Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chrefydd. Yn 1807, ymunodd ag eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais. Pan oedd yn ugain oed dechreuodd bregethu. Yn 1814, aeth i breswylio i'r Casnewydd, ac ar ei sefydliad yn weinidog yn y Tabernacl yn 1822, darfu ei gysylltiad a'r Methodistiaid, a threuliodd weddill ei oes gyda yr Annibynwyr. Yn 1829, ymsefydlodd yn weinidog yr eglwys yn y Tabernacl, Lewes, Sussex. Ar ol llafurio yno gyda derbyniad a pharch mawr am dair blynedd ar ddeg ar hugain, gorfodwyd ef gan lesgedd i roddi y weinidogaeth i fynu yn nghanol haf y flwyddyn 1862. Gwanhaodd yn raddol o'r pryd hwnw hyd Ionawr 20fed, 1864, pryd y bu farw mewn cyflawn fwynhad o gysuron crefydd yn driugain a thair ar ddeg oed.

Yr oedd Evan Jones, yn nghyfrif pawb a'i hadwaenai, yn ddyn da a duwiol nodedig. Cafodd deulu lluosog iawn-deuddeg neu bedwar ar ddeg o blant, ac felly daeth i'w ran lawer o ofalon a gofidiau, ond ni chafodd dim ei attal i gyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol nes i'w nerth ballu. Dywedir ei fod yn un hynod am ei hyder diysgog yn yr Arglwydd, yr hyn a gadwai ei feddwl yn dawel yn nghanol pob gofalon.

THOMAS GILLMAN. Ganwyd ef yn mhlwyf Rodborough, sir Gaerloew, Medi 11eg, 1801. Yr oedd o'i febyd yn nodedig am ei ddifrifoldeb a'i feddylgarwch. Pan fyddai ei gyfoedion allan yn chwarae, byddai ef yn wastad mewn ystafell neillduedig yn y ty yn darllen Gair Duw. Ennillwyd ef i wneud proffes gyhoeddus o grefydd trwy weinidogaeth gyffrous John Rees, o Rodborough, gynt o'r Casnewydd. Ymunodd ag eglwys Mr. Rees yn Rodborough, pan yr oedd yn bymtheg oed, ac ymroddodd ar unwaith i fod yn ddefnyddiol yn yr Ysgol Sabbothol, mewn ymweled a'r cleifion, &c. Wrth weled ei ymgyflwyniad trwyadl i waith yr Arglwydd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu. Mewn ty anedd y traddododd ei bregeth gyntaf, lle yr oedd ei weinidog, Mr. Rees, yn ei wrandaw, ac ar y diwedd gosododd yr hen weinidog ei law ar ben y pregethwr ieuangc, a dywedodd wrtho gyda dagrau o orfoledd, "Fy machgen anwyl i, nerthed yr Arglwydd chwi i bregethu yr athrawiaeth a bregethasoch heno hyd derfyn eich oes." Felly gwnaeth. Crist a'i Groes oedd pwngc ei bregeth gyntaf, a'r un peth fu ei destyn hyd y diwedd. Ar ol dechreu pregethu bu am ychydig amser yn derbyn addysg dan arolygiaeth Mr. J. Burder, M.A., o Stroud. Yn mhen ychydig wedi hyny priododd, ac aeth i fyw i Painswick. Bu yno drachefn yn derbyn gwersi gan Mr. Meek, gweinidog yr Annibynwyr yn y lle hwnw. Wedi bod yn pregethu ar brawf yn Pitchcombe, gerllaw Stroud, am ddau fis, derbyniodd alwad unfrydol, ac urddwyd ef yno Gorphenaf 16eg, 1828. Ar ol llafurio yno am ddwy flynedd, yn ffyddlon a llwyddianus iawn, derbyniodd alwad o'r Casnewydd, a symudodd yno, fel y nodasom, yn 1830. Er nad oedd yr eglwys ond gwan, a'r gynnulleidfa ond bechan, ar ddechreuad ei weinidogaeth, aeth y lle yn rhy gyfyng i gynwys y gwrandawyr cyn pen pum' mlynedd, fel y bu raid ail-adeiladu a helaethu y capel. Cafodd y ty newydd drachefn ei lenwi yn ddioed, a chadwodd ef yn llawn hyd derfyn ei oes.

Yr oedd Mr. Gillman wedi bod yn dyoddef er's blynyddau oddiwrth glefyd y galon, ac yn niwedd y flwyddyn 1860, aeth yr arwyddion yn fwy peryglus, fel y bu raid iddo roddi heibio bregethu am rai misoedd. Ail ymaflodd yn ei hoff waith yn haf y flwyddyn 1861, ond gwaelodd drachefn tua diwedd y flwyddyn hono, ac ar ol dyoddef poenau mawr am