Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgnawdoli oedd ef. Er fod ei burdeb personol uwchlaw amheuaeth, dichon y buasai ei hynawsedd naturiol yn ei arwain weithiau i fod yn rhy dyner wrth ddynion drwg, ond gyferbyn a'i dynerwch ef yr oedd "mèn ddyrnu ddanheddog" Edward Reynallt yn barod i waith pan fuasai galwad am dani. Edward Reynallt oedd Iago yr eglwys, i geryddu pechod yn ddiarbed, a John Phillips, oedd Ioan y gymdeithas, i nawseiddio ei holl gyflawniadau a chariad. Buasai yr eglwys yn ddiffygiol heb y naill yn gystal a'r llall. Yr oedd y ddau yn nodedig am eu ffyddlondeb gyda phob rhan o waith crefydd. Er eu bod yn byw ar y Brynmawr, dwy filldir oddiwrth y capel, nid oedd na gwynt na gwlaw, oerni na gwres yn eu cadw o'r moddion ar y Sabboth a'r wythnos. Pwy bynag fyddai yn absenol byddent hwy yno. Mae eu coffadwriaeth yn barchus gan bawb o hen aelodau a gwrandawyr Carmel, a chan bawb o'u cydnabod, o bob enwad crefyddol yn yr ardal. Er eu bod wedi marw y maent yn llefaru etto, a pharhant i lefaru tra y byddo eglwys i Grist yn Carmel, Cendl. Cydweithiwr ffyddlon gyda'r blaenoriaid enwog hyn oedd Isaac Evans, mab yn nghyfraith y Parchedig Mathusalem Jones, o Ferthyr. Yr oedd yntau yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn Gristion o'r radd uchaf. Y mae wedi cael ei gasglu at ei dadau, oddiar Gorphenaf 10fed, 1838, pan yr oedd yn 57 oed. Pan yr oedd y gwyr da hyn yn dechreu heneiddio a llesgau, yr oedd John Maliphant, mab-yn-nghyfraith John Phillips, yn codi yn gyflym i ddylanwad a defnyddioldeb yn yr eglwys, os nad ydym yn camgymeryd yr oedd ef yn enedigol o Gydwely, sir Gaerfyrddin, ac yn un o hiliogaeth y French Refugees, neu y Protestaniaid a erlidiwyd allan o Ffraingc yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ymunodd ag eglwys Crist yn un-ar-ddeg oed, a chynyddodd yn ei ffyddlondeb a'i ddefnyddioldeb hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 14eg, 1847, yn 43 oed, er dirfawr golled i'w deulu lluosog, a'r eglwys o'r hon yr oedd yn brif ddiacon. Yr oedd yn ddiail am ei wasanaethgarwch i'r ysgol Sabbothol. Y fath oedd ei barch gan yr ysgol fel y casglasant fodd i osod côf-faen o farmor gwyn ar fur y capel o anrhydedd i'w goffadwriaeth. Cymerwyd lle John Maliphant gan David Evans, o Benycae. Dyn da a galluog iawn. Bu yntau farw yn Chwefror 1851, pryd nad oedd yn nemawr dros ddeugain oed. Y diweddaf a grybwyllwn o ffyddloniaid yr eglwys hon yw Dafydd Gruffydd, yr hwn a hunodd yn yr Arglwydd Ionawr 31ain, 1865, yn 64 oed. Yr oedd ef yn enedigol o blwyf Llanllwni, sir Gaerfyrddin, ac yn aelod gwreiddiol o gapel Noni. Bu yn aelod defnyddiol yn Carmel am fwy na deng mlynedd ar hugain, ac yn ddiacon am ddeuddeg neu bymtheg mlynedd. Efe oedd apostol y plant ac ieuengetyd yr eglwys. Ni welsom ddyn erioed yn rhagorach yn ei ddoniau i fagu a meithrin plant a phobl ieuaingc yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

DAVID DAVIES. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Llangattwg y bydd lle priodol ei fywgraphiad ef.

DANIEL E. OWEN. Ganwyd ef yn Nhrefdraeth, sir Benfro, Ionawr 19eg, 1803. Yr oedd ei rieni, William a Mary Owen, yn bobl ragorol am eu duwioldeb, a'i fam yn chwaer i'r enwog Thomas Griffiths, Hawen. Rhagorai yn fawr ar ei gyfoedion am ei ddifrifoldeb a'i ddiwydrwydd i