yn wladgarwyr trwyadl, ac yn ddynion o ymarweddiad teilwng. Er i Gymru, yn y cyfnod hwn, gael ei bendithio ag ysgolheigion rhagorol, a chymhwys yn mhob ystyr at gyfieithu yr Ysgrythyrau, etto nid ymddengys i un Cymro galluog, selog, a phoblogaidd, gyfodi i bregethu y Gair yn effeithiol i'r werin yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ond y merthyredig JOHN PENRY. Gan y gellir edrych ar y gwr enwog hwn fel seren-ddydd Ymneillduaeth Cymru, ni byddai ein rhagdraith i Hanes yr Eglwysi Annibynol yn gyflawn heb ei hanes ef yn gymedrol helaeth.
Ganwyd John Penry yn y Cefnbrith, yn mblwyf Llangamarch, yn sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1559. Enw ei dad oedd Meredith Penry. Pan yn bedair-ar-bymtheg oed, aeth i brif athrofa Caergrawnt, lle y bu am yn agos i wyth mlynedd. Pan yr aeth i'r athrofa, yr oedd fel y rhan fwyaf o'i gydwladwyr, yn rhagfarnllyd dros Babyddiaeth, ond trwy ymgyfeillachu a'r Puritaniaid yno, ennillwyd ef, nid yn unig i fod yn Brotestant, ond hefyd yn Buritan selog. Yn y flwyddyn 1586, aeth yn fyfyriwr i St. Alban's Hall, Rhydychain. Ni wyddys pa beth oedd yr achos iddo symud o Gaergrawnt i Rydychain, ond daeth yn fuan yno i enwogrwydd mawr fel pregethwr nodedig yn y brif athrofa.
Prif nod bywyd Mr. Penry, o'r pryd y trowyd ef at Brotestaniaeth, hyd ddydd ei farwolaeth, oedd tynu cynlluniau er efengyleiddio gwlad ei enedigaeth. Mae yn dra thebygol iddo fod yn pregethu yn fynych yn Nghymru ar adegau ei ymweliadau a'i berthynasau pan yr oedd yn yr athrofa, ac i lawer o'i gydwladwyr gael eu hennill trwyddo i wybodaeth o'r gwirionedd. Yn y flwyddyn 1587, cyhoeddodd lyfryn a alwai, The equity of an humble Supplication. Yn y llyfryn hwn, yr hwn sydd fath o ddeiseb at y Frenhines a'r Senedd, galara o herwydd amddifadrwydd ei gydwladwyr o foddion gwybodaeth grefyddol, ac anoga ei Mawrhydi a'r Senedd i fabwysiadu moddion effeithiol er gwneyd yr efengyl yn hysbys i'r Cymry. "Y mae miloedd," meddai, "o'n pobl ni yn Nghymru na wyddent ddim am Iesu Grist fel Duw na Dyn, Prophwyd nac Offeiriad, prin y maent erioed wedi clywed am dano. O gyflwr truenus a diymgeledd! Mae pregethu mewn llawer rhan o'r wlad yn hollol anadnabyddus. Mewn x rhai manau, darllenir pregeth unwaith bob tri mis." Priodola Mr. Penry gyflwr truenus ei gydwladwyr, i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r offeiriaid a ddalient y bywioliaethau eglwysig yn byw allan o'r wlad, neu yn mhell o'u plwyfydd, eu bod eu hunain yn anwybodus o'r efengyl, yn anfoesol eu bucheddau, neu yn anwybodus o'r iaith Gymraeg. Efe a ddywed ei fod o'r farn nad oedd dim ond efengyl bur yn cael ei phregethu yn alluog, a difrifol yn iaith y bobl, gan ddynion sanctaidd a chymhwys, a allasai symud ymaith yr anwybodaeth a'r drygioni a lanwant y wlad. Y cynllun a gynygiai ef er cael digon o weinidogion effeithiol, oedd cael cynifer o'r Cymry ag oedd yn weinidogion yn Lloegr i ddychwelyd i'w gwlad enedigol, a rhoddi anogaeth i gynifer o leygwyr duwiol ag a allesid ddyfod o hyd iddynt, i arfer eu doniau fel pregethwyr. Cyfansoddwyd deiseb yn cyn-