Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/189

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tua y flwyddyn 1808. Buwyd yn cyfarfod mewn ychwaneg nag un o fanau i addoli, ond y lle y buwyd hwyaf ynddo, ac o'r hwn y symudodd y gynnulleidfa i'r capel newydd, oedd rhan o'r ty a elwir yn awr y Refiner's Arms. Yr oedd ystafell lled eang o'r ty hwn wedi cael ei threfnu at gynal gwasanaeth crefyddol, a thelid pum' swllt yn y mis am dani. Mr. Davies, Llangattwg, oedd yn cael ei ystyried yn weinidog, ond byddai gweinidogion a phregethwyr eraill yn ymweled yn lled fynych a'r lle. Gwan iawn oedd yr achos ar y cychwyniad cyntaf. Yr oedd talu y pum' swllt yn y mis am yr ystafell, ac estyn ambell i swllt i'r pregethwyr a'u gwasanaethai, yn llawn ddigon o waith i'r ychydig aelodau. Dywedwyd wrthym fod un o'r diaconiaid un Sabboth yn apelio at y gwrandawyr, a dagrau yn treiglo dros ei ruddiau, i ddeisyf arnynt eu cynnorthwyo i ddwyn y draul. Effeithiodd yr apeliad ar un gwrandawr fel y penderfynodd roddi haner coron yn y mis yn y casgliad o hyny allan, ac ni fu yn hir cyn rhoddi ei hunan i'r achos. Yr oedd yma un dyn ya aelod y pryd hwnw, yr hwn y mae ei hanes yn rhybudd arswydus i bob proffeswr. Wedi ymuno a'r achos trodd allan yn ddyn nodedig o ddoniol, llafurus, a defnyddiol. Cymaint oedd ei sel, ei hunanymwadiad, a'i ymdrech, fel y dywedir y byddai yn aml yn myned i'w waith a chrystyn o fara heb enllyn, er mwyn i'r wraig fod a thipyn o gaws ac ymenyn i'w osod o flaen y pregethwyr a ddeuent yno. Bu am rai blynyddau yn ddyn blaenllaw ac enwog iawn gyda'r achos; ond wedi hyny trodd yn ddiotwr, ac yn raddol aeth yn feddwyn anniwygiadwy. Wedi ei ddiarddel, aeth yn un o brif feddwon уг ardal. Elai a'i Feiblau a llyfrau crefyddol eraill, a gasglesid ganddo pan yn byw yn sobr, i'r tafarndai i'w gwerthu am gwrw!! Bu farw un nos Sadwrn yn ei feddwdod yn agos i ffwrneisi Sirhowy, a chludid ei gorph ar ystyllen i'w gartref ar fore y Sul heibio i gapel Carmel, pan oedd y bobl yn myned i'r oedfa. Dywedai un o'r hen aelodau wrthym flynyddau yn ol, na fu dim erioed yn nes i siglo ei gred ef yn yr athrawiaeth o barhad mewn gras, na hanes y dyn nodedig a thruenus hwn.

Wedi i'r achos ennill ychydig o nerth ac i'r aelodau luosogi, aed i edrych allan am dir i adeiladu capel. Darn o dir agored, ar lan y nant sydd yn rhedeg trwy y Rasau, ac heb fod yn mhell oddiwrth ei hymarllwysiad i'r Ebbwy, yw y fan y saif y capel arno. Mae rhai yn awr yn cofio fod y darn tir hwnw yn arfer cael ei ddefnyddio, ar y pasg a'r Sulgwyn yn neillduol, gan annuwiolion y gymydogaeth at ymladd ceiliogod a champau drygionus eraill. Yn 1820, y dechreuwyd adeiladu y capel, ac agorwyd ef yn Hydref 1821. Mae yn sefyll o fewn sir Frycheiniog, yn mhlwyf Llangynidr, ond o fewn ychydig latheni i sir Fynwy. Cawn yr hanes canlynol am yr agoriad yn Seren Gomer am Ionawr 1822:-"Hydref 17eg a'r 18ed, 1821, agorwyd Ty Addoliad, a elwir Carmel, yn agos i Rydyblew, Brycheiniog, perthynol i'r Anymddibynwyr, dan ofal Mr. Davies, Llangattwg, Crughywell. Dechreuwyd yr addoliad y dydd cyntaf am 3 o'r gloch, trwy ddarllen, mawl, a gweddi, gan Mr. T. Rees, o Ferthyr; pregethodd Mr. B. Moses, New Inn, oddiwrth Ioan xvii. 1., a Mr. J. Jones, Talgarth, oddiwith Iago ii. 5. Am 7, dechreuwyd trwy faw! a gweddi gan D. Evans, Nantyglo; pregethodd Mr. T. Powell, Aberhonddu, yn Saesonaeg, oddiwith Jonah ii. 2, y rhan olaf; a Mr. D. Davies, Penywaun, oddiwrth Mat. xvi. 18., a dybenwyd trwy weddi. Bore dydd Iau am 10, gweddiodd Mr. M. Jones, Merthyr; pregethodd Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Gal. v. 1; a Mr. D. Davies, Penywaun, yn Saesonaeg, oddiwrth 1. Cron.