Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/243

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrofa Neuaddlwyd), W. Williams, Drewen, ac S. Price, Llanedi (Eph. iii. 10; a 1 Cor. iii. 11). Iau am 10, yn Ebenezer, gweddiodd y brawd T. Jones, Saron; traethwyd y rhag-bregeth gan y brawd T. Griffiths, Hawen, (Act. xi. 31); derbyniwyd y gyffes ffydd gan y brawd A. Shadrach, Aberystwyth; derchafwyd yr urdd-weddi gan y brawd S. Price, Llanedi; traddodwyd dyledswydd y gweinidog a'r eglwys gan y brawd T. Phillips, Neuaddlwydd, (1 Cor. iv. 1, 2); pregethodd y brawd D. Davies, Aberteifi (Ioan xviii. 38), a therfynwyd trwy weddi gan y brawd D. Thomas, Tearson." Yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg y bu Mr. Griffiths yn llafurio yn y cylch hwn, bu yn foddion i sefydlu achosion yn Llanfairclydogau a Llanbedr. Fel y nodasom, symudodd yn 1837 i'r Casnewydd, oddiyno yn 1840 i Aberhonddu, ac yn ol drachefn i'r Casnewydd yn 1848, lle y bu yn barchus a derbyniol nes i sefyllfa ei iechyd yn 1860 ei orfodi i roddi y weinidogaeth i fynu. Yna symudodd i Aberhonddu at ei fab, gan feddwl y buasai newid yr awyr yn fanteisiol i'w iechyd; ond yr oedd ei waith ef wedi ei orphen, a'i ysbryd wedi addfedu i fyned i dderbyn ei wobr. Ar ol ychydig fisoedd o nychdod, hunodd yn yr Arglwydd Mawrth, 15ed, 1861. Ar y 21ain o'r un mis, dilynwyd ei ran farwol i'r fynwent gyhoeddus yn Aberhonddu, gan dorf liosog o alarwyr. Pregethodd T. Rees, Cendl, yn nghapel y plough, oddiar Act. xx. 24, cyn cychwyn tua'r gladdfa. Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn tawel, hynaws, a boneddigaidd dros ben; yn llawn o bwyll a synwyr cyffredin, ac yn wr o dduwioldeb diamheuol. Fel pregethwr, yr oedd yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Yr oedd ei holl bre- gethau yn efengylaidd o ran athrawiaeth, yn eglur a threfnus o ran eu cyfansoddiad, ac yn cael eu traddodi mewn iaith syml, dirodres a choethedig iawn, a chyda llais mwyn, eglur, ac effeithiol, ac agwedd gorphorol pregethwr yn mhob ystyr yn deilwng o genad Arglwydd y lluoedd. Ychydig iawn o bregethwyr mwy difai, yn mhob ystyr, y cawsom y fraint o'u gwrandaw yn ein hoes. Clywsom rai mwy gafaelgar a goruchel eu galluoedd; mwy hyawdl a chyffrous eu doniau; a rhai galluocach i orchfygu a dryllio teimladau eu gwrandawyr, ond anfynych, os erioed, y clywsom neb a'r fath gydgyfarfyddiad hapus ynddo o bob cymhwysder i draethu ewyllys Duw i ddynion mewn dull nas gallesid ei feio. Treuliodd ei holl fywyd cyhoeddus yn barchus, ac a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Bu yn ddedwydd iawn yn ei deulu. Cyfododd ei dri mab i'r weinidogaeth, ac y maent eill tri yn gwisgo cymeriad teilwng o'u swydd.

RAGLAN.

Dechreuwyd yr achos Annibynol yn y pentref hwn yn y flwyddyn 1839, trwy lafur ffyddlon a hunanymwadol Mr. Charles Forward, yr hwn sydd yn wr cyfrifol o ran ei amgylchiadau bydol, ac yn gristion o'r radd uchaf. Yn mhen dwy flynedd ar ol dechreu cynal moddion crefyddol yn y pentref, rhoddodd Mr. Forward ddarn o dir cyfleus at adeiladu capel. Un bychan, ond tlws iawn, yw yr addoldy. Cynwysa 150 o eisteddleoedd. Y draul o'i adeiladu, yn annibynol ar y tir chludiad y defnyddiau, oedd 200p. Agorwyd ef Hydref 20fed, 1843. Y gweinidogion a bregethasant ar yr achlysur oeddynt, W. Gethin, Caerlleon; T. Gillman, Cas-