Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/228

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyrhaedd safle mor uchel ar y maes cenhadol; a chael ei gymeryd ymaith mor annisgwyliadwy yn nghanol ei ddefnyddioldeb, gwyddom y bydd yn dda gan ein darllenwyr oll gael cofnodiad helaeth o hono. Buasai yn dda genym allu rhoddi dyddiad ei enedigaeth a manylion ei febyd; ond methasom a dyfod o hyd iddynt. Os deuwn o hyd iddynt, rhoddwn hwynt yn nglyn a Llanwryn, lle y magwyd ef. Yn y Tyst Cymreig, am y trydydd o Fehefin, 1870, ymddangosodd yr ysgrif ganlynol, ar y Cymro disglaer, a'r Cenhadwr enwog hwn, wedi ei hysgrifenu gan y gweinidog a gafodd yr anrhydedd o roddi iddo ddeheulaw cymdeithas; ac nis gallwn wneyd yn well na'i gosod yn llawn yma:

"Nis gallwn byth ddarlunio y teimladau a lanwodd ein mynwes pan gawsom y newydd galarus ac annysgwyliadwy fod William Jones, o India, wedi marw o'r rheumatic fever, yn Singrowli, maes ei lafur. Prin y gallem sylweddu ei fod wedi marw, a gobeithiem yn erbyn gobaith ei fod etto yn fyw. Nid ydym yn gwybod dim o'r manylion, heblaw mai byr gystudd a gafodd; ac ofnwn fod y lle a'r amgylchiadau yn y rhai y terfynodd ei yrfa anrhydeddus ar y ddaear, y fath, fel nad oedd yn bosibl iddo gael nemawr ymgeledd. Ond er na chafodd gymorth meddygon i liniaru ei boenau, er na chafodd fanteision cymwys i un mewn nychdod a gwendid, er nad oedd llaw dyner mam, neu briod, neu blentyn yn agos wlychu ei wefus ar wely marwolaeth, y mae yn ddiogel genym i'r Arglwydd Iesu fod yn ffyddlon i'w addewid, trwy ddyfod ato a gwasanaethu arno.

"Ganwyd Mr. Jones yn Llanwryn, yn agos i Fachynlleth. Bu farw ei fam pan oedd ef yn dra ieuangc; ac nid ydym yn gwybod fod ganddo un adgof am yr hon a'i hymddygodd. Ni chafodd fanteision ysgol o gwbl pan yn blentyn, a bu raid iddo droi allan pan yn ieuangc iawn, a gweithio yn galed am ei fara beunyddiol. Yr oedd yn hysbys iddo ef a'i frawd, yr hwn oedd hynach nag ef, fod iddynt geraint yn byw yn un o weithfeydd Swydd Fynwy. Diangodd y ddau ryw noson o gaethiwed Llanwryn, gan droi eu hwynebau tua bryniau Gwent, ac yn Sirhowy, lle yr oedd eu hewythr Edward Jones, y gwnaethant eu trigfa, ac yno, yn y pwll glo, y buont yn gweithio am rai blynyddau.

"Ar nos Sul-y Sul olaf yn y flwyddyn 1846, a'r nos Sul cyn cyfarfod ein hurddiad yn Ebenezer, Sirhowy, yr oeddym yn pregethu ar Dalu yr Addunedau '-testyn y clywsom Mr. Breese, Caerfyrddin, yn pregethu arno flynyddau cyn hyny, yn Salem, Taliares, a'r bregeth mewn cysylltiad à chymhelliadau ein ceraint, a fu yn foddion i'n perswadio i broffesu crefydd Crist. Arosodd amryw ar ol yn y gyfeillach

yn Ebenezer, Sirhowy; ac yn eu plith William Jones. Noson i'w chofio oedd y noson hono ganddo ef a ninnau. Clywsom ef flynyddoedd wedi hyny yn dyweyd ei brofiad am yr oedfa; ofnai bob munud tua diwedd yr oedfa rhag i ni orphen, gan nad oedd wedi penderfynu beth i'w wneyd. Modd bynag, enillodd gras y fuddugoliaeth, ac y mae yn ddiameu genym fod ef yn y nefoedd yn cydganmol gras Duw â llawer o hen frodyr a chwiorydd y rhai a'i croesawent y noson hono i gymdeithas y saint.

"O hyny allan gwrandawai yr efengyl yn siriol, cynyddai mewn gras, a gwybodaeth, a doniau cyhoeddus, fel y cymhellwyd ef gan y gweinidog a'r eglwys i ddechreu pregethu. Dechreuodd bregethu ar yr un noson a'i gyfaill Mr. William Edwards, yr hwn sydd yn weinidog cymeradwy yn Kilsby. Yn gyd-ddinasyddion a'r saint, ac yn deulu Duw,' oedd-