Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/205

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidog. Gwerthodd ef yr hen gapel, ac adeiladodd un newydd a mwy cyfleus. Rhoddodd Mrs. Powell, gwraig y diweddar Mr. T. Powell, Brynbiga, fenthyg 170p. ar y capel newydd, ac yn ei hewyllys, gadawodd yr arian hyny i nai iddi, yr hwn a gymerodd feddiant o'r capel, ac y mae dan glo ganddo er's blynyddau lawer bellach, a'r ychydig achos wedi diflanu.

Dilewyrch y bu yr achos bychan hwn o'i gychwyniad i'w ddiwedd, ond y mae yn gywilydd i gyfundeb Saesonaeg yr Annibynwyr yn Mynwy, iddynt adael y capel i gael ei gau i fyny yn hytrach na thalu y swm fechan o ddyled oedd arno.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL


THOMAS JONES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanllwni, yn sir Gaerfyrddin, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn nghapel Noni gan Mr. Jonathan Jones. Yno hefyd y dechreuodd bregethu. Wedi bod am rai blynyddau yn athrofa y Neuaddlwyd, aeth i ardal y New Inn, Mynwy, i gadw ysgol, lle y bu am yspaid tair blynedd, ac yn pregethu yn achlysurol mewn gwahanol fanau yn yr ardal. Yn 1826, cafodd ei urddo yn Nghaerlleon, ond fel y nodasom, pallodd ei iechyd yn fuan fel y bu raid iddo ddychwelyd i'w ardal enedigol. Bu farw yn nhy ei dad, Ebrill 21ain, 1828, yn 28ain oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanllwni. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Moses Rees, y pryd hwnw o Bencadair. Yr oedd Mr. Jones yn wr ieuangc da, siriol a gobeithiol iawn. Ni bu y fath lewyrch ar yr achos yn Nghaerlleon ar un tymor o'i hanes ag yn yspaid byr ei weinidogaeth ef.

WILLIAM GETHIN. Ganwyd ef yn mhlwyf Ystradgynlais, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1798. Ymunodd a'r eglwys yn Nhynycoed pan yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu yn lled ieuangc. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Drefnewydd. Bu am ychydig o flynyddau yn weinidog yr eglwys Gymreig yn Nghaerodor. Symudodd o Gaerodor i Gaerlleon, ac oddiyno i Horningsham, Wiltshire, lle y bu farw Chwefror 1af, 1858, yn 60 mlwydd oed.

MAESLLECH

Mae y capel hwn, yr hwn a elwir Capel yr Undeb, yn mhlwyf Llangybi, tua phedair milldir o Frynbiga, a thua chwech o Gasnewydd. Aelodau o'r New Inn, Heol-y-felin, Casnewydd, a Chaerlleon, mewn cysylltiad a'r diweddar Mr. David Thomas, Llanfaches, ddarfu adeiladu y capel, ryw amser rhwng 1810 ac 1812. Ni chafodd eglwys ei ffurfio yma am rai blynyddau ar ol agoriad y capel. Mr. B. Moses, New Inn, ddarfu gorffoli eglwys yma tua y flwyddyn 1821. Ar y 15fed o Hydref, 1823, cafodd un Jonah Francis ei urddo yn weinidog i'r eglwys fechan, ond trodd allan yn ddyn anfoesol iawn yn mhen tua blwyddyn ar ol ei urddiad, fel y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Yn mhen ychydig amser ar ol ymadawiad Francis, rhoddwyd galwad i un Joshua Davies. Ni bu yntau yma yn hir. Aeth i Loegr i gasglu at ddyled y capel, ac ni ddychwelodd byth. Yn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. John Mathews, Mynyddislwyn, yn awr o Gastellnedd, ac urddwyd ef yma yn Hydref y flwyddyn hono. Bu Mr. Mathews yn llafurio yn y cylch bychan hwn hyd 1841, pryd y symudodd