Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/202

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dorf. Bu felly yn angenrheidiol cynal dwy oedfa ar yr un amser. Pregethodd Mr. Williams, Troedrhiwdalar, yn Ebenezer, capel y Trefnyddion Calfinaidd, pa rai a fuont mor garedig a rhoi eu hysgol Sabbothol i fyny er mwyn cyfarfod a'r amgylchiad; a phregethodd Mr. Evans, Talgarth, yn Seion. Am 6, pregethodd Mr. Evans, a Mr. Williams. Am 10, boreu dydd Llun, pregethodd y Parchedigion J. Davies, Pontygof; a D. Williams, Blaenau. Am 2, pregethodd y Parchedigion D. Hughes, B.A., Tredegar; a Dr. Rees, Abertawy. Am 6, pregethodd Dr. Rees, a'r Parch. D. Williams, Troedrhiwdalar. Dyma un o'r cyfarfodydd mwyaf hyfryd a fwynhasom erioed. Yr oedd yma arwyddion amlwg o wenau yr Arglwydd, yn gystal a sirioldeb dynion-y lluaws yn tyru i wrandaw, a'r gweinidogion a'r eu huchelfanau yn cyhoeddi yr efengyl, ac yn eu plith y Hybarch Mr. Williams, Troedrhiwdalar, mor heinyf a bywiog a phe buasai yn 40 oed, er ei fod yn 88 oed. Hyfryd oedd gweled y fath barch yn cael ei ddangos i'r cyfarfodydd gan bawb yn y lle-pob enwad crefyddol yn cymeryd cymaint o ddyddordeb yn yr amgylchiad a phe buasai yn perthyn yn bersonol iddynt hwy. Casglwyd 70p. tuag at leihau y ddyled. Dechreuwyd yr oedfaon trwy ddarllen a gweddio gan y Parchedigion T. Evans, Talgarth; R. Roberts, Graig; J. Williams, Pontlottyn, (Bedyddiwr); G. Owens, Trifil; W. Thomas, Fochriw; a R. Rowlands, Čaerfyrddin."

Er ein bod yn adnabyddus ag amryw o'r dynion da fuont yn offerynol i ddechreu yr achos hwn, o herwydd diffyg defnyddiau nis gallwn gofnodi dim o'u hanes. Gwyddom eu bod oll yn rhai nodedig am eu ffyddlondeb a'u hymlyniaeth wrth yr achos goreu, a'u gafael yn yr enwad y perthynent iddo. Bydd enwau Evan Bevan, Elias Elias, Israel Jayne, &c., yn barchus yn mysg Annibynwyr Rhymni am flynyddau etto.

Mae yn ymddangos oddiwrth y crybwyllion yn hanes bywyd Mr. Powell, Caerdydd, fod Andrew Thomas, y saer, tad Annibyniaeth yn Rhymni, yn ddyn nodedig o wybodus mewn pethau crefyddol, ac yn rhyfeddol am ei lafur gyda'r gwaith da. Bu am flynyddau yn myned unwaith yn y mis o Rhymni i'r Brychgoed i'r cyfarfod cymundeb, yn cerdded yr holl ffordd-dros ugain milldir, fynychaf ar foreu y Sabboth, ac yn cyraedd yno yn brydlon. Ychydig o grefyddwyr a geir yn yr oes bresenol yn ddigon selog i wneyd peth felly.

Heblaw y ddau weinidog cyntaf—Mr. Stephenson, a Mr. Davies, cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

John Williams, yr hwn a ymfudodd i'r America. Nis gwyddom ychwaneg o'i hanes.

David Davies. Bu yn weinidog yn y Taihirion a Glantaf. Rhoddir ei hanes ef yn nglyn a'r eglwysi hyny.

Samuel Williams. Cafodd ei addysgu dan Mr. Davies, Penywaun, ac aeth ar brawf i Criplestyle, swydd Dorset yn 1840, lle yr urddwyd ef yn 1842. Mae yno hyd yn bresenol yn ddefnyddiol a pharchus iawn.

John Davies. Mae ef yn awr yn y weinidogaeth yn America, ond nis gwyddom yn mha le yno.

George Owens. Bu ef yma yn bregethwr cynnorthwyol parchus dros lawer o flynyddau, ac yn y flwyddyn 1863, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn y Trifil, lle yr urddwyd ef.