Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/221

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wedi hyny yn nhy un Benjamin John. Yr oedd o 15 i 20 o aelodau Carmel yn dyfod yn nghyd i'r cyfeillachau hyn; ac yr oedd Dafydd Davies, Dafydd Rees, Benjamin John, John Humphreys, a William Jacob o'u nifer, ac yn cymeryd rhan flaenllaw yn y cyfarfodydd. Ychwanegwyd amryw at eu rhifedi, y rhai a dderbyniwyd yn gyhoeddus yn Carmel. Yn y flwyddyn 1829, dechreuwyd ysgol Sabbothol yn nhy un Isaac Edwards yn rhestr y ceryg calch. Yr oedd eu rhif y Sabboth cyntaf yn 80, ond erbyn yr ail Sabboth yr oeddynt wedi cynyddu i 50, fel y bu raid yn fuan ymwahanu i bump o dai i'w chynal. Teimlid yn anhwylus iawn o eisiau lle mwy cyfleus fel y gallai yr ysgol oll fod gyda'u gilydd; a chafwyd trwy ganiatad Charles Harford, Ysw., fenthyg rhan o weithdy saer perthynol i'r gwaith. Cynyddodd yr ysgol wedi ei symudiad fel yr aeth y rhan oedd ganddynt yn rhy gyfyng, ond caniataodd y boneddwr caredig iddynt gael y rhan arall o'r gweithdy at eu gwasanaeth, fel yr aethant yn mlaen yn llwyddianus iawn. Aeth ty Benjamin John yn rhy gyfyng i gynal y gyfeillach, fel y bu raid iddo symud i dy helaethach yn ymyl y lle y saif y Reading Room yn awr. Pregethid yn achlysurol yma hefyd gan Mr. J. Ridge, a Mr. D. Davies, New Inn, ac eraill. Aeth pethau yn mlaen yn llwyddianus yma wedi hyn hyd ganol yr ail auaf iddynt yn ngweithdy y saer, pan yn anffodus y syrthiodd un haner o hono, ond daliodd yr ychydig ffyddloniaid yn ddiysgog gyda'r ysgol a'r cyfarfodydd er pob anfantais. Llwyddwyd i gael hen dy anedd gerllaw y Queen's Square oedd wedi ei droi yn ysgoldy, at gadw ysgol Sabbothol, a'i gael ddwy noswaith o bob wythnos at eu gwasanaeth am wyth swllt yn y mis. Yn yr adeg yma y neillduwyd wyth o ddiaconiaid yn Carmel, a rhoddwyd rhyddid i'r gangen hon yn Mhenycae i ethol pedwar o'u plith hwy i fod o'u nifer, a dewiswyd ganddynt Benjamin John, Joseph Morris, Dafydd Morris, a John Bowen, a chymeradwywyd eu dewisiad gan yr eglwys.

Wrth weled y boblogaeth yn cynyddu bernid y dylasid codi capel a ffurfio eglwys Annibynol yma, ac wedi ymgynghori a'r eglwys yn Carmel, penderfynwyd corffori yr aelodau oedd i lawr y cwm yn eglwys ar wahan a Carmel, ac yn nechreu y flwyddyn 1836, daeth Mr. Ridge i lawr i'w corffori, a gweinyddu y cymundeb iddynt, a bu yr achos yn y lle dan ei ofal ef mewn cysylltiad a Carmel. Ar ol ymsefydlu yn eglwys Annibynol yr oedd yn rhaid edrych am dir i adeiladu capel arno, ac wedi cael e siomi am amryw leoedd, caniatawyd tir iddynt gan Mr. Edmund Lewi Drysiog, yn y fan lle y saif y capel presenol arno. Yr oedd adeiladu capel yn anturiaeth fawr iddynt, gan nad oeddynt ond ychydig mewn nifer, yn dlodion gan mwyaf; ond trwy fod yn unol a dyfalbarhaol llwyddasant i gael yr arian gofynol i'r perwyl. Ymgymerwyd a'i adeiladu gan un James Morgan, saer coed o Dalybont, sir Aberteifi; ac erbyn mis Mawrth 1838, yr oedd y capel wedi ei orphen; ac agorwyd ef ar y 9fed a'r 10fed, o'r Mai canlynol. Pregethwyd a gweddiwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Mathews, Mynyddislwyn; H. Jones, Tredegar; J. Williams, Bethesda; D. Davies, Troedrhiwbel; T. Griffiths, Blaenafon; E. Watkins, Llanelli; D. Jones, Aber; W. Watkins, Rhymni; J. Harrison, Aberdare; J. Thomas, Adulam, Merthyr; D. Jones, Bethesda, Merthyr; B. Owen, Soar, Merthyr; J. Jones, Penmain; D. Stephenson, Nantyglo, a T. Rees, Craigyfargod. Costiodd y capel rhwng pob peth yn agos i 700p. Yn mis Awst, wedi agoriad y capel, rhoddodd Mr. Ridge ofal Saron i fyny, ac yn fuan ar ol hyny rhoddodd yr