Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan y brawd Joshua Thomas, Penmain; a phregethodd y Parchedigion T. Thomas, Caerlleon-ar-wysg; D. E. Owen, Cendl, a J. Hughes, Maendy." Bu Mr. Jones yn llafurio yn ddiwyd a llwyddianus iawn fel gweinidog i'r eglwys hon am ddeng mlynedd ar hugain, o fewn ychydig fisoedd. Teithiodd lawer trwy Loegr a Chymru i gasglu at ddyled y capel, ac ni orphwysodd nes ei llwyr ddileu. Yn fuan ar ol ei sefydliad yn y lle llwyddodd yr achos yn fawr, a lluosogodd yr aelodau, fel yr oeddynt yn y flwyddyn 1839 yn rhifo tua 300. Wedi hyny, o herwydd dyryswch a marweidd-dra y gweithiau haiarn, ac ymadawiad canoedd o'r trigolion o'r ardal, syrthiodd yr eglwys a'r gynnulleidfa i nifer fechan iawn. Gydag ychydig o adfywiad yn y gweithfeydd, cryfhaodd yr achos i raddau drachefn, ond ni ddaeth byth mor gryf a llewyrchus ag yr ydoedd yn 1839. Yn niwedd y flwyddyn 1857, rhoddodd Mr. Jones ei ofal gweinidogaethol i fyny, a symudodd i Cheltenham, lle genedigaeth ei wraig, ac yno y mae yn bresenol.

Bu Mr. John Williams yn aelod defnyddiol iawn yn yr eglwys hon am lawer o flynyddau yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones. Gan ei fod yn ddyn nodedig o grefyddol, yn wr cymharol gyfoethog, ac yn un rhyfeddol o haelionus a gweithgar, bu o wasanaeth dirfawr i'r achos, a phan yr ymadawodd a'r lle i fyned i gychwyn gwaith haiarn Onllwyn, cafodd eglwys Sardis golled annirnadwy.

Wedi ymadawiad Mr. Jones, bu yr eglwys am tua dwy flynedd heb weinidog. Yn 1859, rhoddwyd galwad i Mr. David M. Davies, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn sydd yn wyr i'r enwog Morgan Jones, Trelech.

Yn y Diwygiwr am 1859, tudalen 220, rhoddir hanes urddiad Mr. Davies yn y drefn a ganlyn:

Ar ddyddiau Mercher ac Iau, yr 11eg a'r 12fed o Fai, neilldu vyd Mr. D. M. Davies, o Goleg Caerfyrddin, yn weinidog yn y lle uchod. Nos Fercher, gweddiodd y Parch. D. Williams, Glynnedd, a phregethodd y Parchedigion W. Williams, Adulam, Tredegar; W. Griffiths, Goshen, Rhymni; a D. Hughes, B. A., Saron, Tredegar. Boreu dydd Iau am 10, gweddiodd y Parch. S. Davies, Soar, Aberdare. Holwyd y gofyniadau arferol, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch. I. Williams, Trelech. Pregethwyd i'r gweinidog ieuangc gan y Parch. W. Morgan, Caerfyrddin, ac i'r eglwys gan y Parch. T. Jeffreys, Penycae. Am 2, gweddiodd y Parch. D. Palmer, B.A., Aberteifi, a phregethodd y Parchedigion D. Williams, Glynnedd; Joseph Jones, Bryste, a W. Jenkins, Brynmawr. Am 6, gweddiodd Mr. Morgan, cenadwr, Pontypool, a phregethodd y Parchedigion S. Davies, Aberdare, ac I. Williams, Trelech.

Mae Mr. Davies wedi gwasanaethu yr achos yma yn ffyddlon oddiar ddechreuad ei weinidogaeth hyd yn bresenol, ond o herwydd sefyllfa isel y gweithfaoedd, a thaeniad cyflym yr iaith Saesonaeg yn mysg ieuengetyd y gymydogaeth, nis gall ef, na neb arall, obeithio gweled yma achos mor lewyrchus a chynt, heb i amgylchiadau yr ardal newid llawer er gwell; ac yn ol yr argoelion presenol, nid oes ond gobaith gwan am hyny. Cant oedd rhif yr aelodau yma 1865.[1]

  1. Beirniad, Cyf. vi. tudalen 114.