Lle dinod oedd Sirhowy yn nechreu y ganrif bresenol. Nid oedd ei enw ar leni daearyddol y deyrnas, ac nid oedd crybwylliad am dano yn nghroniclau yr Eglwys Gristionogol. Dyfroedd grisialaidd Nantmelyn a Blaenycwm, a Nantybwch a gerddent rhwng y bryniau yn eu purdeb morwynig. Nid oedd awyr iach y mynyddoedd wedi ei lygru gan fwg a tharth a drygsawr y gwaith haiarn. Perarogl grug y mynydd a'r eithin mân a farchogai awel bur y boreu. Nid oedd chwibaniad y gerbydres wedi tori ar dawelwch oesol yr ardal lonydd, ac nid oedd y creigiau etto wedi eu dysgu i ateb lleisiau aflafar y melinau ar agerbeirianau. Nid oedd un llef na dadwrdd trwy yr holl fangre, namyn llef y bugail yn galw ar ei gi,
"A rhyw ddadwrdd pell o'r gorlan,"
"Swn y praidd yn curo eu cyrn."
Ychydig a drwg" fel dyddiau blynyddau einioes y patriarch Jacob, oedd trigolion yr ardal yn yr amser hwnw. Syml oedd eu bwyd, gwladaidd oedd eu dillad, garw oedd eu moesau, mynyddig oedd eu tai, a chul oedd eu crefydd. Yr oedd cyfoeth yr ardal yn guddiedig, ac nid ar y wyneb. Nid gwlad gwenith a haidd ydyw, ond gwlad yr hon y mae eu cherrig yn haiarn, ac o'i mynyddoedd y cloddir glo,-offer gwareiddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae yr ardal wedi newid ei gwedd yn hollol er diwedd y ganrif o'r blaen. Gorchuddir y dolydd gan domenau o ludw, a'r bryniau gan falurion y cloddfeydd-cofadeiladau diaddurn cenedlaeth ar ol cenedlaeth o feibion llafur. Y mae dwy gledrffordd enwog yn cyfarfod a'u gilydd yn y lle hwn, ac y mae Nantybwch—llwybrau yr hwn oedd beryglus i'w cerdded heb lusernau-wedi ei ddyrchafu i gymdeithas Charing Cross ac Euston Square, ar dudalenau Bradshaw's Railway Guide.
Gyda chynydd y gwaith cynyddodd rhifedi yr Annibynwyr yn y lle, y rhai a aent i addoli i Saron, Tredegar. Yr oedd rhai o aelodau mwyaf gweithgar yr eglwys hono yn byw yn Sirhowy, a Nantybwch, a Heol-ycoach, fel ei gelwid y pryd hwnw. Buwyd yn cadw ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio o dy i dy, am flynyddoedd cyn adeiladu capel na sefydlu eglwys yn y lle. Cefnogid yr ymdrechion hyn yn wresog a chalonog gan Mr. H. Jones, Tredegar, doniau a hawddgarwch yr hwn a fu yn foddion i enill sylw a serch llawer o'r trigolion at yr Annibynwyr. 'n y flwyddyn 1837, yr adeiladwyd capel Ebenezer, ac agorwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri T. Rees, Craigybargod; B. Owen, Soar; J. Hughes, Bethania; D. Owen, Tref-fechan; J. Thomas, Adulam; D. Jones, Aber; J. T. Jones, Merthyr; E. Rowlands, Pontypool; W. Watkins, Rhymni; E. Davies, Aber; a J. Ridge, Cendl; a chorffolwyd eglwys gref yno yn fuan gan Mr. H. Jones, yr hwn am dymor a ofalai am dani, mewn cysylltiad a Saron, Tredegar. Nid oedd gan y cyfeillion hyn gynllun clir yn y dechreu. Lle bychan, heb orielau, i gynal ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio a fwriadent wneyd ar y cyntaf. Ond, yr oedd y gwaith yn fwy na'r gweithwyr, ac arweiniwyd y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuent. Yn lled fuan wedi corffoliad yr eglwys, penderfynodd y frawdoliaeth yn Saron mai buddiol fyddai iddynt hwy gael gweinidogaeth Mr. Jones yn hollol iddynt eu hunain. Teimlai y cyfeillion yn Sirhowy yn dra anfoddlon i hyn, oblegyd yr oeddynt yn mawr hoffi eu gweinidog; ac heblaw hyny, yr oedd baich trwm o ddyled ar gapel newydd Ebenezer, ac yr oedd rhyw ddealltwriaeth ar y cyntaf fod cysylltiad rhwng y ddwy