xxix. 5.; a Mr. S. Evans, Zoar, Merthyr, oddiwrth Heb. ii. 16, a dybenwyd trwy fawl a gweddi. Am 3, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi, gan Mr. J. Nicholas, Tredegar; pregethodd Mr. M. Jones, Merthyr, oddiwrth Mat. vii. 24-27. Bu genym gyfarfod am 7: dechreuwyd trwy fawl a gweddi gan Mr. D. Jones; pregethodd Mr. Moses, New Inn, oddiwrth Rhuf. iv. 6, 7, 8; a Mr. Davies, gweinidog y lle, oddiwrth Rhuf. xv. 33, a dybenodd trwy fawl a gweddi. Y draul o adeiladu y ty, mae yn debyg, sydd oddeutu 140p. ac y mae 90p. wedi eu casglu yn y gymydogaeth."
Er nad oedd y Carmel cyntaf ond addoldy lled fychan, yr oedd lawer yn helaethach a mwy cyfleus na'r ystafell fechan lle y cynelid y moddion cyn hyny. Wedi cael addoldy, cryfhaodd yr achos a lluosogodd y gwrandawyr yn fawr. Yr oedd yma bregethu cyson bellach fore a hwyr bob Sabboth. Er nad oedd Mr. Davies, Llangattwg, yn gallu ymweled a'r lle ond anfynych, etto, trwy fod Mr. Daniel Jones, o ardal Llanwrtyd, yr hwn oedd yn bregethwr derbyniol a llafurus iawn, wedi dyfod yma i fyw, ac i Mr. Thomas Rees, wedi hyny o Gasgwent, ddyfod yma i gadw ysgol, nid oedd yr eglwys ieuangc yn amddifad iawn o ddoniau gweinidogaethol. Yr oedd yma hefyd amryw wyr rhagorol a galluog fel diaconiaid, megys Edward Reynallt, John Phillips, Isaac Evans, &c. Erbyn y flwyddyn 1824, yr oedd rhif yr aelodau wedi cynyddu i 43.
Yn y flwyddyn hono rhoddasant alwad i Mr. Daniel E. Owen, gwr ieuangc rhyfeddol o enwog fel pregethwr, a myfyriwr y pryd hwnw yn athrofa y Neuaddlwyd. Urddwyd ef yma Medi laf a'r 2il, 1824. Am 3, y dydd cyntaf, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. T. Rees, Llanfaple; a phregethodd y Meistriaid G. Griffiths, Tynygwndwn, ac S. Griffiths, Horeb, oddiwrth 2 Tim. iii. 15, ac 2 Cor. x. 4, 5. Am 6, dechreuwyd gan Mr. T. Williams, myfyriwr yn y Neuaddlwyd; a phregethodd y Meistriaid W. Jones, Rhydybont, a G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 2 Cor. ii. 15, a Zech. iii. 12. Am 10, yr ail ddydd, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. S. Griffiths, Horeb; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Col. iv. 15; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. S. Evans, Zoar, Merthyr; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr; rhoddwyd cynghorion i'r gweinidog ieuangc gan ei ewythr, Mr. T. Griffiths, Hawen, oddiwrth Dan. vi. 20; ac i'r eglwys gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 2 Thes. iii. 1. Ám 3, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed; a phregethodd y Meistriaid D. Davies, New Inn, ac S. Evans, Zoar, oddiwrth Ioan iii. 16, a Salm exviii. 24. Dybenwyd trwy weddi gan Mr. J. Jones, Talgarth. Cyffrodd gweinidogaeth y gwr ieuangc digyffelyb hwn sylw yr holl ardal, fel cyn pen tair blynedd yr oedd yr aelodau wedi cynyddu i chwech ugain o rif, a'r capel wedi myned lawer iawn yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Yr oedd heddwch, cariad, a gweithgarwch crefyddol hefyd yn blaguro yn ardderchog yn yr eglwys. Ar ganol y tymor hafaidd hwn ar yr eglwys, aeth yn auaf du, maith, a blin, trwy i'r gweinidog ieuangc, llafurus, a llwyddianus gael ei gymeryd yn glaf o glefyd nychlyd ac angeuol, yr hwn a'i gwnaeth yn hollol ddiddefnydd am y gweddill o'i oes.
Bu yr eglwys am yn agos i dair blynedd yn disgwyl i weled a oedd gobaith am adferiad iddo, ac wedi cael ar ddeall fod ei glefyd yn hollol anfeddyginiaethol, tua diwedd y flwyddyn 1829, rhoddasant alwad i Mr. John Ridge, y pryd hwnw o'r Bala. Yr oeddid wedi dechreu ail adeiladu y capel yn 1828, ac yr oedd y ty newydd, yr hwn oedd yn fwy na chym-