yn fuan yn adnabyddus i'r eglwysi cymydogaethol, ac ennillai barch pa le bynag yr elai. Yn mhen amser rhoddodd heibio ei alwedigaeth fydol fel gweithiwr, a chynaliodd ei deulu am rai blynyddau wrth gadw ysgol a phregethu yma a thraw ar y Sabbothau. Tua y flwyddyn 1821, aeth i Cendl i gadw ysgol, a bu yno nes iddo gael galwad o Lanfaple yn 1823. Wedi ei urddiad yn Llanfaple, aeth i'r ysgol at Mr. Skeel i Abergavenny. Byddai yn pregethu i'w bobl yn Llanfaple bob Sabboth, ac yn ymroddi a'i holl egni i ddysgu ei wersi yn yr ysgol am bum' diwrnod o'r wythnos. Aeth rhagddo mor enwog fel ysgolhaig, fel y gosododd Mr. Skeel ef yn mhen ychydig amser yn is-athraw, a chymaint oedd anwyldeb Mr. Skeel ato fel y gadawodd swm o arian yn nghyd a'i lyfrau oll iddo yn ei ewyllys. Ar of llafurio yn llwyddianus yn Llanfaple fel gweinidog am fwy na deng mlynedd, ac yn Abergavenny fel ysgolhaig ac is-athraw am rai blynyddau, symudodd yn 1833 i Gasgwent. Cymerodd y cam hwn ar gais taer amryw weinidogion ac eraill, y rhai a farnent mai efe oedd y dyn cymhwysaf i godi yr achos yno o'i iselder, a phrofodd y canlyniad eu bod yn barnu yn gywir. Adeiladodd gapeli yn Nghasgwent a St. Arvans, a thalodd am danynt. Cyfododd achos oedd ar farw o wendid i fod yn gymharol gryf a hungynaliol. Parhaodd ei weinidogaeth yn Nghasgwent ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd yn sefyll lawer yn uwch yn ngolwg y dref a'r gymydogaeth yn y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd nag yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yno. Bu farw Ebrill 30ain, 1865, ar ol tri diwrnod o gystudd, ac amlygwyd galar cyffredinol trwy y dref o herwydd colli un a berchid mor fawr gan y trigolion yn gyffredinol.
Mae hanes bywyd Thomas Rees yn benod ryfedd yn llyfr rhagluniaeth. Nid ymddengys iddo gael ond y peth nesaf i ddim o fanteision addysg yn moreu ei oes; bu mor annoeth a phriodi cyn ei fod yn ugain oed, a thaflu ei hun i dlodi mawr trwy hyny; ond er pob anfantais cyfododd i sylw a chylch o ddefnyddioldeb pwysig. Er ei holl anfanteision yr oedd cyn ei fod yn bymtheg ar hugain oed yn weinidog eglwys lle yr oedd yn rhaid iddo bregethu yn y ddwy iaith bob Sabboth, ac mewn ychwanegiad at hyny cyflawnai ei ddyledswyddau yn effeithiol fel is-athraw mewn ysgol nid anenwog yn nhref foneddigaidd Abergavenny. Mae ei hanes yn dangos yn eglur nad oes unrhyw anhawsder nas gall meddwl penderfynol dori trwyddo. Nid oedd dim yn annghyffredin ynddo o ran ei alluoedd meddyliol na'i ddoniau fel pregethwr i gyfrif am ei lwyddiant. Mae yn rhaid priodoli y cwbl i ofal neillduol Rhagluniaeth am dano, ac i'w lafur dibaid yntau, ac uniondeb diwyrni ei egwyddorion. Mae ei lwyddiant yn anogaeth rymus i ddynion ieuaingc tlodion i ymdrechu yn erbyn anhawsderau i gyrhaedd safleoedd o ddefnyddioldeb ac enwogrwydd, ac yn condemnio mewn iaith uchel ac eglur fusgrellni y rhai hyny a gawsant ddeg cymaint o fanteision a'r gwr rhagorol hwn, ond a foddlonant dreulio eu holl fywyd yn wagnodau diwerth mewn byd ac eglwys.
ST. ARVANS.
Plwyf bychan yw hwn, yn cynwys 379 o drigolion, tua dwy filldir o dref Casgwent. Bu yma offeiriad duwiol ac efengylaidd iawn o'r enw David Jones, yn gweinidogaethu am amryw flynyddau yn nechreu y ganrif bresenol. Bu farw y gwr da hwn tua yr amser yr ymsefydlodd Mr. Rees