y Proffesor Morris, Aberhonddu; ac i'r eglwys gan y Parch. N. Stephens, Liverpool. Am 2, dechreuodd y Parch. D. Thomas, Llangynidr; a phregethodd y Parchn. Stephens, Brychgoed; a Davies, New Inn, Am 6, dechreuodd y Parch. J. Evans, Craigybargod; a phregethodd y Parchn. N. Stephens, a Watkins, Llangattwg. Yr oedd oddeutu chwech ar hugain o weinidogion yn bresenol, a rhyw ddeuddeg o fyfyrwyr Coleg Aberhonddu."
Llafuriodd Mr. Davies yma hyd y flwyddyn 1866, pan y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn yr Amwythig, ac y symudodd yno, lle y mae yn awr yn anwyl a pharchus gan bobl ei ofal. Enillodd Mr. Davies barch yr eglwys yn Sirhowy, ar gyfrif ei gymeriad pur a'i ysbryd crefyddol; ac y mae ei enw yn berarogl yn yr ardal.
Yn y flwyddyn 1867, aeth yr eglwys yn nghyd ag ad-drefnu a helaethu eu capel, ond pan yr oeddynt ar ganol y gwaith cymerodd y lle dân, fel y dyryswyd eu cynlluniau, a chostiodd y golled iddynt yn agos i 400p. Dan yr amgylchiadau hyny, yn lle ymollwng yn ngwyneb y golled, penderfynodd yr eglwys i wneyd y capel oll o newydd yn eangach a helaethach na'u bwriad ar y cyntaf, fel y mae yn awr yn un o'r addoldai harddaf yn y wlad, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol. Mae yr eglwys yn awr newydd roddi galwad i Mr. D. E. Jones, M.A., myfyriwr o Brifysgol Glasgow, i fod yn weinidog iddi; a chynelir cyfarfodydd ei urddiad y 1af a'r 2il o Awst nesaf (1870). Gobeithio fod oes hir o ddefnyddioldeb yn aros Mr. Jones yn eglwys barchus Sirhowy.
Yr oedd yn yr eglwys hon, o'i dechreuad, wyr rhagorol yn mhlith y brodyr. Tywysog, a gwr mawr yn Israel, oedd Daniel Jones. Yr oedd yn enedigol o blwyf Llansamlet, ond yn Saron, Tredegar, y derbyniwyd ef yn aelod, gan Mr. R. Morris. Yr oedd yn llenor, a bardd, yn nodedig o ddeallus yn yr ysgrythyrau, ac yn ddiacon mwy gweithgar na'r cyffredin. Bu farw yn mis Mawrth 1848, yn y 57 mlwydd o'i oed. Edward James, brodor o blwyf Llanover, a enillodd iddo ei hun radd dda fel diacon yn yr eglwys hon. Mab tangnefedd ydoedd, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Brodor o'r un ardal ag ef oedd Thomas Huskin, brawd William Huskin, un o aelodau gwreiddiol Saron, Tredegar. Dyn cynil yn mhob ystyr oedd Thomas Huskin, ond yn ei gyfraniadau at grefydd. Yr oedd ganddo fawr ofal calon am yr achos goreu, ac yr oedd yn awyddus i weled y gweinidog uwchlaw pryder ac ofnau am bethau y bywyd hwn. Yr oedd ef yn un o'r diaconiaid ffyddlonaf a welsom erioed. Ni byddai hanes eglwys Ebenezer yn llawn heb enw Thomas Rees, yr hwn a'i gwasanaethodd am flynyddoedd fel ysgrifenydd ffyddlon a gofalus. Ac nid yn fuan yr anghofir Evan Evans yn Sirhowy a'r ardaloedd o amgylch. Gwr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythyrau oedd hwn. Puritan o ran tymer a barn. Yr oedd yn hyfrydwch ei glywed yn gweddio, ac os byddai y bregeth yn ei foddio, yr oedd cael golwg ar ei lygaid deallus a phrydferth yn nerth i galon y pregethwr. Ganwyd ef yn Cilcenin, symudodd i Grughy wel i weithio, ac yn Llangattwg y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig ar ddiwedd yr oedfa yn yr hon yr argyhoeddwyd ef. Gostyngodd ar ei luniau a gweddiodd yn gyhoeddus am faddeuant, ac fel gweddiwr nodedig yr adwaenid ef hyd ddiwedd ei yrfa ar y ddaear.
Cafodd eglwys Ebenezer yr anrhydedd o godi amryw bregethwyr, a'u cynnorthwyo i gael addysg gymwys i'w swydd bwysig.
William Jones, India, yw y cyntaf a ddaw dan ein sylw; a chan iddo