Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

leoedd. Mae o wneuthuriad cadarn, ac yn un o'r addoldai mwyaf prydferth a chyfleus yn y Dywysogaeth. Agorwyd ef ar y 14eg, 15fed, a'r 16eg o Ionawr, 1866. A ganlyn sydd ddifyniad o hanes cyfarfodydd yr agoriad, a ymddangosodd yn y Diwygiur am Mawrth 1866: "Bore dydd Sabboth Ionawr 14eg, er fod y tywydd yn erwin yr oedd y capel eang wedi ei lenwi yn dda o bobl erbyn deg o'r gloch. Dechreuwyd yr addoliad trwy i'r Parch. R. Hughes, gweinidog y lle, roddi yr hen benill adnabyddus hwnw i'w ganu

'Gosod babell yn ngwlad Gosen,
Dere Arglwydd yno'th hun.'

yr hwn a ganwyd gan y dorf yn cael eu harwain gan harmonium gref, yr hon a chwareuid gan Mr. Jacob Davies. Wedi hyny darllenodd y Parch. T. Evans, Llanwrthwl, 2 Cron. vi., a gweddiodd yn ddwys a thaer. Traddodwyd y bregeth gyntaf gan y Paich. T. Rees, D.D., Abertawy, (diweddar weinidog y lle). Nid oedd neb teilyngach o'r fraint o draddodi y bregeth gyntaf o fewn y capel hardd i'r gynnulleidfa y bu yn gweinidogaethu iddi dros lawer o flynyddau. Ei destyn ef oedd Mat. xii. 46-50. Dilynwyd ef gan y Parch. D. Rees, Llanelli, ei destyn yntau oedd Haggai i. 4. Am 2 o'r gloch, dechreuodd y Parch. D. Rees; a phregethodd y Parch. Dr. Rees, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xix. 10; a'r Parch. T. Edwards, (Methodistiad Calfinaidd), Penycae, oddiwrth Salm lxviii. 18. Am 6, dechreuodd y Parch. E. Evans, gynt o Nantyglo, yr hwn sydd yn byw yn y lle; a phregethodd Dr. Rees, a'r Parch. D. Rees, oddiwrth Phil. iii. 12, ac Actau iii. 1-11. Dydd Llun, ymgynnullwyd erbyn 2 o'r gloch, a dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. Mr. Thomas, (Bedyddiwr), Seion, Brynmawr; a phregethodd y Parch. T. Evans, Llanwrthwl, oddiwrth Ioan xv. 27; a'r Parch. Ellis Hughes, Penmain, oddiwrth Actau x. 36. Am 6, dechreuodd y Parch. Mr. Jones, (Wesleyad), Penycae; a phregethodd y Parch. J. Davies, Caerdydd, oddiwrth Esay xl. 9; a'r Parch. R. Thomas, Bangor, oddiwrth Rhuf. iii. 31. Dydd Mawrth, am 10, dechreuodd y Parch. T. Jeffreys, Peny cae; a phregethodd y Parch. D. Jones, B.A., Merthyr, oddiwrth Mat. x. 2-4, ac Actau i. 13; a'r Parch. R. Thomas, Bangor, oddiwrth 1 Tim. iii. 16. Am 2, dechreuodd y Parch. J. Davies, Gedeon, sir Benfro; a phregethodd y Parch. D. Jones, B.A., yn Saesonaeg, ar Rhuf. v. 7, 8; a'r Parch. Thomas Thomas, Glandwr, ar 1 Tim. iii. 14, 15. Am 6, dechreuodd y Parch. J. Ridge, Maesaleg; a phregethodd y Parch P. Howells, Ynysgau, ar Luc xv. 2; a'r Parch. R. Thomas, Bangor, Rhuf. vii. 9."

Traul yr adeiladaeth oedd ychydig dros 2,000p., ac erbyn diwedd cy fodydd yr agoriad yr oedd y swm o 670p. wedi eu casglu. Oddiar hy hyd yn awr y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa wedi bod yn ddiw iawn yn lleihau y ddyled, a bwriedir talu y geiniog olaf erbyn diwedd flwyddyn 1870. Mae hyn yn orchestwaith ardderchog, yn enwedig pan gofir fod masnach trwy yr holl wlad, ac yn enwedig yn yr ardal hon, wedi bod yn hynod o ddilewyrch er pan yr adeiladwyd y capel.

Erbyn fod y capel newydd yn barod, yr oedd y diweddar Mrs. Needham, a'i phriod caredig, Joseph Needham, Ysw., wedi darparu set o lestri arian at weini yr ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd, i'w rhoddi yn anrheg i'r eglwys. Cyflwynwyd hwy yn garedig gan y wraig dda yn