Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddysgu ei wersi yn yr ysgol, pryd nad oedd dros chwe' mlwydd oed. Arferai fyned allan i'r ardd a manau dirgel eraill i weddio yn yr oedran tyner hwnw. Aeth i'r gyfeillach eglwysig yn ieuangc iawn. Pan ofynodd Mr. Henry George, y gweinidog, iddo y noson gyntaf y daethai i'r gyfeillach, er pa bryd y dechreuodd deimlo gwasgfa am fater ei enaid, "Erioed, ar a wn i," oedd ei ateb. Gofynodd un o'r hen aelodau iddo pa beth a olygai wrth arfer y gair erioed? Atebodd, "Er cyn côf genyf; a hyny a achoswyd wrth glywed fy nhad yn darllen penod bob nos, ac yna yn diffodd y ganwyll, yn myned ar ei luniau, ac yn ymddyddan a rhywun yn y tywyllwch, a mam yn wylo yr holl amser hyny. Yr oeddwn yn methu deall a phwy yr oedd fy nhad yn ymddyddan. Wedi iddo gyfodi a goleuo y ganwyll, nid oedd yno neb ond y teulu. Wrth weled fy nhad yn parhau yn yr un dull, tybiais innau y dylaswn wneyd yr un fath ag ef, a dechreuais. Yr oeddwn yn cael pleser mawr, etto yr oeddwn yn gofyn, Ar bwy yr wyf yn galw? Wrth bwy yr wyf yn dywedyd?' A'r ateb oedd genyf i mi fy hun oedd, mai ymddyddan yr oeddwn a'r un yr oedd fy nhad yn ymddyddan ag ef wedi diffodd y ganwyll." Gofynodd y gweinidog iddo a oedd yn penderfynu glynu wrth yr Arglwydd? Atebodd, "O! ydwyf; y Duw oedd gan fy nhad wedi diffodd y ganwyll a gaiff fod yn Dduw i mi byth.

Wedi ei dderbyn, cynyddodd i'r fath raddau mewn gwybodaeth, profiad, a phob rhinwedd crefyddol, fel y penderfynodd yr eglwys roddi anogaeth iddo i ddechreu pregethu, pryd nad oedd ond rhwng deg ac uu-ar-ddeg oed. Corff eiddil a bychan iawn oedd ganddo i ateb i'w oed, ac felly yr oedd ei weled yn sefyll ger bron cynnulleidfa yn peri syndod i bawb, ac yn tynu lluaws i'w wrandaw. Anogwyd ef yn fuan i fyned allan i'r capeli cymydogaethol. Byddai raid gosod cadair o droedfedd i ddeunaw modfedd o uchder yn mhob pulpud iddo sefyll arni, mewn trefn iddo fod yn ngolwg y gynnulleidfa. Yr oedd y capeli yn rhy fychain gan fynychaf i gynwys ei wrandawyr. Aeth y son am dano yn agos ac yn mhell. Yr oedd Mr. Griffiths, Hawen, unwaith yn y Bronwydd, ac yn nghanol ei ymddyddanion a Mrs. Lloyd, gofynai y foneddiges iddo a oedd efe wedi clywed am y plentyn rhyfeddol oedd yn pregethu mor boblogaidd yn sir Benfro, "Ydwyf Madam, mab fy chwaer i ydyw y plentyn," atebai Mr. Griffiths. Yna holodd Mrs. Lloyd yn mhellach yn ei gylch, ac wedi cael ar ddeall mai pobl isel eu hamgylchiadau oedd ei rieni, cynygiodd hi, yn ol ei harfer haelionus, ei anfon i ysgol Ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, a'i gynal yno. Wedi myned i'r ysgol, ymroddodd a'i holl egni i ddysgu; ond gorfodid ef gan daerni pobl i fyned allan yn fynych iawn i bregethu i dai a chapeli wedi eu gorlenwi. Gan nad oedd eisoes ond gwanaidd iawn o gyfansoddiad, darfu i'r ychydig nerth oedd ynddo gael ei ddifa yn llwyr mewn ychydig amser wrth ormod o lafur, a chymerwyd ef yn beryglus o glaf. Symudwyd ef, yn ol cyfarwyddyd y meddygon, o Gaerfyrddin at ei ewythr i sir Aberteifi. Bu yno am amser hir mewn nychdod a gwendid mawr. Pan adferodd ei iechyd ychydig aeth i'r ysgol i'r Neuaddlwyd, lle y bu o 1822 hyd 1824, pryd y symudodd i Gendl. Ni chafodd iechyd i gyflawni ei weinidogaeth yno ond am brin dwy flynedd, er iddo aros yn y lle tua thair blynedd. Pan ballodd ei iechyd yn hollol aeth adref i Drefdraeth. Gofalodd yr eglwys yn garedig am dano trwy anfon y casgliad misol at y weinidogaeth iddo yn rheolaidd am fwy na dwy flynedd, ac hefyd anrhegion o rai degau o bunau at dalu y meddygon. Ond ni allai caredigrwydd ei eglwys, tyner-