1831, ond ni wnaeth fawr o ddaioni. Ar ei ymadawiad oddiyma ymfudodd i'r America.
Ar ol bod drachefn heb weinidog am ddwy flynedd, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Thomas Rees, Llanfaple, yr hwn a symudodd yma yn 1833. Yr oedd y gynnulleidfa hyd yn hyn wedi bod yn ymgynnull i'r hen chwareudy, ond cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Rees yn y lle, ymroddodd yn benderfynol i adeiladu capel. Llwyddodd i gael darn o dir cyfleus iawn, ac adeiladodd arno addoldy hardd, yr hwn a agorwyd yn Medi 1834, pryd y pregethwyd gan Mr. Jay, o Bath; a Dr. George Legge, y pryd hwnw o Gaerodor. Ni orphwysodd Mr. Rees nes iddo gasglu digon o arian i dalu am y capel a'r tir, a chafodd yr hyfrydwch fwy na deuddeng mlynedd cyn ei farwolaeth o weled y lle yn ddiddyled. Gwan iawn oedd yr achos yma ar ddechreu ei weinidogaeth ef, ond ychwanegodd nerth yn raddol, fel yr oedd yr eglwys yn rhifo tua chant o aelodau flynyddau cyn terfyn ei oes ef, a'r gwrandawyr tua 200. Parhaodd Mr. Rees i fod yn barchus a nodedig o ddefnyddiol yma hyd ddydd ei farwolaeth yn Ebrill 1865.
Yn Mehefin 1865, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i Mr. John Thomas, gwr ieuangc doniol iawn o athrofa yr Annibynwyr yn Nghaerodor. Darfu i ddoniau cyffrous Mr. Thomas greu cryn gyffroad yn y dref a'r ardal, fel yr aeth y capel lawer yn rhy fychan. Penderfynwyd ar unwaith adgyweirio y capel, gosod oriel ac eisteddleoedd newyddion ynddo, ac adeiladu ysgoldy y tu cefn iddo. Yr oedd y draul dros 600p., ac wedi tynu y ddyled ar y lle, pan welodd Mr. Thomas nad oedd y bobl mor barod ag y disgwyliasai efe i'w dalu, gwnaeth ei feddwl i fyny yn ddisymwth yn Rhagfyr 1867, i ateb galwad a dderbyniasai o Portland Chapel, St. John's Wood, Llundain, a symudodd yno, gan adael y cyfeillion yn Nghasgwent i ymladd a rhyw 500p. o ddyled goreu y medrent.
Ar ol ei ymadawiad ef bu pethau yn lled ddigalon yma am fwy na blwyddyn. Yn Mawrth 1869, rhoddwyd galwad i Mr. G. Orme, o Grampound, Cornwall. Mae yn ymddangos fod Mr. Orme yn ateb y lle yn dda. Mae yn awr yn gwneyd ymdrech egniol i dalu yr holl ddyled y flwyddyn hon, ac yn lled sicr o lwyddo yn ei ymdrech.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
THOMAS REES. Ganwyd y dyn da a defnyddiol hwn yn mhlwyf Llansamlet, gerllaw Abertawy, Gorphenaf 23ain, 1788. Ni wyddom ond y peth nesaf i ddim o hanes ei rieni. Mae yn ymddangos fod ei fam yn ddynes dduwiol iawn. Byddai yn arfer ei gymeryd ef pan yn blentyn i ystafell, yn gosod ei dwylaw ar ei ben, ac yn gweddio drosto wrth ei enw. I gapel y Methodistiaid yn y Cwm, Llansamlet, yr arferai ei rieni fyned, ac mae yn ymddangos iddo yntau ymuno a'r eglwys yno yn dra ieuangc. Priododd yn ieuangc iawn a dynes oedd wyth neu ddeng mlynedd yn henach nag ef ei hun, yr hon, er ei bod yn ferch dlawd, ac heb gael dim manteision addysg, a drodd allan yn gymhares werthfawr iddo.
Wedi priodi, symudasant i Ferthyr Tydfil. Yr oeddynt y pryd hwnw mewn amgylchiadau isel iawn. Darfu iddynt ill dau ymuno a'r eglwys Annibynol yn Zoar, ac yn mhen ychydig amser gwelodd yr eglwys fod defnyddiau pregethwr yn Thomas Rees, ac er ei fod yn isel ei amgylchiadau, ac a gofal gwraig a phlant arno, anogasant ef i ddechreu pregethu. Daeth