Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/207

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyr 2il, 1829, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny, ac y symudodd i Lewes, Sussex, lle y bu farw yn 1864. Yn Mawrth 1830, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Gillman, o Pitchcombe, yn sir Gaerloew. Bu Mr. Gillman yma yn barchus a rhyfeddol o lwyddianus am ddeuddeng mlynedd ar hugain. Llwyddodd i gasglu cynnulleidfa fawr, o bosibl y fwyaf yn yr holl dref, er nad y gyfoethocaf. Yr oedd rhif yr aelodau yma yn 1861 yn 300, a'r ysgol Sabbothol yn 305, a'r gwrandawyr tua 400. Bu Mr. Gillman farw yn Mawrth 1862, er galar mawr i'r gynnulleidfa a'r dref yn gyffredinol. Yr oedd wedi bod yn wael ei iechyd gryn amser cyn ei farwolaeth, fel y bu raid i'r eglwys edrych allan am ganlyniedydd iddo cyn ei farwolaeth. Yn Mehefin 1862, cafodd Mr. Peter William Darnton, B.A., o New College Llundain, ei urddo yma. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Dr. Halley, Llundain; Mr. Caleb Morris, gynt o Lundain; Mr. John Whithy, Abertawy; Mr. F. Pollard, a Mr. Lochore, Casnewydd. Ar ol llafurio yma am wyth mlynedd, ymadawodd Mr. Darnton y mis hwn (Mai 1870), i gymeryd gofal yr eglwys yn Queen Street, Caerlleongawr, ac felly mae eglwys y Tabernacl unwaith etto yn amddifad o weinidog. Mae yr eglwys hon trwy holl dymor ei hanes wedi bod yn enwog am ei hundeb a'i gweithgarwch, a dichon nad oes nemawr eglwys yn y sir wedi bod mor rhydd oddiwrth ofidiau, ac wedi ei bendithio a mwy o lwyddiant distaw a chyson. Rhodded yr Arglwydd iddi yn fuan etto fugail wrth fodd ei galon.

Mae amryw o aelodau yr eglwys hon o bryd i bryd wedi cael eu codi i bregethu, yr oedd yma yn ddiweddar, os nad ydynt yn bresenol, bump neu chwech o bregethwyr; ond nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Y ddau ganlynol yn unig, cyn belled ag y gwyddom ni, a urddwyd yn weinidogion.

William Cuthbertson, B.A. Un genedigol o Scotland. Daeth i'r Casnewydd i ddilyn galwedigaeth fydol. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Tabernacl yn Mehefin 1846. Yn 1848, aeth i athrofa Spring Hill, ac ar orpheniad ei amser yno, urddwyd ef yn West Bromwich. Yn 1857 ymfudodd i Awstralia. Bu am chwe' mlynedd yn weinidog eglwys luosog a chyfoethog iawn yn Sydney. Yn 1863, dychwelodd i Loegr, ac er y flwyddyn hono y mae yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Bishop Stortford. Mae yn ddyn da a galluog iawn, ac yn sefyll yn uchel yn yr enwad.

Thomas Graham. Derbyniwyd ef yn y Tabernacl Chwefror 1af, 1850. Wedi gorphen ei amser yn athrofa Spring Hill, bu am ychydig amser yn weinidog yn Whitchurch, sir Henffordd. Ymfudodd oddiyno i New Zealand. Yr ydym yn deall nad yw yn y weinidogaeth yn awr.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN JONES. Ganwyd ef yn y Ffrwd, plwyf Penderyn, Brycheini Awst 7fed, 1790. Efe oedd yr hynaf o bump o blant, ac nid oedd ef o naw mlwydd oed pan y bu farw ei dad. Priododd ei fam drachefn a dy. fyddai yn wrandawr cyson yn nghapel Pontmorlais, Merthyr Tydfil, ac er nad oedd yn aelod eglwysig, yr oedd yn ofalus i fyned a'i lysblant gydag ef i'r capel. Ar un prydnawn Sabboth, aeth Evan Jones gyda ei lysdad i Bontmorlais, lle yr oedd pregethwr lled ddinod yn pregethu. Pa fodd bynag, cyrhaeddodd ei eiriau galon y llanc, ac o hyny allan glynodd gyda