Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/204

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

D. Griffiths, Bethel; D. Griffiths, Talsarn; ac E. Davies, Trawsfynydd. Bu yn llafurio yno gyda mesur helaeth o lwyddiant am oddeutu dwy flynedd ar bymtheg. Trwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y sefydlwyd yr achos Annibynol yn Nefyn. Yn niwedd y flwyddyn 1838, symudodd i Fryngwran, Mon, lle y bu am tua chwe' blynedd. Symudodd oddiyno i Joppa, Caernarfon. Ni fu ond ychydig iawn o amser yno, canys yn y flwyddyn 1846, symudodd i Seion, Rhymni, lle y bu, fel y gwelsom, tua thair blynedd. Ar ei ymadawiad o Rhymni, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Salem, Machynlleth. Achos lled wan oedd yno. Yn y flwyddyn 1853 penderfynodd yr eglwys fechan hono ymuno a'r fam-eglwys yn nghapel y Graig, ac felly, darfu cysylltiad Mr. Davies a hwy. Symudodd o Fachynlleth i Gaernarfon, ond nid i gymeryd gofal unrhyw eglwys. Ni bu yn weinidog sefydlog mewn un man er y pryd yr ymadawodd o Fachynlleth. Yn y flwyddyn 1862, symudodd ef a'i deulu o Gaernafon i'r Brynmawr, cymerodd ei le fel aelod yn Bethesda, a bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn lleoedd eraill yn yr ardal, cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Bu farw Ionawr 6ed, 1868, yn 88 oed, medd ein hysbysydd, a chladdwyd ef yn mynwent Carmel, Cendl.

Er fod Mr. Davies yn lled hen pan y dechreuodd bregethu, yr oedd yn feddianol ar lawer o gymwysderau i fod yn bregethwr derbyniol a buddiol, ond yn ei flynyddau diweddaf, o herwydd ei henaint a'i dlodi, yr oedd wedi myned yn lled ddiddefnydd. Bu, fel y nodasom, yn ddefnyddiol iawn yn Ceidio, Nefyn, a'r cylchoedd, ond ni bu fawr lewyrch arno yn un man ar ol ei ymadawiad oddi yno. Yno, mae yn debygol, yr oedd ei le ef, ac ymddengys iddo groesi Rhagluniaeth wrth symud oddi yno. Gwiriwyd geiriau y gwr doeth yn ei hanes ef, fel yn hanes miloedd eraill: "Gwr yn ymdaith o'i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth."[1]

CAERLLEON-AR-WYSG.

Yr oedd y lle hwn yn ddinas enwog yn y cynoesau; ond nid oes fawr o enwogrwydd yn perthyn i hanes yr achos Annibynol yma. Ffurfiwyd yma eglwys fechan yn gynar yn y ganrif bresenol, cynwysedig o aclodau perthynol i'r New Inn a Heol-y-felin, Casnewydd. Nid ydym wedi cael allan amseriad ei ffurfiad, ond yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1807 y cymerodd le. Mr. James Williams, Llanfaches oedd y gweinidog cyntaf. Bu ef yma o bymtheg i ugain mlynedd, ond rhyfeddol o wan oedd yr achos trwy yr holl dymor. Pan ymadawodd Mr. Williams, cafodd Mr. Thomas Jones, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, ei urddo yn ganlyniedydd iddo. Ebrill 13eg, 1826, yr urddwyd ef, ond byr iawn fu tymor ei weinidogaeth. Gwaelodd ei iechyd yn fuan, fel y gorfu iddo fyned i dy ei rieni yn sir Gaerfyrddin, lle y bu farw yn 1828. Dilynwyd Mr. Jones gan Mr. Thomas Thomas, brawd y diweddar Mr. D. Thomas, Llanfaches. Bu ef yma o bedair i bum' mlynedd. Ar ei ymadawiad ef, urddwyd Mr. Benjamin Evans, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Penywaun. Ychydig fu ei arosiad yntau, symudodd o Gaerlleon i Wiltshire, ac oddiyno i America. Ar ei ol ef daeth Mr. William Gethin, Caerodor, yma fel

  1. Cawsom y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol mewn llythyrau oddiwrth Mr. Davies, Rhymni; Mr. Davies, Tyrhos; a Mr. John Phillips, Brynmawr.