Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y flwyddyn 1852. Yn mhen ychydig amser aed i alw am bregethu yno, ac arweiniodd hyny yn raddol i gorpholiad eglwys Annibynol yn y lle. Daw yr achos hwn dan sylw etto.

Yn nechreu y flwyddyn 1850, cymerodd Mr. T. Rees ystafell eang y tu cefn i'r Refiner's Arms, at bregethu a chynal ysgol Sabbothol i'r Saeson, yr hyn a arweiniodd i adeiladaeth y capel Saesonaeg a'r ysgol Frytanaidd. Daw yr achos Saesonaeg dan sylw yn nes yn mlaen; ond gellir crybwyll yma am yr ysgoldy a adeiladwyd y tu cefn i'r capel Saesonaeg.

Gan fod yma boblogaeth o agos i chwe' mil, ac oll, oddieithr tri neu bedwar o deuluoedd, o'r dosbarth gweithiol, teimlid fod yma angen dirfawr am ysgol ddyddiol. Ffurfiwyd pwyllgorau ar ol pwyllgorau, o'r gwahanol enwadau, er cynllunio pa fodd i gael ysgol ddyddiol. Cydunai pawb fod gwir angen am dani, ond pan elid i ofyn pa swm a gyfranai pob enwad ati ni ellid cael un ateb boddhaol, ac felly buwyd am flynyddau yn ymgynghori, ond heb wneyd dim. O'r diwedd, wrth gasglu at adeiladu capel Saesonaeg, penderfynodd ysgrifenydd yr hanes yma y mynasai gael ysgoldy yn ymyl y capel. Apeliodd at gyfeillion crefydd ac addysg, yn mhell ac agos, am eu cymorth, a llwyddodd i gael cymaint ag oedd yn eisiau at yr adeilad. Yr oedd yr ysgoldy, yn annibynol ar y capel, yn costio rhwng 500p. a 600p. Roddodd eglwys Carmel 100p, o'r swm hwn, heblaw cyfraniadau personol amryw o'r aelodau. Gorphenwyd yr adeilad yn 1857, ac agorwyd ynddo ysgol Frytanaidd. Y gyntaf, a'r unig ysgol gyhoeddus ac effeithiol, yn y gymydogaeth. Mae yr ysgoldy yn un o'r rhai mwyaf cyfleus yn y wlad, ac er mai arian yr Annibynwyr, gan mwyaf oll, a'i hadeiladodd, y mae darbodaeth yn y weithred ei fod yn ysgoldy rhydd, heb fod dim yn enwadol i berthyn iddo, ond yn unig ei fod ar y Sabboth i fod at wasanaeth ysgol Sabbothol yr Annibynwyr Saesonaeg. Tua diwedd y flwyddyn 1861, ar alwad oddiwrth yr eglwys yn Ebenezer, Abertawy, ac ar gymhellion taer amryw gyfeillion y rhoddai bwys ar eu barn, gwnaeth Mr. T. Rees ei feddwl i fyny i ymadael a'i eglwys garedig, a'i gyfeillion hoffus yn Cendl, a symud i Abertawy. Yr ystyriaeth nad oedd ganddo ddim yn ychwaneg i'w wneuthur at helaethu terfynau yr achos yn Cendl, a bod yn Abertawy faes helaeth iddo i arfer cymaint o ddylanwad ag a feddai er mantais i'r achos, a'i harweiniodd i wneyd ei feddwl i fyny i symud. Symudodd ar y dydd diweddaf o Ebrill 1862.

Bu yr eglwys yn Carmel am agos ddwy flynedd heb weinidog ar ol hyn. Yn niwedd y flwyddyn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Hughes, o'r Trallwm, Maldwyn, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ar yr ail Sul o'r flwyddyn 1864. Ganwyd Mr. Hughes yn mhlwyf Llanfihangel, Maldwyn, ac ymunodd ag eglwys Dduw pan yn saith oed; dechreuodd bregethu yn bedwar-ar-ddeg oed; bu yn derbyn addysg yn athrofa y Bala ac Aberhonddu; urddwyd ef yn Trallwm Ionawr 5ed, 1851, ac yno y bu nes iddo symud i Gendl.

Gan fod capel Carmel, yr hwn a adeiladwyd yn 1828-9, wedi dadfeilio yn fawr, barnwyd yn briodol ei ail adeiladu. Ar y 15fed o Awst, 1864, gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel newydd gan Mrs. Joseph Needham, merch Mr. Thomas Evans, Llanwrthwl, yr hon, yn nghyd a'i thad, sydd er's amser bellach wedi cael eu casglu at eu tadau. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd yr adeilad, a Mr. Stephen Davies, un o'r diaconiaid, oedd yr adeiladydd. Maint y ty yw 62 troedfedd wrth 40 troedfedd a naw modfedd y tu fewn i'r muriau, ac y mae yn cynwys 750 o eistedd-