Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/187

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithredoedd. Eu hamseriad yw Rhagfyr 24ain, 1841. Enwau yr ymddiriedolwyr ydynt, Thomas Griffiths, John James, James Cook, John Williams, William Davies, John Meredith, David Jones, Thomas Richards, Thomas Prossor, Edward Williams, James Davies, David Edwards, Llewellyn Evans, Isaac Evans, a John Prytheroe.

Agorwyd y capel newydd Tachwedd 21ain, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid Ll. Powell, Hanover; W. Watkins, Rymni; M. Jones, Varteg; E. Rowlands, Pontypool; M. Ellis, Mynyddislwyn; H. Jones, Tredegar, a H. J. Bunn, Abergavenny. Costiodd y capel rhwng wyth a naw cant o bunnau. Bwriedid talu am y tir mor gynted ag y telid am y capel; ond erbyn gorphen talu am y capel, cafwyd fod yn rhaid adgyweirio llawer arno. Costiodd hyny rhwng pedwar a phum cant o bunnau, ac felly y mae yr arian am y tir, a thros ddau cant o'r ddyled ar y capel heb eu talu etto.

Yn y flwyddyn yr adeiladwyd y capel newydd, ac ychydig cyn ei agoriad, y derbyniwyd y brodyr anwyl E. Williams, Dinasmaddwy, a'r diweddar D. Milton Davies, Llanfyllin. Y mae yr Arglwydd wedi bod yn dda wrth yr eglwys yn y capel newydd, fel yn yr hen. Bu cyfnod dilewyrch iawn arni o'r flwyddyn 1851 hyd 1855. Ni dderbyniwyd nemawr yn y blynyddoedd hyny. Gyda'r eithriad hyn, nid oes un flwyddyn wedi myned heibio heb fod rhyw rai yn gofyn y ffordd tua Sion. Bu yma gynhyrfiadau bychain droion. Yn 1841, derbyniwyd 35; yn 1843, derbyniwyd 20; yn 1846, derbyniwyd 13; yn 1848, derbyniwyd dros 80; ac yn 1859, derbyniwyd 25. Edrychid ar hyn yn llawer mewn cynnulleidfa fechan; canys bychain yw y cynnulleidfaoedd Cymreig yn y lle hwn. Y mae yr eglwys a ffurfiwyd yn yr hen Bethlehem, yn awr wedi byw haner can' mlynedd. Mae wedi myned dan gyfnewidiadau mawrion. Y mae pawb a wnelent yr eglwys i fyny y pryd hwn, ond un hen chwaer, wedi myned i ffordd yr holl ddaear; ac y mae pob un o'r rhai a arwyddent alwad y gweinidog presenol, ond naw, wedi teithio yr un llwybr, neu wedi symud o'r ardal; ond y mae yr eglwys yn fyw, a phob arwyddion y bydd hi fyw am lawer o flynyddoedd etto. Mae dynion o wybodaeth ysgrythyrol helaeth, duwioldeb uchel, ffyddlondeb, ac haelioni mawr wedi bod yn perthyn i'r eglwys hon, a da genym allu dyweyd nad yw y pethau da hyn wedi eu llwyr golli o honi yn 1870."[1]

Yn 1863, ar gais Mr. Griffiths a'r eglwys, aeth amryw o'r aelodau, a ddeallent yr iaith Saesonaeg, allan i gychwyn achos Saesonaeg yn yr ardal. Daw yr achos ieuangc hwn dan ein sylw etto.

Yr ydym wedi arfer ymweled a Blaenafon er's yn agos ddeugain mlynedd bellach. Gwelsom gynnulleidfaoedd lluosocach mewn llawer man, ond ni welsom mewn un lle yn Nghymru na Lloegr eglwys fwy gwresog, siriol, a gwir garedig. Adwaenem yn dda y rhan fwyaf o'r personau teilwng y coffheir eu henwau yn y tudalenau blaenorol, ac y mae yn hyfrydwch genym gael cyfleusdra i drosglwyddo eu coffadwriaeth i'r oesau dyfodol. Pa beth bynag a ddygwyddo i'r eglwys yn Bethlehem, Blaenafon, na fydded iddi byth golli ysbryd gwresog, ffyddlon, a duwiolfrydig Edward a Thomas Williams, a'u cydoeswyr. Mae y tân santaidd ar allor yr eglwys hon wedi cael ei gadw heb lwyr ddiffoddi trwy y blynyddau. Cyneued etto yn danbeidiach nag erioed.

  1. Llythyr Mr. Griffiths, Mawrth 29, 1870.