Morfa, yn ei weddi fythgofus, y gwlaw graslon i lawr nes trochi yr holl dorf. Yn sicr nid â y cymanfaoedd hyn yn anghof gan ryw rai tra y byddont byw, ac yr ydym yn credu y bydd gan lawer achos i ddiolch am yr hyn a brofasant ynddynt i dragywyddoldeb.
Cafodd yr eglwys hon o dro i dro ei bendithio ag adfywiadau crefyddol grymus iawn. Bu yma lwyddiant ac ychwanegiadau mawr trwy yr agos o holl dymor gweinidogaeth effeithiol Mr. D. E. Owen. Daeth Mr. J. Ridge yma ar ganol diwygiad nodedig, yr hwn a barhaodd am tua blwyddyn ar ol ei ddyfodiad. Fel y crybwyllwyd yn barod derbyniodd Mr. T. Rees dros 300 yma yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth, a thrachefn yn 1859 a '60 bu yma lwyddiant mawr, ac ychwanegwyd dros 100 at yr eglwys mewn tua naw mis. Hyderwn yr hynodir tymor gweinidogaeth Mr. Hughes ag adfywiad grymusach nag un a deimlwyd yma yn nhymorau ei flaenafiaid. Byddai hanes eglwys Carmel yn gwbl anmherffaith a diffygiol heb ychydig o nodiadau ar gymmeriad crefyddol rhai o'r hen frodyr rhagorol fuont yn llafurio gyda yr achos, i'w gyfodi o'i iselder a'i wendid i'r nerth a'r urddas' y mae wedi gyrhaeddyd er's blynyddau bellach. Y ddau brif offerynau yn nghyfodiad a magwriaeth yr eglwys hon oeddynt EDWARD REYNALLT a JOHN PHILLIPS neu "Sion Phylip" fel y gelwid ef yn gyffredin. Dichon na chafodd unrhyw eglwys, mewn unrhyw wlad nac oes, ei bendithio a rhagorach swyddogion na'r ddau wr da hyn. Ganwyd Edward Reynallt yn Nghwmcelyn, plwyf Aberystruth, tua y flwyddyn 1775. Tueddwyd ef yn ei ieuengetyd i fyned i Langattwg i wrandaw Mr. Davies, a thrwy ei weinidogaeth danllyd ef, cafodd ei ennill i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ennillodd gymmeriad mor uchel fel crefyddwr, fel y cafodd yn mhen ychydig o flynyddau ei ddewis yn ddiacon yno. Pan ddechreuwyd yr achos yn Nghendl, ymroddodd ef a'i gyfaill John Phillips, a'u holl egni o'i blaid. Bu yn aelod ac yn ddiacon dylanwadol yn Carmel o gychwyniad yr achos hyd derfyn ei oes, yn mis Hydref 1841. Ganwyd John Phillips yn Nghwmclydach, Llanelli, Brycheiniog, tua y flwyddyn 1779. Ymunodd yntau a'r eglwys yn Llangattwg yn y flwyddyn 1800, a bu yn teithio yn ffyddlon tuag yno nes dechreu yr achos yn Nghendl, yna ymunodd yno, a bu yn ymgeleddwr ffyddlon i'r eglwys yn ei mabandod a'i gwendid, a pharhaodd i fod y dyn anwylaf a ffyddlonaf yn y gymdeithas nes i'w Dad nefol ei alw i'r eglwys orfoleddus, ar ol tair wythnos o gystudd, Awst 24ain, 1845.
Yr oedd John Phillips ac Edward Reynallt yn caru eu gilydd fel Dafydd a Jonathan, ac yn cydweithredu yn hyfryd, er eu bod yn gwahaniaethu yn fawr y naill oddiwrth y llall mewn amryw bethau. Dyn lled fawr o gorff oedd Edward Reynallt, yn hytrach yn wyllt ei dymer, yn wrol a llewaidd yr olwg arno, yn siarad yn arw, a phan gyfodai i fyny i ddyweyd ei feddwl teimlai pob un fyddai dan ddysgyblaeth eglwysig arswyd i fod yn ei bresenoldeb. Byddai ei eiriau fel cleddyf daufiniog yn tori o bob tu, ond cyn gynted ag y canfyddai arwyddion edifeirwch yn y troseddwr troai y ceryddwr llewaidd yn dalp o dynerwch a theimlad. Gwyddai y rhai a'i hadwaenai fod calon llawn o ras, a theimlad dros ogoniant Duw a lles eneidiau dynion, yn llechu dan y wynebpryd sarug a'r geiriau geirwon, ac felly yr oedd yn cael ei garu gan bob dyn da, a'i arswyd ar y pechaduriaid yn Seion, a'i ddychryn yn dal y rhagrithwyr.
Yr oedd John Phillips, o'r tu arall, yn ddyn lled fychan o gorff, a mwyneidd-dra a thynerwch ei galon yn argraffedig ar ei wyneb. Cariad wedi