aint arall a'r cyntaf, yn barod erbyn i Mr. Ridge ddyfod yma. Yr oedd y flwyddyn 1829 hefyd yn un o "flynyddoedd deheulaw y Goruchaf " i eglwysi Cymru. Nid oedd braidd un ran o'r wlad heb deimlo nerth y diwygiad crefyddol digyffelyb, a pha un y bendithiwyd y Dywysogaeth y flwyddyn hono, yr un flaenorol, a'r un ganlynol. Cafodd eglwys Carmel, yn mysg eraill, ei rhan o'r gwlaw graslawn. Felly fe gafodd Mr. Ridge y fraint o ddechreu ei weinidogaeth yma mewn capel newydd, yr helaethaf yn yr holl gwmpasoedd y pryd hwnw, ac ar adeg o ddiwygiad grymus, pan yr oedd dynion o bob oed yn dylifo wrth yr ugeiniau i'r eglwys. Yn fuan wedi iddo ef ymsefydlu yma yr oedd yr aelodau wedi lluosogi i amryw ganoedd. Yn yr wythfed flwyddyn o dymor gweinidogaeth Mr. Ridge, adeiladwyd Saron, Penycae, a gollyngwyd rhai ugeiniau o'r aelodau o Garmel i ddechreu yr achos yno. Er i lawer iawn o'r aelodau a'r gwrandawyr ymadael y pryd hwn, llanwyd eu lle yn fuan gan eraill, fel na chanfyddid nemawr o leihad yn y gynnulleidfa. Bu rhai adegau lled lewyrchus ar yr achos yma drachefn cyn terfyniad tymor gweinidogaeth Mr. Ridge, ond collwyd trwy farwolaeth rai o brif golofnau yr achos, megys Edward Reynallt; John Phillips; Isaac Evans; a John Maliphant. Yn nechreu y flwyddyn 1848, rhoddodd Mr. Ridge ei swydd fel gweinidog i fyny, a symudodd o'r ardal. Bu wedi hyny dros dymorau byrion yn gweinidogaethu yn Melinycwrt, Caerodor, a Maesaleg. Y mae er's blynyddau bellach yn cyfaneddu yn y Casnewydd, ac yn pregethu yn achlysurol, ond yn dechreu teimlo pwys henaint yn gwasgu arno, ac nid rhyfedd, oblegid y mae bellach dros haner can' mlynedd er y pryd yr urddwyd ef yn Mhenygroes, Maldwyn.
Bu yr eglwys heb un gweinidog am flwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Ridge. Yn mis Mawrth 1849, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, y pryd hwnw o Siloa, Llanelli, sir Gaerfyrddin, ac yn nechreu Mehefin symudodd yma. Yn mhen tua dau fis wedi ei ddyfodiad, torodd y geri marwol allan yn arswydus trwy yr holl ardaloedd, ac ar yr un amser dechreuodd diwygiad crefyddol grymus iawn. Er yr awgrymid gan rai mai arswyd y cholera oedd yn peri i'r lluaws ymwthio wrth y canoedd i'r eglwysi, nis gall neb, cymhwys i farnu, lai na phenderfynu fod "llaw rasol yr Arglwydd," yn gystal a'i law farnol, yn gweithio. O ddechreu Awst 1849, hyd ddiwedd Hydref yr un flwyddyn, daeth 396 i'r gyfeillach yn Carmel. Bu farw amryw o honynt cyn cael eu derbyn, darfu i ychydig hefyd droi yn ol at eu hen arferion pechadurus, ond cafodd dros dri chant o honynt eu derbyn i gyflawn aelodaeth. Derbyniwyd 210 yr un Sabboth, sef Hydref 28ain, 1849. Y mae llawer o'r cyfryw yn dal eu ffordd yn deilwng hyd y dydd hwn, tra y mae genym bob sail i gredu fod degau o honynt wedi "marw yn yr Arglwydd," yn ystod yr un mlynedd ar hugain diweddaf. Wedi y rhuthr rhyfeddol yma, bu yr eglwys am ychydig amser yn rhifo tua 520 o aelodau. Dichon na fu un tymor yn ei hanes pryd yr oedd mor lluosog ag yr oedd yn nechreu y flwyddyn 1850. Lleihaodd y rhif i raddau yn y blynyddau dyfodol trwy farwolaethau, symudiadau, &c. Yr ydym yn cofio rhoddi llythyrau ar yr un nos Sabboth i ddeunaw o'r aelodau ar eu hymfudiad i'r America.
Gan fod cryn nifer o aelodau Carmel yn byw yn nghymydogaeth Pontygof, teimlent awydd am gael lle cyfleus yn yr ardal hono i gadw ysgol Sabbothol. Ar ol ystyried y mater penderfynodd yr eglwys adeiladu ysgoldy helaeth, llawn digon i gynwys o bedwar i bum' cant o bobl,