Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/209

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rai wythnosau, bu farw Mawrth 20fed, 1862, yn 61 oed. Claddwyd ef yn mynwent newydd y dref, yn ngwydd canoedd lawer o alarwyr. Gweinyddwyd yn ei angladd gan ei hen gyfaill hoffus Mr. Thomas Rees, Casgwent, yr hwn hefyd y Sabboth canlynol, yn unol a dymuniad y marw, a draddododd ei bregeth angladdol oddiwrth Nehemiah vii. 2.

Dyn tawel, gostyngedig, a dirodres iawn oedd Thomas Gillman. Nid oedd yn dalentog na doniol fel pregethwr, ond yr oedd yn ddywedwr eglur, teimladwy, ac efengylaidd iawn. Trwy ei ddaioni, ei ffyddlondeb, a'i ddiwydrwydd, ac nid trwy ragoriaeth ei dalent, y bu yn offerynol i wneyd cymaint o ddaioni. Y mae y testyn a ddewiswyd gan Mr. Rees, i sylfaenu arno ei bregeth angladdol iddo, yn ddarluniad cywir o'i nodwedd—"Canys efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer."

CASGWENT.

Mae y dref fechan, ond brydferth hon, yn sefyll ar lan yr afon Wy, ac yn agos i'w hymarllwysiad i gulfor Caerodor. Cynwysai yn 1861, 3,364 o drigolion. Mae yn ddiddadl fod yn y dref hon, a'r gymydogaeth, lawer o Ymneillduwyr yn amser Mr. Wroth, o Lanfaches, ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol. Mae hanes ei ddechreuad fel y canlyn:-Tua y flwyddyn 1823, darfu i Mr. Stephens, o Hewelsfield, yn sir Gaerloew, boneddwr cyfrifol, ac aelod selog gyda yr Annibynwyr, ddeall fod rhai Annibynwyr yn Nghasgwent yn addoli gyda y Bedyddwyr, ond yn cael eu cadw oddiwrth fwrdd yr Arglwydd am na chymerent eu trochi. Aeth i siarad a hwy, a pherswadiodd hwy i rentu ystafell at gynal gwasanaeth crefyddol, a galw Mr. David N. Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn oedd y pryd hwnw yn pregethu yn Forest Green, i sefydlu yn eu plith. Cydsyniasant a'r cynghor, a daeth Mr. Thomas atynt; casglwyd yno gynnulleidfa, a chorffolwyd eglwys, ac aeth yr ystafell yn fuan yn rhy fechan i gynwys y gwrandawyr. Ar anogaeth, a thrwy gymorth Mr. Stephens, o Hewelsfield, Mr. Loader, o Drefynwy, a Mr. Armitage, o'r Casnewydd, rhentwyd hen adeilad, yr hon gynt a fuasai yn chwareudy, a chyfaddaswyd hi at gynal addoliad crefyddol. Ar y 19eg o Ebrill, 1824, cafodd y lle hwn ei agor fel capel Annibynol, a thranoeth, urddwyd Mr. David N. Thomas yn weinidog i'r eglwys ieuangc, mewn cysylltiad ag eglwys fechan arall yn Hewelsfield. Gweinyddwyd ar yr agoriad a'r urddiad gan Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd, a'r Meistriaid D. Peter, Caerfyrddin; W. Thorp, Caerodor; J. Burder, M.A., Stroud; R. Meek, Painswick; Arthur Tidman, y pryd hwnw o Frome; D. Thomas, Wotton-under-Edge; E. Jones, Pontypool; a Joshua Lewis, (Bedyddiwr) Casgwent. Cyn pen llawn dair blynedd, derbyniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr eglwys yn Abergwili, sir Gaerfyrddin, a symudodd yno. Ar ol ei ymadawiad bu yr eglwys am fwy na blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogion a phregethwyr cymydogaethol. Yn nechreu y flwyddyn 1828, rhoddasant alwad i un Mr. John Owen. Urddwyd ef yma Ebrill 1af, yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan Dr. Lewis, Casnewydd, a'r Meistriaid Jones, Pontypool; Powell, Brynbiga; Loader, Trefynwy; a Burder, Stroud. Trodd pethau yn lled annymunol yma yn fuan rhwng Mr. Owen a'r bobl, yn benaf o herwydd ei fyrbwylldra a'i annoethineb ef. Bu ef yma hyd y flwyddyn