Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/198

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wch ei fam, na gofal y meddygon gadw angau ymaith. Wedi hir nychu dan effeithiau angeuol y parlys, yr hwn oedd er's blynyddau wedi dinystrio ei gôf a'i lafur i raddau blin, bu farw yn yr Arglwydd Ionawr 27ain, 1830, yn 27 oed.[1]

Yr oedd Mr. Daniel E. Owen yn un o'r gweinidogion ieuangc hynotaf a mwyaf parchus yn ei oes. Nid ydym yn cofio clywed am neb a ddechreuodd bregethu mor ieuangc, nac am nemawr a fu mor barchus, poblogaidd, a defnyddiol am y tymor byr a gafodd i weithio yn ngwinllan ei Arglwydd. Dywedir ei fod yn hynod am ei dduwioldeb, tynerwch ei gydwybod, a'i awydd i ryngu bodd i'r Arglwydd yn mhob peth. Yr oedd mwyneidddra ei dymer yn ei wneyd yn anwyl gan bawb; ac yr oedd ei ddull eglur, efengylaidd, ac effeithiol o bregethu y fath fel y swynai ddynion o bob oed a sefyllfa i'w wrandaw. Gorlanwodd y capel yn Nghendl yn yr amser byr y bu yno, ac ennillodd iddo ei hun le dwfn yn serchiadau yr holl gymydogaeth. Mae yno rai dynion yn fyw yn awr nas gellir crybwyll ei enw yn eu clyw heb dynu dagrau i'w llygaid. Awgrymai llawer yn amser ei gystudd a'i farwolaeth mai y prif achos o'i symudiad mor fuan o'r byd, ydoedd fod pobl ei ofal wedi rhoddi gormod o'u serch arno. Os felly yr oedd, mae yn hawddach maddeu iddynt am ladd eu gweinidog â charedigrwydd, nag i lawer o eglwysi sydd "yn lladd eu prophwydi, ac yn llabuddio y rhai a anfonir atynt" âg oerni a chreulondeb.

Claddwyd Mr. Owen yn mynwent capel Ebenezer, Trefdraeth, lle y mae maen prydferth ar ei fedd. Brodyr iddo ef oedd Mr. John Owen, yr hwn a fu am rai blynyddau yn gydweinidog â Mr. Henry George yn Brynberian a Maenclochog, a Mr. Benjamin Owen, Zoar, Merthyr.

SEION, RHYMNI.

Mae tair sir, sef Mynwy, Brycheiniog, a Morganwg, yn cyfarfod yn nghymydogaeth gwaith haiarn Rhymni. Mae y boblogaeth, yr hon nid yw yn awr nemawr dan ddeng mil o bobl, yn cyfaneddu yn mhlwyfydd Bedwellty, Gelligaer, a Llangynidr. Mae yr ardal, a adwaenir wrth yr enw Rhymni, yn cyrhaedd o Bontllechryd i Bontlottyn—pellder o tua dwy filldir, a gellir cyfrif ei lled yn gyflawn filldir. Ychydig, mewn cydmariaeth i'w rhif bresenol, oedd nifer y trigolion yma ddeugain mlynedd yn ol. Dichon nad oeddynt y pryd hwnw yn gyflawn fil o rifedi.

Dechreuwyd achos yr Annibynwyr yn y lle hwn yn gynar yn y ganrif bresenol. Yr oedd yma rai Annibynwyr yn byw tua y flwyddyn 1808, a chyn hyny, a phregethu achlysurol yn eu tai. Yr oedd Andrew Thomas, y saer, un o aelodau y Brychgoed, yn derbyn pregethwyr i'w dy y pryd hwnw. Yn y flwyddyn 1811, daeth Mr. David Stephenson i fyw i'r lle, ac yn mysg yr Annibynwyr proffesedig yma yr amser hwnw, neu yn fuan wedi hyny, gellir enwi Evan Bevan, Israel Jayne, Elias Elias, Samuel Walters, Benjamin Havard, Morgan Rees, a John Davies, yn nghyd a rhai gwragedd. Bernir na chawsant eu corpholi yn eglwys cyn y flwyddyn 1819, a changen o Bethesda, Merthyr, y cyfrifid hwynt; ond yr oedd yma wasanaeth crefyddol lled reolaidd yn cael ei gadw mewn gwahanol annedd-dai dros ddeng mlynedd cyn hyn.

Yn mhen ychydig amser wedi corpholiad yr eglwys teimlai amryw o'r

  1. Cofiant Mr. Griffiths, Hawen, tudalenau 29-35.