Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd wedi eu gosod arnynt, cynghora hwynt i fynu gweinidogion cymhwys, pe buasent yn eu cynal a chyfraniadau gwirfoddol, mewn ychwanegiad at y tâl y gorfodai y gyfraith hwy i'w dalu i'r segurwyr. Y mae y Cymry er's canrifoedd bellach wedi dysgu y wers hon—wedi cynal eu hachosion gwirfoddol eu hunain, ac Eglwys y Llywodraeth hefyd, a pha agwedd fuasai ar y wlad oni buasai i hyn gael ei wneyd? Hwn oedd apeliad olaf y gwladgarwr Cristionogol at ei gydwladwyr. Gwyddai ei fod yn peryglu ei fywyd wrth ymdrechu dros les ysbrydol ei wlad. "Nis gwn," meddai, "faint y perygl yr wyf yn fy ngosod fy hun ynddo wrth hyn, ond yr wyf yn eich gweled, chwi fy anwyl gydwladwyr yn marw, ac yr wyf yn gresynu. Yr wyf yn dyfod megis a rhaff am fy ngwddf i geisio eich hachub. Pa fodd bynag y digwyddo i mi, yr wyf yn ymdrechu cael pregethiad o'r efengyl i chwi. Os costia hyny fy mywyd, byddaf wedi ei rhoddi i fyny mewn achos teilwng." Darfu i'r ysgrifeniadau hyn gyffroi llid yr esgobion—pleidwyr llygredigaeth eglwysig—yn ddifesur, fel na chafodd yr awdwr ddim llonyddwch mwy nes iddynt yn farbaraidd ei osod i farwolaeth. Yr oedd gwaith myfyriwr Cymreig tylawd, ac o egwyddorion Puritanaidd, yn beiddio galw sylw at y cynllun o efengyleiddio Cymru trwy offerynoliaeth pregethwyr cynorthwyol, a chyfraniadau gwirfoddol, yn bechod mor ofnadwy yn erbyn yr esgobion, nes y cynhyrfwyd eu llid i'r fath raddau, fel nad oedd dim a'u dofai ond gwaed calon y troseddwr. Dilynid ef i bob lle gan geisbwliaid yr esgobion, fel y bu raid iddo ffoi am ei fywyd i Scotland. Cyrhaeddodd ef a'i deulu bychan yno yn nechreu y flwyddyn 1589, a chafodd ei dderbyn a'i ymgeleddu yn garedig gan gyfeillion crefyddol, a bu yn ddiwyd a defnyddiol iawn yn eu mysg am fwy na thair blynedd, fel pregethwr ac ysgrifenwr llyfrau crefyddol. Pan y clywodd Archesgob Canterbury ei fod yn Scotland, cafodd gan y Frenhines Elizabeth, ysgrifenu llythyr at James, Brenin y wlad hono, i ddeisyf arno ei anfon yn ol i Loegr. Mewn ufudd-dod i gais ei chwaer-goronog o Loegr, cyhoeddodd James ddedfryd alldudiaeth arno o'i wlad ef, ond gwrthododd y gweinidogion yn mhob man wneyd y cyhoeddiad Brenhinol yn hysbys. Gallasai dreulio ai holl fywyd yn Scotland yn ddiogel a defnyddiol, ond o herwydd ei awydd angerddol am wneyd lles crefyddol i'w gydwladwyr yn Nghymru, dychwelodd i Loegr yn Medi, 1592, ac ymunodd yn Llundain a'r gynnulleidfa ddirgelaidd o Ymneillduwyr oedd yno. Bwriadai ar ei ddychweliad o Scotland, ofyn caniatâd y Frenhines i fyned i Gymru i bregethu yno yn mhob lle y cawsai dderbyniad. Ar ol bod yn ddefnyddiol yn mysg yr Ymneillduwyr yn Llundain am chwe' mis, a phan yn disgwyl cyfle i osod ei gais o flaen y Frenhines, ar ran Cymru, daliwyd ef Mawrth 22ain, 1593, a dygwyd ef fath o brawf, yr hwn, medd Syr Thomas Phillips, "Sydd yn warth i lysoedd barn Lloegr." Pryd nad oedd un gyfraith i'w gondemnio, ni phetrusodd yr Archesgob a'i gyngreiriaid, i droi yn llofruddion iddo. Cafodd ei ddienyddio yn St. Thomas-a-Watering, ger Llundain, am bump o'r gloch