. Jones, Varteg; J. Davies, Abersychan, &c. Mae Mr. Griffiths wedi gwasanaethu yr eglwys hon bellach am ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac er fod ei iechyd yn lled wanaidd er's blynyddau, y mae ei barch a'i ddefnyddioldeb yn parhau yn ddileihad.
"Yn nechreu 1840, gan fod yr hen gapel mewn lle anghyfleus, penderfynwyd cael capel newydd. Cafwyd darn helaeth o dir mewn man cyfleus iawn. Pris y tir yw 463p. 10s. Gan nad oedd arian yn gyfleus i dalu am dano, cytunwyd i dalu llôg yn ol 5p. y cant i'w berchenog, hyd nes y telid y corff. Mae y capel newydd yn mhlwyf Llanover. Ei enw yw Bethlehem, yr un fath ar hen dy. Adeiladwyd y capel cyn cael y