gyfryw, pan yr ydym yn ddiffygiol o'r moddion angenrheidiol tuag at fod felly. Dyweyd y gall darlleniad diofal o'r Llyfr Gweddi Cyffredin ein gwneyd yn Brotestaniaid, yw dyweyd y gall hyny wneuthur gwyrthiau. Pregeth druenus o wael, yn awr a phryd arall, a hyny, naill ai gan weinidog anwybodus, neu un gwaradwyddus ei gymeriad, neu bob un o'r ddau. Och, pa beth a all hyny wneyd? Ac yn gyffredin, y mae y cyfryw bregethau yn cael eu llenwi a'r fath sothach, fel y mae yn anhawdd penderfynu, pa un a'i arogl y cwrw neu y llogell sydd gryfaf arnynt. Mewn llawer o fanau, prin unwaith yn y flwyddyn y ceir unrhyw fath o bregeth. Ychydig o les a wna haner awr o gawod i'r ddaear agenog ar dymor o sychder mawr. Mae yn rhaid i mi ddyweyd wrthych, a gadael allan y boneddigion, ac ychydig bersonau a gawsant addysg, ie, yr wyf yn beiddio dywedyd yn hyf, nas gallwn ni yn Nghymru, fod yn ddim amgen na Phabyddion, neu rywbeth gwaeth. Nid oes raid i mi eich adgofio am yr heidiau o seremoniau deillion a choel-grefyddol sydd yn ein mysg, yn myned dan yr enw hen arferion diddrwg, y mynych weddio ar y seintiau, a'r pererindodau at fynonau a chreigiau. Na thybiwch fy mod i yn ymhyfrydu i ddynoethi gwendidau fy ngwlad. Mae yn arwydd o ewyllys da i ddyweyd wrth un am ei glefyd yn ngwydd y meddyg. Nid myfi yw y cyntaf, ond y mae ein cydwladwr dysgedig, Dr. Powell, yn cwyno yn ei lyfrau o herwydd ein cyflwr gresynol."
Mae diofalwch pechadurus yr esgobion a'r offeiriaid Cymreig yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ac amddifadrwydd y bobl o foddion gwybodaeth, fel y canlyniad o hyny, i'w gweled yn amlwg yn y ffaith i Air yr Arglwydd gael ei gadw oddiwrth y werin am yn agos i gan' mlynedd ar ol i Babyddiaeth beidio bob yn grefydd sefydledig y wlad. "Buwyd am fwy na thri—ugain—a—deg o flynyddau ar ol sefydliad y diwygiad dan y frenhines Elizabeth, ac am yn agos i gan' mlynedd ar ol ysgariad Prydain oddiwrth Eglwys Rhufain, heb Fiblau yn Nghymru, ond yn unig yn yr eglwysi cadeiriol a'r eglwysi plwyfol. Nid oedd dim darpariaeth wedi cael ei wneyd ar gyfer y bobl yn gyffredin, fel pe na buasai dim a wnelsent hwy a Gair Duw, yn ychwaneg na'i wrandaw yn cael ei ddarllen yn yr eglwysi.[1]
Sylwyd yn barod fod rhanau bychain o'r Ysgrythyrau Sanctaidd wedi cael eu cyfieithu a'u hargraffu yn y Gymraeg yn 1546 a 1551. Yn y flwyddyn 1563, gwnaed gweithred Seneddol yn gorchymyn, "Fod y Bibl, cynwysedig o'r Testament Newydd a'r Hen, yn nghyd a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, a Gweinyddiad y Sacramentau, i gael eu cyfieithu i'r Frythonaeg, neu y Gymraeg; fod y gwaith i gael ei arolygu, ei ddarllen, a'i awdurdodi gan esgobion Llanelwy, Bangor, Tyddewi, Llandaf, a Henffordd; a'i fod i gael ei argraffu, ac i fod yn barod i gael ei ddefnyddio yn yr eglwysi erbyn y dydd cyntaf o Fawrth yn y flwyddyn pymtheg-cant-a-thri-ugain-a-chwech, a bod pob un o'r esgobion rhag-grybwylledig i gael
- ↑ Dr. Llewellyn's Historical Account. P. 36.