Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/199

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfeillion awydd i urddo Mr. David Stephenson yn weinidog iddynt, gan nas gallasai Mr. Jones, gweinidog Bethesda, ymweled a hwynt ond lled anfynych. Gwrthwynebid hyn yn benderfynol iawn gan ddau o weinidogion Merthyr, a chan un o aelodau yr eglwys fechan yn Rhymni, yr hyn a barodd i'r peth gael ei oedi am yn agos ddwy flynedd. O'r diwedd torwyd trwy bob rhwystrau, a daeth Mr. Hughes, Groeswen; Mr. Jones, Pontypool, ac eraill, yma ar y 27ain o Fehefin, 1821, ac a urddasant Mr. Stephenson yn weinidog i'r ddeadell fechan. Yn nhy Mr. Stephenson, yn Rhestr Tre Evans, yr arferid cadw y cyfarfodydd, a bwriedid cynnal gwasanaeth yr urddiad yn yr awyr agored o flaen drws ei dy ef. Ond rhoddodd y Methodistiaid fenthyg eu capel i gynal y cyfarfodydd. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn:-Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Thomas, Nebo; a phregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau, oddiwrth Col. i. 18; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Lewis, Aber; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, Penywaun; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth Ioan iv. 34, ac i'r eglwys gan Mr. E. Jones, Pontypool, oddiwrth Heb. xiii. 7. Am 3, dechreuwyd gan Mr. R. Morris, Tredegar, a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, a Mr. T. Davies, Cymar, oddiwrth Ioan x. 29, a Seph. iii. 17. Llawn fwriadai Mr. Thomas, Penmain, hefyd i fod yn yr urddiad, ond lluddiwyd ef gan afiechyd. Rhif yr eglwys pan urddwyd Mr. Stephenson oedd 16, ond yn mhen tua thair blynedd yr oeddynt wedi cynyddu i 60. Tua y flwyddyn 1823, cymerodd Mr. Stephenson ofal eglwys yn Nantyglo, mewn cysylltiad a Rhymni, a bu yn gwasanaethu y ddwy am oddeutu tair blynedd, yna cyfyngodd ei lafur i Nantyglo yn unig, ac anogodd y cyfeillion yn Rhymni i roddi galwad i Mr. John Davies, un o'r aelodau, yr hwn a ddechreuodd bregethu yno dan ei weinidogaeth ef. Cydsyniodd yr eglwys a'r cyngor, ac urddwyd Mr. Davies yn weinidog iddynt. Yr ydym wedi methu taro wrth hanes urddiad Mr. Davies yn misolion yr amser hwnw, ond yr ydym yn sicr mai ryw amser yn 1828 yr urddwyd ef. Perchid ef yn fawr gan bobl ei ofal, a bu yn ddefnyddiol iawn dros dymor byr ei weinidogaeth. Bu farw yn y flwyddyn 1835.

Buy gynnulleidfa yn ymgynnull bob boreu Sabboth yn nhy Mr. Stephenson, yn Rhestr Tre Evans, ac yn yr hwyr, yn nhy Cecilia Davies, gwraig weddw, ac aelod gyda y Bedyddwyr, hyd nes i'r anedd-dai fyned yn rhy fychain, yna y bu raid iddynt rentu ystafell eang y tu cefn i'r Rhymni Inn. Buont yn addoli yn y lle hwnw am tua phymtheg mlynedd cyn gallu cael tir at adeiladu capel.

Yr oedd un Johnson yn feistr y gwaith, ac yn elyn Ymneillduaeth, os nad pob math o grefydd, ac efe fu y rhwystr iddynt gael tir at adeiladu. Dechreuasant adeiladu addoldy lle y mae capel y Graig yn bresenol, yn y flwyddyn 1827, ac wedi codi y muriau tuag wyth neu ddeg troedfedd, bu raid atal y gwaith, er fod y ty ar dir y Duke o Beaufort, o herwydd fod y Johnson erlidgar a grybwyllwyd yn gomedd iddynt gael ffyrdd i fyned ato drwy dir y cwmni. Er nad oes nemawr o berchenogion tiroedd a meistri gweithiau Cymru yn Ymneillduwyr, ychydig o honynt sydd wedi ymddwyn mor erlidgar ar creadur diffaith hwn. Yr oedd y Methodistiaid a'r Bedyddwyr wedi bod mor ffodus a chael lle i adeiladu cyn i Johnson ddyfod i awdurdod yn y lle. Trwy orthrwm y gwr hwn cadwyd Annibynwyr Rhymni am ugain mlynedd heb le cyfleus at addoli, yr hyn fu yn anfantais ddirfawr i'r achos.