Agorwyd y drws i gael lle i addoli mewn modd rhagluniaethol iawn. Ar un prydnawn Sabboth yr oedd Mr. Davies, New Inn, yn pregethu yno, ac ar y diwedd dywedodd wrth y gwrandawyr fod ganddo gais taer atynt oll, y gwyddent fod y lle yn debyg o ddyfod yn boblog iawn; ond mai y perygl oedd gyda lluosogiad y boblogaeth a chynydd masnach, y gwneid cais am ychwanegu y tafarndai yn y lle; ac mai ei gais taer ef atynt ydoedd na byddai i un honynt arwyddo a'u llaw am gael rhagor o dafarn-dai i'r lle-fod yno ddwy eisioes, a bod hyny yn ddigon, ac y buasai yn well i'r ardal pe na buasai yno yr un. Derbyniwyd y cyfarchiad gyda chymeradwyaeth mawr. Daeth amryw o ddynion penaf y plwyf at Mr. Davies ar y diwedd i ddiolch iddo am yr ail bregeth gan ganmol ei bod yn rhagori ar y cyntaf; a daeth y ddau dafarnwr yn mlaen i ddiolch iddo hefyd, er fod yn bosibl mai hunan elw oedd yn eu cymell hwy. Cymerodd hyn le yn niwedd y flwyddyn 1836. Ar yr adeg yma yr oedd un William Leek, un o aelodau y New Inn, wedi codi ty yn ardal Cwmbran, ac wedi ei osod i un arall ar ardreth o 26p. yn y flwyddyn, gyda bwriad i'w agor yn dafarn. Ni wyddai Mr. Davies ddim am hyn wrth rybuddio y bobl y Sabboth, ond yr oedd yr adeiladu cyflym oedd yn y lle yn ddigon o reswm dros osod y bobl ar eu gocheliad os deuai neb atynt ar y fath gais; ond y boreu Llun cyntaf wedi gwneyd yr apeliad at y bobl, aeth William Leek a'r gwr oedd wedi cymeryd y ty newydd drwy y gymydogaeth i ofyn enwau o blaid cael trwydded i gadw tafarn; ond gwrthododd pawb trwy y lle ag arwyddo iddynt oddigerth un dyn, a haner Eglwyswr oedd hwnw. Dyna yr unig enw a gawsant o blaid cael y dafarn.
Y nos Fercher dilynol yr oedd cyfarfod parotoad yn y New Inn, ac aeth William Leek yno, er mai anfynych iawn yr arferai fyned i'r moddion wythnosol, ac ar y diwedd gofynodd a oedd ganddynt fwriad i gael ty cwrdd newydd yn Cwmbran; ac wedi iddynt ateb fod hyny mewn bwriad ganddynt; dywedodd fod ganddo ef dy a werthai iddynt, ei fod wedi ei fwriadu yn dy tafarn, ond fod Mr. Davies, wedi perswadio y bobl Sabboth blaenorol i beidio arwyddo am ragor o dafarndai yn y lle, a'u bod oll wedi gwrando ar ei gais, ac fod yn rhaid iddo gan hyny werthu y ty. Penderfynwyd i bedwar o'r brodyr a Mr. Davies fyned dranoeth i weled y ty, a'r diwedd fu ei brynu am 190p. Mae un ffaith arall yn nglyn ar adeilad hwn sydd yn werth ei chofnodi yma. Wedi gwneyd y gweithredoedd aeth Mr. Davies a'r cyfeillion i swyddfa y cyfreithiwr yn Mhontypool i dalu yr arian i William Leek. Tynodd un o gyfeillion New Inn—Edward Wrench—yr arian o'i logell, ac wrth eu hestyn dywedodd " "Ty Dduw yw y ty hwn i fod, ac ni chaiff neb rwgnach am ddyled y ty hwn, yr wyf yn talu am dano fy hun heb ddisgwyl cael dimai byth yn ol." Tarawodd bawb yn y lle a syndod, ac nis gallodd Mr. Davies ymatal rhag wylo, oblegid nid oedd erioed wedi dychmygu am y fath beth. Yr oedd Edward Wrench yn wŷr i offeiriad o'r un enw, a ddaeth o ardal Treffynon, yn sir Fflint, ac a gafodd fywoliaeth Pantteg, ger Pontypool. Yr oedd Edward Wrench, offeiriad Pantteg, yn cael ei gydnabod gan yr hen bobl a'i hadwaenai yn ddyn diniwed, ond heb fawr o gymwysder i'r weinidogaeth. Yr oedd William Wrench, ei fab, hyd ei fedd yn ddyn hollol ddigrefydd, er ei fod weithiau yn myned i eglwys Pantteg; a mab iddo ef oedd yr Edward Wrench am yr hwn yr ydym yn son. Bu yn gwasanaethu am 18 mlynedd mewn amaethdy yn ardal Cwmbran, ac er ei fod yn byw mewn fferm yn ymyl y New Inn am y rhan olaf o'i oes, etto yr oedd ganddo hen serch