Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/194

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngwydd y gynnulleidfa nos ail ddydd yr agoriad. Yn fuan ar ol hyn aeth Mrs. Needham oddiwrth ei gwaith at ei gwobr..

Bydd adeiladaeth y capel newydd a'r ymdrech egniol i dalu am dano mewn cyn lleied o amser, ac yn wyneb amgylchiadau mor anffafriol, yn gofgolofn anrhydeddus i goffadwriaeth Mr. Hughes a phobl ei ofal. Hyderwn fod etto o flaen y gweinidog a'r eglwys dymor maith o lwyddiant a chysur.

Mae yr eglwys hon, o'i ffurfiad hyd yn bresenol, wedi cadw ei lle yn y rhes flaenaf o eglwysi rhagorol am ei gweithgarwch, ei heddychlondeb, a'i haelioni. Nid oes un eglwys yn y Dywysogaeth wedi cyfranu yn fwy haelionus, yn ol eu rhif a'i gallu, flwyddyn ar ol blwyddyn, at wahanol sefydliadau cyhoeddus, megys y Genhadaeth, y Colegau, &c. Pe buasai pob eglwys yn Nghymru, yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf, wedi cyfranu yn gyfartal i'r eglwys hon, buasai cyllid ein sefydliadau enwadol yn bedwar cymaint ag ydynt.

Y personau canlynol, cyn belled ag yr ydym yn cofio, yw y rhai a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon:

Isaac Harris, Talsarn, ac wedi hyny o'r Mynyddbach, gerllaw Abertawy. Pe buasai cymmeriad moesol y gwr hwn yn ogyfuwch a'i alluoedd, a'i ddoniau fel pregethwr, buasai yn un o'r gweinidogion blaenaf yn ei oes. Treuliodd y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes heb fod ar enw crefydd o gwbl. Bu farw yn Llundain ddwy neu dair blynedd yn ol.

Isaac Thomas. Ychydig cyn terfyniad tymor gweinidogaethol Mr. Ridge y dechreuodd ef bregethu. Derbyniodd ei addysg yn Hanover, ac urddwyd ef yn Nhowyn, Meirionydd, lle y mae hyd yn bresenol yn ddefnyddiol iawn.

Cadwaladr W. Evan, B.A. Daeth ef yma yn llangc ieuangc o Feirionydd, at ei ewythr a'i fodryb, Mr. a Mrs. Ridge. Wedi iddo ddechreu pregethu, aeth i athrofa y Bala, ac oddiyno i goleg Airedale. Y mae er's yn agos ugain mlynedd bellach yn weinidog defnyddiol a dylanwadol iawn yn Adelaide, South Australia.

Jonah Roberts. Dechreuodd ef bregethu tua y flwyddyn 1854. Bu yn derbyn ei addysg yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Yn 1860, urddwyd ef yn Maesyrhaf, Castellnedd, lle y mae hyd yn bresenol.

John Evans. Dechreuodd yntau bregethu tua yr un amser a J. Roberts. Bu am flynyddau yn athrofau y Bala a Chaerfyrddin, ond nid yw etto wedi derbyn galwad oddiwith unrhyw eglwys. Y mae er's rhai blynyddau bellach yn dilyn galwedigaeth fydol yn Llundain.

Edward Edmunds. Addysgwyd y brawd ieuangc galluog hwn yn y Bala a Chaerfyrddin, ond cyn cwbl orphen ei dymor yn Nghaerfyrddin, gwaelodd ei iechyd yn fawr, a bu yn dyoddef oddiwrth nychdod am gryn amser. Pan deimlodd ei nerth yn cryfhau ychydig, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Ruabon, ac urddwyd ef yno yn 1864. Ond gorfodwyd ef gan gystudd i roddi ei weinidogaeth i fyny yn mhen ychydig fisoedd. Y mae etto yn fyw, ond yn rhy wanaidd i bregethu.

Bu cymanfaoedd llewyrchus iawn yn Cendl yn 1840, 1849, ac 1859. Yn y ddwy ddiweddaf teimlid nerthoedd y dylanwadau dwyfol yn anorchfygol. Mae canoedd etto yn fyw nad ydynt wedi anghofio y teimladau yr oeddynt ynddynt ar nos olaf cymanfa 1849, pan, ar ddiwedd pregeth Mr. Powell, Caerdydd, y dechreuwyd molianu a gweddio, ac y parhawyd felly am oriau. Ac yn nghymanfa 1859, pan y tynai yr hen frawd Harries o'r