Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/200

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. William Watkins, aelod o eglwys Tynycoed, Glyntawy, ac urddwyd ef Hydref 5ed a'r 6ed. Cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: W. Jones, Penybont; H. Jones, Tredegar; M. Jones, Merthyr; D. Stephenson, Nantyglo; J. Williams, Tynycoed; E. Watkins, Llanelli, Brycheiniog; T. Rees, Craigyfargod; J. T. Jones, Merthyr; J. Hughes a D. Roberts, Dowlais; J. Jones, Penmain; a D. Davies, Tynycoed. Bu Mr. Watkins yn gweinidogaethu yn yr eglwys hon am oddeutu wyth mlynedd, ac yn y tymor hwnw, er llawer o amgylchiadau anffafriol, ychwanegwyd yn ddirfawr at rifedi yr eglwys a'r gwrandawyr. Yn y flwyddyn 1837, llwyddwyd i gael tirimewn man canolog, acadeiladwyd capel prydferth, yr hwn a agorwyd Ebrill 11eg a'r 12fed, 1838. Am 3, y dydd cyntaf, gweddiodd Mr. J. Davies, Aberdare; a phregethodd Mr. L. Powell, Caerdydd. Am 6, gweddiodd Mr. T. Rees, Craigyfargod; a phregethodd y Meistriaid E. Watkins, Llanelli, a J. Davies, Aberdare. Dranoeth, am 7 y bore, gweddiodd Mr. D. Davies, Tynycoed; a phregethodd y Meistriaid T. Rees, a J. Harrison, Aberdare. Am 10, gweddiodd Mr. J. Thomas, Adulam; a phregethodd y Meistriaid J. Williams, Tynycoed; J. Ridge, Cendl; a D. Griffiths, Castellnedd. Am 3, gweddiodd Mr. J. Roberts, (Bedyddiwr), Tredegar; a phregethodd y Meistriaid S. Williams, Llanedi; E. Davies, Tredegar, yn Saesonaeg; a D. Stephenson, Nantyglo. Am 6, gweddiodd Mr. T. Protheroe, Dowlais; a phregethodd y Meistriaid J. Hughes, Dowlais, a T. Williams, Maendy.

Yr oedd y ty newydd yn adeilad prydferth a chyfleus iawn, yn mesur 50 troedfedd wrth 41 a chwe' modfedd y tu fewn i'r muriau, ac yn cynwys yn agos 700 o eisteddleoedd. Y draul oedd 900p., ond bernid ei fod yn gyflawn werth 1,200p.

Gan fod y boblogaeth yr amser hwn yn cynyddu gyda chyflymder dirfawr, a bod lluaws o'r trigolion yn cyfaneddu o filldir i filldir a haner yn nes i lawr yn y cwm na'r capel, cyfaddaswyd hen bwll llifio yn y rhan isaf o'r gymydogaeth at gadw ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd crefyddol eraill. Gwnaed hyn yn 1839, yr hyn yn fuan a arweiniodd i ffurfiad yr eglwys sydd yn awr yn ymgynnull yn nghapel Moriah, yr hwn a ddaw etto dan ein sylw.

Crybwyllasom yn barod i'r eglwys ddechreu adeiladu capel ar lechwedd y mynydd uwchlaw y Rhymni Inn, yn 1827, ac iddynt gael eu hatal i fyned a'r gwaith yn mlaen; yn 1840, gollyngwyd nifer o'r aelodau yn heddychol o Seion i ddechreu achos newydd yn mlaen y cwm, ymroddasant i orphen y capel y dechreuasid ei adeiladu yn 1827. Dyma ddechreuad eglwys y Graig, yr hon y rhoddwn ei hanes yn nes yn mlaen. rhai a O herwydd rhyw gamddealldwriaeth ni bu Mr. Watkins a rhan o'r eglwys yn cyd-dynu yn ddymunol am rai blynyddau cyn ei ymadawiad; ac yn y flwyddyn 1845 darfu y cysylltiad rhyngddynt. Teimlai amryw o'r aelodau serch cryf at Mr. Watkins, ac felly ar ei ymadawiad ef aethant hwythau allan gydag ef, ac adeiladasant gapel Gosen, yr hon hefyd a ddaw dan ein sylw rhagllaw.

Yn y flwyddyn 1846, rhoddwyd galwad i Mr. William Davies, Joppa, Caernarfon. Bu ef yma yn llafurio am yn agos i dair blynedd, ac yn nechreu 1849 symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Salem, Machynlleth. Yr oedd Mr. Davies pan y daeth yma yn llawn driugain mlwydd oed, ac felly yn annghymwys iawn i le o fath Rhymni, y canlyniad fu i'w