Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/206

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Fynydd Seion, Casnewydd. Ni bu y fath olwg lewyrchus ar yr achos yn Maesllech ar un adeg o'i hanes ag yn y pum' mlynedd y bu Mr. Mathews yma. Pe buasai Rhagluniaeth yn caniatau iddo ef aros yma yn hwy, neu yn anfon rhywun cyffelyb iddo i'w ddilyn, buasai yma achos cryf er's blynyddau; ond fel arall y bu. Ar y dydd cyntaf o Chwefror, 1844, urddwyd Mr. John Lewis, aelod o eglwys Penywaun, yma. Tua thair blynedd y bu ef yn weinidog yn y lle, ac nid ydym yn deall i'r achos lwyddo dim dan ei weinidogaeth. Ar ei ymadawiad ef, trowyd y gwasanaeth yn hollol i'r Saesonaeg, a bu un o'r enw Mr. Keddle yn weinidog yma am ychydig amser. Wedi hyny bu y capel yn nghau am tua dwy flynedd. Cafodd wedi hyny ei ail agoryd dan nawdd cyfundeb eglwysi Annibynol Saesonaeg Mynwy, ac y mae er's blynyddau bellach dan ofal gweinidogaethol Mr. George Thomas, Brynbiga, a dywedir fod golwg obeithiol ar bethau yno yn awr.

NEBO.

Capel bychan yw hwn yn mhlwyf Wolvesnewton, o fewn ychydig filldiroedd i Gasgwent. Casglwyd y gynnulleidfa, ac adeiladwyd y capel trwy ymdrech y llafurus David Thomas, Llanfaches Pan symudodd Mr. Thomas i'r ardal hon yn 1815, er dilyn ei alwedigaeth fel dilledydd, cafodd allan fod tua deugain o blwyfydd bychain yn y wlad fras hon heb gymaint ag un addoldy Ymneillduol ynddynt. Fel y gwnaethai yn flaenorol yn ardal Maesllech, ardrethodd a thrwyddedodd dri anedd-dy at bregethu ynddynt, a llwyddodd i gasglu cynnulleidfa. Yn 1818 adeiladodd y capel, yr hwn a agorwyd Mawrth 25ain, 1819, a'r dydd canlynol cafodd yntau ei urddo yn weinidog i'r eglwys ieuangc. Gweinyddwyd yn yr agoriad a'r urddiad gan y Meistriaid Ebenezer Jones, Pontypool; E. Davies, Hanover; R. Davies, Casnewydd; Isaac Skinner, Trefynwy; Robert Everett, Dinbych, a Joshua Lewis, Casgwent. Bu Mr. Thomas yn llafurio yn y lle hwn, mewn cysylltiad a Llanfaches, hyd derfyn ei oes yn 1864. Achos bychan yw hwn o'r dechreuad. Rhif yr aelodau yn 1861 oedd 23, yr ysgol Sabbothol 60, a'r gynnulleidfa 100. Mae y lle yn bresenol dan ofal Mr. George Thomas, Brynbiga, mab y gweinidog cyntaf.


TABERNACL, CASNEWYDD.

Mae yn ymddangos fod y rhan fwyaf o gychwynwyr yr achos hwn yn fwy o Fethodistiaid nag o Annibynwyr, ond o herwydd nad oedd y pryd hwnw un ddarbodaeth gan y corff at weinidogaeth sefydlog, ac na allesid dwyn achos Saesonaeg yn mlaen heb weinidog sefydlog, bu raid i'r gynnulleidfa yn dra buan roddi ei hun i fyny i'r enwad Annibynol. Adeiladasant gapel helaeth a hardd yn y flwyddyn 1822. Y draul oedd 782p. Cafodd drachefn ei ail-adeiladu a'i helaethu yn 1835, ac yn 1865 newidiwyd ei ffurf, a phrydferthwyd ef yn fawr, fel y mae yn awr yn addoldy nodedig o hardd a chyfleus, yn cynwys tua 700 o eisteddleoedd. Mr. Evan Jones, o Ferthyr Tydfil, yr hwn a fuasai yn bregethwr am rai blynyddau gyda y Methodistiaid, a ddewiswyd yn weinidog cyntaf yr eglwys hon. Bu ef yn llafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant o 1822 hyd Rhag-