eglwys Mynyddislwyn hefyd ddyddordeb yn yr achos o'i gychwyniad.
Cychwynwyd yma ysgol Sabbothol yn nhy Mr. John Jones, Pantglas, a chynhelid hi o dy i dy am flynyddau; a chynhelid cyfarfodydd gweddi a phregethu yn achlysurol, yn nhy Mr. Edmund Llewellyn, Pantglas, fyn-. ychaf. Yr oedd Mr. John Mathews, Castellnedd, a'i frawd Mr. W. Mathews, Rhydri, a Mr. Joshua Thomas, Aberdare, yn mysg y rhai a roddasant help i sefydlu yr achos yn y lle. Yn y flwyddyn 1826, adeiladwyd capel Horeb; ond ni chorffolwyd yma eglwys hyd 1842. Ystyrid y lle fel cangen o Benmain i gynal ysgol Sabbothol a phregethu. Cynhaliwyd cyfarfod ar achlysur ffurfiad yr eglwys, a phregethwyd gan Mri. M. Ellis, Mynyddislwyn; E. Rowlands, Pontypool; G. Lewis, Coed-duon, a W. Jenkins, Trelyn. Rhif yr aelodau pan gorffolwyd yr eglwys oedd 30. Bu y lle am ychydig amser dan ofal Mr. E. Davies, mewn cysylltiad a Libanus; ac wedi hyny dan ofal Mr. E. Rees, Penmain, a Mr. G. Lewis, Coed-duon.
Gorphenaf 1af a'r 2il, 1850, urddwyd Mr. Thomas Lewis yn weinidog yn y lle. Ceir hanes yr urddiad yn y Diwygiwr am 1850, t.d. 282.
Traddodwyd araeth ar natur eglwys y Testament Newydd gan Mr. E. Rowlands, Pontypool. Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. Isaac Harries, Morfa. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. Herbert Daniel, Cefnerib, ac i'r eglwys gan Mr. E. Hughes, Penmain. Mae Mr. Lewis yn enedigol o'r gymydogaeth, derbyniwyd ef yn aelod ar adeg corffoliad yr eglwys, a dechreuodd bregethu yn 1844; ac er ei urddiad yma yn 1850, y mae wedi bod yn ddefnyddiol a chymeradwy yn yr eglwys a'r ardal.
Yn mysg y rhai gyfodwyd yma i ddechreu pregethu heblaw y gweinidog, cyfodwyd Mr. J. Lewis, brawd i Mr. Lewis, y gweinidog. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, derbyniwyd ef i athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Penrhyndeudraeth, sir Feirionydd; symudodd oddiyno i Rhesycae a Salem, sir Fflint; ac ymfudodd yn ddiweddar i America, lle y mae yn bresenol.
T. Ap Lewis. Mab y gweinidog, a ddechreuodd bregethu yn ddiweddarach; ac y mae yn parhau yn bregethwr derbyniol yn yr eglwys.
Bu yma amryw bersonau diwyd a llafurus yn yr eglwys, ac y mae eu henwau yn berarogl yn y gymydogaeth hyd heddyw; a bydd eu "coffadwriaeth yn fendigedig.'
Nid yw yr achos yn y lle mor llewyrchus ag y gwelwyd ef. Mae y glofeydd oedd yn y lle agos wedi eu gweithio allan, a llawer o'r hen breswylwyr wedi gorfod ymadael o'r herwydd. Ond er hyny, y mae yma lawer o weithgarwch gyda chrefydd; ac arwyddion amlwg er yr holl anfanteision fod bywyd yn y gwaith. Mae tebygolrwydd y bydd Crumlun, Llanhiddel, ac Aberbig yn lleoedd pwysig, ac y mae yn drueni na byddai gan ein henwad achosion yn y lleoedd gobeithiol hyn. [1]
MACHEN.
Saif y lle hwn ar lan yr afon Rhymni, o fewn saith milldir i Gasnewydd. Bu yma waith glo helaeth, ond y mae hwnw erbyn hyn wedi aros yn
- ↑ Llythyr Mr. T. Lewis.