Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/203

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DAVID STEPHENSON. Gweler hanes Rehoboth, Brynmawr.

JOHN DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1789, mewn lle o'r enw Pantgwynarian, yn mhlwyf Penbryn, sir Aberteifi. Cafodd ei dderbyn yn Glynarthen yn 1799, gan Mr. Evans, Drewen. Nid oedd y pryd hwnw ond deng mlwydd oed. Aeth i Ferthyr pan yn lled ieuangc. Pan yr oedd yn son am symud i Ferthyr, dywedodd dynes dduwiol iawn oedd yn aelod o'r un eglwys ag ef, a'r hon oedd yn chwaer i'r nodedig Rees Davies, y Glunbren, "Wel Shoni bach, y mae arnaf fi ofn y colli di dy grefydd yn Merthyr." Atebodd yntau, "Os wyf wedi cael crefydd iawn nid oes digon o allu yn uffern i'w blotio hi allan." I Ferthyr yr aeth, ac yn mhen rhyw faint o amser symudodd oddi yno i Rhymni, a chafodd y fraint o gadw ei grefydd yn mhob man. Yr ydym yn anhysbys o'r amser y dechreuodd bregethu, ond yr oedd wedi priodi cyn hyny. Wedi iddo ddechreu pregethu teimlai fod arno angen mwy o addysg nag oedd wedi gael, a chan ei fod mewn amgylchiadau gweddol gysurus, aeth i'r ysgol i Ferthyr. Bu yn cerdded o Rhymni yno bob dydd am ddwy flynedd. Pan symudodd Mr. Stephenson o Rhymni i Nantyglo, anogodd yr eglwys i urddo John Davies yn weinidog yn ei le ef. Cydsyniasant a'r cyngor, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1828. Ychydig cyn amser ei urddiad anfonodd at yr hen chwaer, i sir Aberteifi, i hysbysu ei fod heb golli ei grefydd, ac i'w gwahodd hi i gyfarfod ei urddiad; a mawr oedd llawenydd yr hen wraig am y newydd. Adroddai yr hanes gyda phleser tra y bu fyw. Ni pharhaodd tymor gweinidogaeth Mr. Davies ond saith mlynedd. Yr oedd ei iechyd wedi rhoi ffordd yn fawr gryn amser cyn ei farwolaeth.

Gorphenodd ei yrfa ar y ddaear Hydref 1af, 1835, yn 46 oed. Claddwyd ef wrth gapel y Methodistiaid yn Rhymni, lle yr oedd ei wraig wedi cael ei chladdu er y flwyddyn 1823. Pregethwyd yn ei angladd gan Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr; a Mr. D. Stephenson, Nantyglo, oddiwrth Salm cxxx. 4—testyn a ddewisasid gan yr ymadawedig. Areithiwyd wrth y bedd gan Mr. Josuah Thomas, Adulam, Merthyr. Gadawodd Mr. Davies ddau o feibion ar ei ol. Y mae y ddau wedi marw, ond y mae saith o blant ar ol un o honynt, ac oll, fel y clywsom, yn aelodau yn nghapel y Graig, Rhymni.

Gwelsom Mr. Davies unwaith tua phymtheng mis cyn ei farwolaeth. Yr oedd ei iechyd wedi gwaelu yn fawr y pryd hwnw. Yr oedd yn rhyfeddol o barchus gan ei bobl, a galar cyffredinol yn eu mysg ar ei ol pan yr farw. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn nodedig o hynaws a charedi Yr oedd yn bregethwr melus a buddiol iawn, a bu yn foddion i enill llawer o bobl at yr Arglwydd yn y tymor byr y bu yn y weinidogaeth. Mae yn flin na byddai genym ychwaneg o ddefnyddiau i roddi hans helaethach am ddyn mor rhagorol. Nai i Mr. Davies yw Mr. John M. Davies, gweinidog Tyrhos a Llandudoch.

WILLIAM DAVIES. Yr oedd yn frawd i Mr. James Davies, gynt o Lanfaircaereinion, ac yn awr o America. Yn Llanwrtyd y ganwyd ef, ac yno y cychwynodd ei yrfa fel crefyddwr a phregethwr. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1817. Yr oedd y pryd hwnw dros bymtheg-ar-hugain oed. Urddwyd ef yn Ceidio, sir Gaernarfon, Tachwedd 6ed, 1823, pryd y gweinyddwyd gan ei frawd, James Davies, Llanfair; T. Lewis, Pwllheli;