Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/212

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghasgwent, ac ar ei farwolaeth darfu pregethiad yr efengyl yn y plwyf. Tua y flwyddyn 1835, rhentodd Mr. Rees anedd-dy yn y pentref at bregethu a chynal ysgol Sabbothol. Trodd hyny allan yn llwyddianus iawn. Yn 1842, prynodd yno ddarn o dir ac adeiladodd gapel bychan arno. Oddiar pryd hwnw hyd yn awr y mae ysgol Sabbothol a phregethu rheolaidd yn cael eu cadw yn y lle. Nid oes yno eglwys wedi ei chorffoli. Mae yr aelodau sydd yn byw yn y plwyf yn dyfod at y fam-eglwys i Gasgwent i gymuno. Mae yn ddigon tebygol y corffolir yno eglwys gydag amser.

CEFN-Y-CRIB.

Mae pregethu wedi bod yn yr ardal hon er's llawer o flynyddoedd. Pregethwyd yma gan Mr. Edmund Jones, Pontypool, a chan ei ganlyniedydd Mr. Ebenezer Jones; ond Mr. D. Thomas, Penmain, a lafuriodd yma yn benaf. Yn 1823, penderfynwyd cael pregethu yma un Sabboth yn y mis, foreu a hwyr, mewn dau dy yn y gymydogaeth bob yn ail; sef yn nhy John Jones, o'r Fferm, yn mhlwyf Llanhiddel, a thy Daniel Phillips, Tygwyn, Cefnycrib, yn mhlwyf Trefethin. Parhawyd felly gyda gradd o gysondeb a mesur o lwyddiant hyd 1832 pan yr adeiladwyd capel bychan, tlws, a galwyd ef capel yr Ynys. Nid oedd yma eglwys wedi ei ffurfio, ac ystyrid yr achos yn perthyn i Benmain, ac Ebenezer, Pontypool, er nad oedd na'r naill na'r llall yn teimlo fod ei gyfrifoldeb arnynt. Mr. E. Rowlands, Ebenezer, a Mr. J. Jones, Penmain, a bregethai yma fynychaf, heblaw pregethwyr cynnorthwyol yr eglwysi cylchynol. Bu yma ysgol Sabbothol flodeuog ar un adeg, a deuai nifer luosog o'r ardalwyr i wrando. Ond o herwydd ryw bethau annoeth diflanodd yr ysgol-ciliodd y gwrandawyr, ac yr oedd yr ymddiriedolwyr ar fedr troi y capel yn ddau dy, gan eu bod yn methu cael arian i dalu y llog; oblegid yr oedd y ddyled yr aed iddi yn nghodiad y capel yn aros, oddigerth ryw 15p. a dalwyd. Dan yr amgylchiadau hyn ceisiodd yr ychydig grefyddwyr oedd yn yr ardal ar Mr. Herbert Daniel gymeryd at y lle; yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yn Mhontypool. Cydsyniodd Mr. Daniel a'u cais. Ail ddechreuwyd yr ysgol Sabbothol, ac ysgol ganu, galwyd yma gyfeillach grefyddol am y tro cyntaf, a daeth un i hono, a chynyddasant yn fuan i wyth; ac ar y Sabboth, Mai 23ain, 1841, derbyniwyd pump o'r rhai hyny, a phump eraill o aelodau Penmain oedd yn byw yn yr ardal, a ffurfiwyd hwy yn eglwys yn y lle. Dyna ddechreuad yr achos ar Gefnycrib. Gan fod gofal yr achos newydd yn Mhontypool hefyd ar Mr. Daniel, nid oedd yn gallu bod ond un Sabboth yn y mis ar Gefnycrib; ond yr oedd yn wastad gyda hwy yn y moddion wythnosol; a gofalai am gael rhyw rai i weini iddynt ar y Sabbothau eraill; a daeth yr achos bychan yn mlaen yn llwyddianus nes y cyrhaeddodd yr eglwys yn 80 o rifedi. Ond daeth cwmwl dros yr achos ar ol hyny. Arafodd y gweithfaoedd, fel y bu raid i lawer symud o'r gymydogaeth-rhai i'r America, torwyd rhai i'r bedd, a gwrthgiliodd rhai i'r byd, fel y disgynodd yr achos yn bur isel. Ond torodd gwawr drachefn, ac adferwyd yr achos nes y daeth mor llewyrchus ac y gwelwyd ef o gwbl. Helaethwyd y capel trwy 130p. o draul, yr hyn a dalwyd oll yn yr ardal; ac yr oedd y ddyled oedd arno pan y cymerodd Mr. Daniel ei ofal wedi ei llwyr dalu cyn hyny; heblaw.costau ychwanegol yr aed iddynt o'r blaen i'w adgyweirio, a'i baento, a'i sicrhau yn feddiant i'r