Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/213

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwad. Mae y gweithiau glo yn darfod yn yr ardal, a'r gymydogaeth felly yn teneuo yn fawr, fel nad oes gobaith y gwelir yma achos cryf a lluosog. Dywed ein hysbysydd mai dau beth neillduol a brofodd yn niwed i'r achos, a dichon y bydd eu crybwyll yn foddion i beri i eraill ochel eu cyffelyb. Un peth oedd cweryl rhwng dau hen aelod, a'r ddau yn ddiaconiaid, a phob un o'r ddau yn rhy gyndyn i blygu a rhoddi ffordd. A pheth arall oedd i ddwy chwaer grefyddol, gweryla yn absenoldeb y gweinidog; ac i'r eglwys alw gweinidog dyeithr cyn ei ddychweliad i'w diarddel; a methwyd a'u cael at eu gilydd mwy; ond dywedai y ddwy blaid ped oedasid y ddysgyblaeth hyd ddychweliad y gweinidog y gallesid dwyn y pleidiau at eu gilydd.

SARDIS, FARTEG.

Mae y capel hwn wedi ei adeiladu ar lechwedd a elwir y Garnddiffaith, yn mhlwyf Trefethin, ychydig gyda milldir uwchlaw Abersychan. Mae dechreuad yr achos yn y lle hwn fel y canlyn:—Yr oedd tri o aelodau perthynol i'r Bedyddwyr, ac un Annibynwr o'r enw George Jayne, yn byw yn yr ardal. Ar ol cydymgynghoriad penderfynodd y pedwar brawd gychwyn cyfarfod gweddio, i fod yn symudol o dy i dy yn y gymydogaeth. Wedi glynu gyda y cyfarfod gweddio, gyda gradd o lwyddiant am tua dwy flynedd, ceisiasant gan eu gweinidogion, Mr. Evans, Penygarn, a Mr. Jones, Pontypool, ddyfod i bregethu i'r ardal bob yn ail, arnos Sabbothau, a llwyddasant i gael ganddynt hwy a'u cynnorthwywyr i ddyfod. Aeth yr anedd—dai mwyaf yn fuan yn rhy fychain i gynwys y cynnulleidfaoedd. Gan fod ysgoldy digon eang i gynwys 400 o bobl gan gwmni gwaith haiarn y Farteg, gofynwyd am ei fenthyg at gynal y cyfarfodydd pregethu. Wedi i hwnw drachefn fyned yn rhy fychan i gynwys y torfeydd, penderfynodd y ddau enwad i ymranu yn heddychol, ac adeiladu dau gapel. Adeiladodd y Bedyddwyr eu capel ar Dalywaun, a galwasant ef Pisgah, ac adeiladodd yr Annibynwyr Sardis ar y Garnddiffaith, tua haner milldir oddiwrth Pisgah. Agorwyd y ddau gapel yn y flwyddyn 1827. Yn fuan ar ol agoriad Sardis rhoddodd yr eglwys ieuangc alwadi Mr. Morris Jones, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, a gwr genedigol o Meifod, Maldwyn. Cynaliwyd cyfarfodydd urddiad Mr. Jones Chwefror 5ed a'r 6ed, 1828. Rhoddir hanes yr urddiad yn Lleuad yr Oes fel y canlyn:—"Dechreuwyd y dydd cyntaf, am dri, gan y brawd Evan Davies, Neuaddlwyd; pregethwyd gan y brawd Evan Jones, Neuaddlwyd; y Parch. Hugh Jones, Tredegar, a'r Parch. R. Jones, Ffaldy brenin. Am saith, dechreuwyd gan y Parch. D. E. Owen, Cendl; pregethodd y Parchedigion E. Griffiths, Browyr; D. Jones, Llanharan, a J. Rowlands, Cwmllynfell. Am saith, yn y bore, yr ail ddydd, dechreuwyd gan y brawd T. Williams, Cwmaman; a phregethodd y brodyr H. Morgans, Samah, ac E. Williams, Caerphili. Am 10, dechreuwyd gan y Parch. E. Davies, Hanover; pregethodd y Parch. T. Evans, Aberhonddu, ar natur eglwys; gofynodd y Parch. J. Jones, Main, y gofyniadau; dyrchafodd y Parch. E. Jones, Pontypool, yr urdd-weddi; pregethodd y Parch. J. Rowlands, Cwmllynfell, i'r gweinidog, a'r Parch. D. Lewis, Aber, i'r eglwys. Am 3, dechreuwyd gan y Parch. W. Hopkins, Llangattwg; pregethodd y Parchedigion D. Griffiths, Castellnedd; E. Griffiths, Browyr, (yn Saesonaeg), a J. Jones, Main. Am 7, dechreuwyd