nad oedd ganddynt neb i wneyd. Yr oedd yn rhaid i ni fyned i le arall yn ol ymrwymiad blaenorol. Gosodwyd yr achos o flaen Mr. Jones, a phan ddeallodd fod cyfyngder, aeth heb betruso gyda y blaenor i ddechreu y moddion, er ei fod dan angenrheidrwydd ar y pryd i wisgo slipper yn lle esgid, oblegid ei fod wedi cael niwed ar ei droed.
"Yr oedd Mr. Jones yn ysgolhaig cywir, yn feddyliwr cryf, yn sylwedydd craff, yn siaradwr hyawdl, ac yn weithiwr difefl. Trwy ei symudiad collodd Cymdeithas Genhadol Llundain un o'i chenhadon goreu; collodd India un o'i chyfeillion ffyddlonaf, a chollodd Cymru un o'i meibion anwylaf. Dysgodd Mr. Jones Saesonaeg, yr ieithoedd clasurol, a thair o ieithoedd yr India, heb anghofio y Gymraeg, a gwnaeth wasanaeth gwerthfawr i'r achos cenhadol trwy ei areithiau a'i ohebiaethau Cymreig. Cychwynodd mewn amgylchiadau isel, ymwthiodd trwy anhawsderau i ddefnyddioldeb ac enwogrwydd, a gorphenodd ei yrfa cyn ei fod yn ddeugain mlwydd oed. Bydded amddiffyn Rhagluniaeth dros ei anwyl a'i unig blentyn, yr hon sydd heb dad na mam, bendith y nefoedd a fyddo ar eglwys Ebenezer, Sirhowy, am ei gynnorthwyo a llaw haelionus, a disgyned deuparth o'i ysbryd cenhadol ar wyr ieuainge ein hysgolion Sabbothol. Dydd hyr a gafodd ein hanwyl frawd, ond gweithiodd yn ddiwyd, a rhyngodd bodd yn ngolwg ei Arglwydd i'w alw yn gynar oddiwrth ei waith at ei wobr. Llawer gwaith y bu yn dda genym weled gwyneb siriol ein hanwyl frawd. Trwm iawn ydyw meddwl na chawn weled ei wedd na chlywed ei lais mwyach yn Liverpool, nac ar fryniau Gwent, ond yr ydym yn gobeithio y cawn gyfarfod ar fryniau Caersalem, pryd y daw 'troion yr yrfa yn felus i lanw ein bryd.'"
Mae Mr. Thomas Evans, cenhadwr i'r Bedyddwyr yn India, wedi ysgrifenu llythyr i Seren Cymru am Mehefin 17eg, 1870, ar yr achlysur o farwolaeth Mr. William Jones; a chan fod ynddo gofnodion o'i ddyddiau diweddaf, rhoddwn ddyfyniadau o hono yma, y rhai a ddangosant ei lwyr ymroddiad i'r gwaith. Mewn cyfeiriad at ymddyddan a fu rhyngddynt ar ol ei ddychweliad o Loegr, dywed Mr. Evans:
"Pan y gwelais i ef yma ar ol ei ddychweliad o Brydain, gofynais iddo, Jones paham na ddaethoch a gwraig allan gyda chwi? Byddech lawer mwy dedwydd a defnyddiol.' Gwir,' ebe efe, ond beth am fy nhrigfan yn yr anial yn Duddhi? Pa fodd y gallwn geisio gan ddynes fyned gyda mi i'r fath le anwaraidd? Nid oes yno na meddyg, na phobwr, na siopwr. Carwn yn fawr briodi; ond ni allwn roddi fyny fy ngwaith er mwyn hyny, ac ni allwn geisio gan unrhyw ferch o Brydain i dd'od efo mi i anial dir Singrowli.' Yn awr, cofied y darllenydd, nad oedd un rhwymau, ond rhwymau moesol, a rhwymau cariad, ar William Jones i fyned yr ail waith i le a fu yn agos a'i ladd o'r blaen; a phan y gofynais iddo, A raid i chwi fyned Jones?' 'Rhaid,' atebai, rhaid i mi fyned, canys nid aiff un cenhadwr arall allan i'r lle. Mae yn rhy ddrwg i eraill; ond y mae yn ddigon da i mi. Mae fy nghalon yno, ac âf yn enw Iesu at fy ngwaith.' At ei waith i'r anial yr aeth, a llafuriodd yno am tua pymtheg mis, pryd y clafychodd eilwaith. Bu yn glaf am tua chwech wythnos, ac ar ei wely am bedwar diwrnod ar ddeg. Ar y 17eg o Ebrill, gwnaeth ymdrech i dd'od i orsaf Mirzapore, ond methodd a chael pobl i'w gario gan' milldir o ffordd drwy ganol y tigers a'r anial.
"Dydd Llun, y 18fed o Ebrill, galwodd am y pregethwr brodorol, Peter Elias, a dywedodd, 'Peter, mae fy ngwaith i ar ben; mae fy Meistr yn fy