ngalw i adref, ac yn awr byddwch ffyddlawn, byddwch lafurus, byddwch wych; yr wyf fi yn myned i'r wlad well.' Ar hyn, dechreuodd P. Elias wylo. 'Peidiwch wylo,' meddai Jones, 'dylech yn hytrach lawenhau fod fy Meistr yn galw am danaf, ac fod ty fy Nhad gerllaw i mi.' Yna galwodd am y pregethwr arall, a dywedodd yr un peth wrtho yntau. 'Ewch,' ebai, 'i'r bazaar, galwch holl bobl y lle yma, i mi am y tro diweddaf gael siarad a hwynt am Iesu.' Yn mhen ychydig ar ol hyn, collodd ei synwyrau, ac aeth waeth waeth. Dydd Gwener, yr 22ain o Ebrill, cyrhaeddodd cenhadwr o Mirzapore, yno, wedi clywed fod Jones yn wael iawn. Pan y daeth Mr. Lambert, y cenhadwr, i'r ty, cododd Jones o'i wely, a chafodd ei synwyrau yn ol am oddeutu chwarter awr. Yr oedd yn wir dda ganddo weled Mr. Lambert, a dywedodd:—'O Lambert, I am so glad to see you. I knew you would have come if you were able; I am better now, and will try and sit up with you. But I have not long to be here; my work is done, and I am going home.' Collodd ei allu i feddwl drachefn, a dywed Mr. Lambert, ei fod yn ymddangos mewn ymdrech galed hyd tua deg o'r gloch nos Sadwrn, pan y dywedodd, 'Do you hear that singing? Is it not very sweet? Oh! how sweet.' Yna dechreuodd ganu yn Gymraeg, a chanodd hymnau Cymreig heb aros am 24 awr, hyny yw, hyd 10 nos Sul, pan yr oedd yn ymddangos yn isel iawn. Ehedodd yr enaid at y Duw a'i rhoes, dydd Llun, y 25ain; ac y mae ei lwch yn awr yn gorwedd yn mhlith y bobl, er mwyn pa rai yr aberthodd ei fywyd. Nid oes dadl na chyfyd torf fawr o eneidiau i'r lán o fedd pechod fel ffrwyth llafur yr anwyl a'r gwrol William Jones. Dywedai Mr. Lambert wrthyf y dydd arall, 'We have no such man as Jones in our Mission, and I do not know how his place can be filled up.'"
Nid oes achos i ni ychwanegu fod teimlad hiraethlon ar ol William Jones yn mysg ei holl gydnabyddion; a chydnebydd cyfarwyddwyr y Gymdeithas Genhadol eu bod yn ei symudiad annisgwyliadwy, wedi colli un o'r cenhadon goreu a anfonwyd allan o Loegr erioed. Mae colli y fath un yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn un o'r pethau nas gallwn e hesbonio yr awrhon; ac ar yr un pryd yr ydym yn ymdawelu am y caw "wybod ar ol hyn."
William Edwards. Dechreuodd ef bregethu yr un noson a Williar Jones. Aeth i athrofa Caerfyrddin, ac wedi treulio ei amser yno, urddwyd ef yn sir Benfro, ac y mae yn awr yn Kilsby.
John Griffiths. Dechreuodd bregethu yma, ac wedi bod yn athrofau y Bala ac Aberhonddu, a urddwyd yn Glantaf, Morganwg, lle y mae yn aros hyd yr awr hon.
John Silin Jones. Genedigol o Lansilin, sir Ddinbych, ond yma y dechreuodd bregethu, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.
Gan fod y tri gweinidog a fu yn yr eglwys barchus hon eto yn fyw; arbedir ni rhag ysgrifenu Cofnodion Bywgraffyddol o honynt; a gobeithiwn na bydd angen gwneyd am yr un o honynt am lawer o flynyddau eto.
HOREB, TONTYRBEL
Saif ar lechwedd yn codi oddiwrth yr afon Ebbwy, o fewn milldir i Crumlun. Dechreuwyd yr achos dan nawdd eglwys Penmain, ond cymerodd