eu dirwyo i ddeugain punt os na fydd y gwaith wedi ei orphen." Pa beth bynag a ddaeth o'r dirwyon, fe esgeuluswyd y gwaith. Yn mhen blwyddyn ar ol yr amser a nodid yn y ddeddf, gwnaeth y Testament Newydd yn unig, ac nid yr holl Fibl, fel y gorchymynid, ei ymddangosiad. Gan William Salesbury, Yswain, y cyfieithwyd ef oll, oddieithr 1 Timotheus, yr Hebreaid, Iago, a dau epistol Pedr, y rhai a gyfieithwyd gan Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi, a'r Datguddiad, cyfieithiedig gan Thomas Huet, offeiriaid Cefnllys, yn sir Frycheiniog, a Dyserth, yn sir Faesyfed. Ar ol hyn aeth un-mlynedd-ar-hugain heibio cyn i'r Hen Destament gael ei gyfieithu a'i gyhoeddi; Dr. William Morgan, person Llanrhaiadr-yn-Mochnant, a gyfieithodd yr Hen Destament. Darfu iddo hefyd ddiwygio cyfieithiad Salesbury o'r Testament Newydd, a chyhoeddi y Bibl yn gyflawn mewn cyfrol fawr un plyg, yn 1588. Mae Dr. Llewellyn yn ymdrechu esgusodi yr esgobion am eu hesgeulusdod i ddwyn allan gyfieithiad o'r holl Fibl rhwng 1563 a 1566, ac yn awgrymu na roddwyd digon o amser iddynt at y fath waith, ond y mae Dr. Morgan, yn ei lythyr Lladin at y frenhines Elizabeth, yr hwn sydd yn ei argraffiad o'r Bibl, yn priodoli y peth i ddiofalwch a seguryd, ac y mae y seraphaidd John Penry, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd wedi cyfieithu y Prophwydi lleiaf, pan y gosodwyd ataliad ar waith ei ffydd, a llafur ei gariad, gan ei erlidwyr, yn dyweyd y gallasai unrhyw ddyn cyfarwydd a'r ieithoedd gwreiddiol, wneyd yr holl waith, gyda bendith Duw, mewn dwy flynedd, ac y gallasai ychwaneg o ddwylaw ei wneyd yn gynt.[1] Prin ddigon o gopïau oedd yn argraffiad Dr. Morgan i gael un Bibl ar bob pulpud yn Nghymru. Ond ni chafwyd un argraffiad arall cyn 1620. pryd yr oedd y rhan fwyaf o'r argraffiad cyntaf wedi treulio a phydru ar bulpudau lleithion yr eglwysi. Argraffiad mawr unplyg drachefn oedd yr un a ddygwyd allan yn 1620, gan Dr. Richard Parry, Esgob Llanelwy. Amcenid hwn etto yn benaf at wasanaeth pulpudau y Llanau. Yn 1630, y cafwyd yr argraffiad cyntaf o'r Bibl Cymreig at wasanaeth y bobl. Mae hwn wedi ei argraffu yn hardd, ond fod y llythyrenau yn fân. Ar draul Rowland Heylin, Ysw., a Syr Thomas Middleton, dau Gymro gwladgarol a gyfaneddent yn Llundain, y cyhoeddwyd yr argraffiad hwn. Bernir mai tua 1500 o gopïau a argraffwyd—rhy brin ddau gopi ar gyfer pob plwyf yn y Dywysogaeth.
Yn nghanol y tywyllwch Aiphtaidd a ordôai ein henafiaid, o ddyddiau Harri VIII. hyd ddyddiau Siarl I., mae yn hyfryd canfod ambell seren fechan yn rhoddi ychydig o oleu gwan yn y ffurfafen dywyll. Dylai enwau William Salesbury, Dr. Richard Davies, Dr. William Morgan, Dr. David Powell, Dr. Richard Parry, Mr. Edmund Prys, a Dr. John Davies, o Fallwyd, fod yn barchus gan bob Cymro. Er nad oedd un o'r gwyr hyn yn deilwng i'w cymharu a'r lleiaf enwog yn mysg Diwygwyr Protestanaidd y Cyfandir, Lloegr a Scotland, fel gweinidogion llafurus a phregethwyr galluog, etto, yr oeddynt yn ysgolheigion o'r radd uchaf yn eu hoes,
- ↑ Penry's Equity of an humble Supplication, pp. 57. 1587.