Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y prydnawn Mai 29ain, 1593, pan nad oedd ond pedair-ar-ddeg-ar- hugain oed. Gadawodd weddw a phedair o ferched bychain, a lluaws of gyfeillion Cristionogol i alaru ar ei ol. Nid ymyrodd Penry ddim erioed a phethau gwladol. Ei unig drosedd yn erbyn ei leiddiaid oedd dynoethi, mewn iaith gref, ymddygiadau gwaradwyddus offeiriaid Cymru, y rhai a ddinystrient eneidiau ei gydwladwyr, ac addef ei hun yn Ymneillduwr yn y chwe' mis olaf o'i fywyd.

Mae y llythyrau a ysgrifenwyd ganddo yn y carchar at ei wraig, ei ferched, ac Arglwydd Barleigh, ychydig amser cyn ei ddienyddiad, y fath y byddai yn anhawdd i neb eu darllen gyda llygaid sychion. Yn ei lythyr at ei ferched bychain dywed, "Y mae cenedl y Cymru er's amryw ganrifoedd bellach wedi bod dan wialen yr Arglwydd, ond yr wyf yn gobeithio fod yr amser i drugarhau wrthynt, trwy beri i wir oleuni yr efengyl lewyrchu arnynt, yn awr wedi dyfod. Fy anwyl ferched, gweddiwch chwi yn daer ar yr Arglwydd am hyn, pan ddeloch i oed i ddeall pa beth yw gweddi; a byddwch yn wastad yn barod i gynorthwyo y plentyn lleiaf o'r wlad dylawd hono, a fyddo mewn angen am eich cymorth. Pa fodd bynag ad-dalwch, os byddwch yn alluog, i'm perthynasau agosaf i, megis fy mam, fy mrodyr, fy chwiorydd, &c., am eu caredigr wydd i mi. Byddant hwy, yr wyf yn sicr, yn garedig hyd eithaf eu gallu i chwi a'ch mam, er fy mwyn i. Ac ymdrechwch fod yn gysur neillduol yn fy lle i, i benwyni fy mam, yr hon fu yn foddion yn llaw yr Arglwydd i ddwyn traul fy addysg i, trwy yr hyn y daethum i wybodaeth o'r ffydd werthfawr hono yn Nghrist Iesu, er amddiffyn yr hon yr wyf yn sefyll yn awr mewn llawenydd mawr yn fy enaid, er yn drallodus iawn yn fy amgylchiadau allanol. Gweddiwch lawer yn ddibaid am lwyddiant teyrnasiad ei hardderchocaf fawrhydi y Frenhines Elizabeth, ac am ddiogelwch ei chorph a'i henaid. Byddwch yn gynorthwyol a charedig i bob dyeithriaid, ac yn neillduol i bobl Scotland, lle y bum i, a'ch mam, a dwy o honoch chwi, yn byw fel dyeithriaid, ac etto yn cael ein croesawi, ac yn derbyn caredigrwydd mawr er mwyn enw ein Duw. Byddwch yn hynaws i'r weddw a'r amddifad, nid yn unig am fod deddf Duw a natur yn gofyn hyny ar eich dwylaw, ond hefyd, oblegid am ddim a wn i yn amgen, fy mod i yn debyg o'ch gadael chwi yn amddifaid, a'ch mam yn weddw.

Pa beth bynag a ddel o honoch chwi yn eich hamgylchiadau allanol, gofelwch am aros yn yr eglwys orthry medig hon, yn yr hon yr wyf fi yn eich gadael, neu mewn rhyw gymdeithas bur arall o saint. Mae yn ddi- ameu genyf y bydd i Dduw gyffroi llawer o'i blant i fod yn garedig i'w ffyddlon chwaer, a'm gwraig, eich mam, ac i chwithau hefyd, er fy mwyn i. Er i chwi gael eich dwyn i fyny mewn sefyllfa isel, etto, fy anwyl blant, dysgwch ddarllen, fel y byddoch ddydd a nos yn medru ymgynefino a Gair yr Arglwydd. Os bydd eich mam yn alluog i'ch cadw gyda eich gilydd, yr wyf yn sicr y dysga hi chwi i ddarllen ac ysgrifenu. Yr wyf wedi gadael pedwar o Fiblau, un i bob un o honoch, a hyn yw yr unig dref-