Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wys sylwedd y llyfryn, a chyflwynwyd hi i'r Senedd gan un o'r aelodau Cymreig, yr hwn mewn araeth yn y Tŷ a sicrhaodd fod y ffeithiau a gynwysai yn gywir. Ond yr unig sylw a wnaed o'r peth oedd anfon allan warant i ddal yr awdwr, gyda gorchymyn i ddinystrio pob copi o'r llyfr. Rhoddwyd Penry yn ngharchar, ac ar ol ei gadw yno am fis, dygwyd ef ger bron i gael math o brawf, neu gerydd. Condemniwyd ei gynllun i efengyleiddio Cymru gan yr Archesgob Whitgift, fel peth "anoddefadwy," a'r syniad a osodid allan yn y llyfr, nad oedd un offeiriad na fedrai bregethu yn weinidog Cristionogol, fel "heresi felldigedig." Atebodd Penry yr Archesgob yn ddiarswyd, "Yr wyf yn diolch i Dduw fy mod wedi dysgu y fath heresi, a thrwy ras Duw, byddai yn well genyf roddi i fyny fy mywyd na rhoddi i fyny yr heresi hon." Ebe Esgob Winchester, yr hwn oedd yn y llys, "Yr wyf fi yn dyweyd i ti mai heresi ydyw, ac y bydd raid i ti alw dy eiriau yn ol." "Dim tra y byddaf byw trwy gymorth Duw," atebai Penry. Mewn canlyniad i hyn, cadwyd ef yn ngharchar am dymor yn hwy. Nid dyn i gymeryd ei ddigaloni gan fygythion ac erledigaethau esgobol, nac i gilio o'i lwybr rhag ofn angau oedd Penry, gan hyny, yr ydym yn ei gael yn y flwyddyn nesaf etto (1588), yn cyhoeddi llyfryn arall ar yr un pwngc, a thrachefn yr un flwyddyn, cyhoeddodd drydydd llyfryn, yr hwn a elwid Anogaeth i Lywodraethwyr a phobl Cymru i lafurio yn ddifrifol am gael pregethiad o'r efengyl yn eu plith. Yn y llyfr hwn y mae yn anerch offeiriaid mudion Cymru yn y dull grymus a ganlyn: "Yr wyf yn gwybod mai dynion penweinion ydyw y rhan fwyaf o honoch chwi-trueiniaid heb ddim amgen mewn golwg genych na chael bywioliaeth. Pa beth a ddywedaf wrthych chwi, y rhai a allech ddyweyd wrthych eich hunain, yr un modd a'r prophwydi ynfyd yn Zech. xiii. 5. Er ein bod yn gwisgo dillad duon ac offeryn-grys, llafurwyr y ddaear ydym ni. Byddai yr un peth i ddyn fyned i ofyn cyngor i'w drothwy, neu geisio gan ei ffon i ddysgu gwybodaeth iddo, a dyfod atoch chwi am addysg. Nid gweinidogion ydych chwi, fel yr wyf fi wedi profi, ac y profaf etto. Yr ydych yn y modd mwyaf haerllug yn halogi y Sacramentau, ac yn galw am lid a dialedd Duw i gael ei dywallt arnoch. Rhoddwch y swyddau yr ydych wedi ymruthro iddynt i fyny, heb yr hyn nid wyf fi yn gweled ei bod yn bosibl i chwi fod yn gadwedig. Byddai yn well i chwi fyw yn dylawd yma am dymor, na bod yn golledig byth. A oes rhyw reswm i chwi mewn achos mor ddifrifol a hwn, adael i olwg ar eich bywioliaeth yn y byd hwn eich cadw mewn swydd nad ydych yn gymhwys iddi? Fe ofala yr Arglwydd am danoch chwi, a'ch gwragedd, a'ch plant, os bydd i chwi o gydwybod roddi y weinidogaeth i fyny, ac y mae yr ynadon yn rhwym o edrych na byddoch mewn eisiau. Yr ydych yn awr yn byw ar ladrad, cysegr-yspail, a dinystr eneidiau." Ar ol rhoddi gwers i'r offeiriaid mudion na fedrent bregethu, y mae yn troi at y bobl, gan eu cymell i ymdrechu cael gweinidogion cymhwys i'w porthi a gwybodaeth grefyddol, ac yn hytrach na bod dim a wnelent a'r gau-fugeiliaid