ynt eiriau ei destyn cyntaf. Yr oedd y pregethwr, a'r bregeth, a'r traddodiad yn naturiol, a syml, a dirodres, a llawer ar ddiwedd yr oedfa yn gofyn, Beth fydd y bachgen hwn?' Profodd ei hun yn aelod ffyddlon cyn dechreu pregethu. Llanwodd y cylch yr oedd ynddo, cyn meddwl am fyned i gylch eangach.
"Yn fuan ar ol dechreu pregethu derbyniwyd ein cyfaill ieuangc i athrofa y Bala, ac aeth oddiyno i athrofa Aberhonddu, lle y bu am dair blynedd. Yr oedd yn fyfyriwr difrifol a diwyd, ac yr oedd ei ddylanwad ar ei gydfyfyrwyr yn rymus a llesol. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf y bu yn Aberhonddu, matriculatiodd yn Mhrif Ysgol Llundain, yr hyn oedd yn glod mawr i un heb gael dim ysgol yn moreu ei oes. Bu am dymor byr yn yr athrofa Genhadol, yn Bedford, ac ar y 10fed o Chwefror, 1858, ordeiniwyd ef yn Sirhowy, i fyned yn Genhadwr i India, i'r hwn le y dilynwyd ef gan ddymuniadau goreu pawb a'i hadwaenai. Hwyliodd allan ar yr 20fed o Chwefror, ac am y flwyddyn gyntaf wedi myned yno bu yn llenwi cylch pwysig Dr. Mullens, fel gweinidog cynulleidfa Saesonaeg. Ymsefydlodd yn Mirzapore, yn Mawrth, 1860. Awst 1af, 1863, bu farw Mrs. Jones, yn Benares, gan ei adael ef a'i eneth fechan yn amddifaid. Dechreuodd Mr. Jones ei waith yn ei faes newydd yn Singrowli, Rhagfyr, 1864, a cheir yn Adroddiadau Cenhadol 1864-65, hanes ei lafur a'i ymdrechion. Dychwelodd i Loegr ar ymweliad, a glaniodd yma Mai 9fed, 1867, a bu am flwyddyn a haner yn tramwy yn ein mysg gan bregethu teyrnas Dduw.' Ac ni bu ymweliad yr un Cenhadwr erioed yn fwy llwyddianus i ddyrchafu y Genhadaeth yn ngolwg ein cydwladwyr. Cychwynodd yn ei ol am faes ei lafur, ar yr hwn yr oedd ei holl galon, Rhagfyr 10fed, 1868; a cheir yn y Cronicl Cenhadol am Gorphenaf, 1869, a Mai, 1870, engreifftiau o ffrwyth ei lafur. Darllenwyd ei lythyrau yn ein colofnau gyda hyfrydwch a boddineb gan filoedd. Fel y dywedai yn ei lythyr diweddaf, yr oedd yn dyoddef oddiwith anhwyldeb, a bu farw y 25ain o fis Ebrill diweddaf. Yr oedd Mr. Lambert, cenhadwr yn Mirzapore, wedi myned ato y dydd cyn ei farwolaeth.
"Yr oedd ein cyfaill anwyl a hoff wedi ei gynysgaeddu a chymwysdera cenhadol i raddau nodedig o helaeth. Yr oedd yn deall yr efengyl yn dd yn gallu ymgyfaddasu at bob gwaith, ac ymgymhwyso at bob cylch. N. oedd na rhodres na gwag ogoniant yn perthyn iddo. Yr oedd ei lygad, fe y dywedai Hiraethog, wedi ei wneyd i edrych yn llygaid teigrod, ond yr oedd yn syml a diniwed fel plentyn. Pan ddaeth adref o India er adfywiad ei iechyd, talodd ymweliad ag America, yn benaf er mwyn cael gweled ei dad a'i berthynasau, y rhai a ymfudasant yno. Yr ydym yn ei gofio yn cychwyn, ac yn ei gofio yn dychwelyd mor ddidwrw a phe buasai wedi bod am dro yn Machynlleth neu Sirhowy; ond wrth siarad ag ef am America, yr oedd yn gadael argraff ar ein meddwl ei fod wedi deall y wlad yn hollol yn ei rhagoriaethau a'i diffygion. Yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Genhadol Llundain, yn Exeter Hall, dwy flynedd yn ol, traddododd un o'r areithiau cenhadol goreu a draddodwyd yn Llundain erioed-taniodd Exeter Hall, ac ar ddiwedd y cyfarfod yr oedd yn ymddyddan a nifer o Gymry mor ddirodres, fel y dywedai cyfaill craffus wrthym, a phe na buasai dim neillduol wedi bod. Mae yn gof genym ei fod yn ein ty ar noson gyntaf Sasiwn y Methodistiaid yn Liverpool, pan ddaeth un o flaenoriaid capel Prince's Road atom i ddymuno arnom fyned i ddechreu yr oedfa,