Y mae ganddo yno un o'r addoldai harddaf a helaethaf yn y Dywysogaeth, a chynnulleidfa luosog iawn.
GOSEN, RHYMNI.
Ar ymadawiad Mr. W. Watkins o Seion, teimlai amryw o'r aelodau ymlyniad cryf wrtho, ac felly ymadawsant gyda'r gweinidog, ac adeiladasant gapel tua haner y ffordd rhwng Seion a Moriah, yr hwn a alwasant Gosen. Agorwyd ef Awst 22ain a'r 23ain, 1848, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol:—W. Williams, Cefncoedycymer; J. Harrison, Aberdare; N. Stephens, Sirhowy; E. Morgans, Penydarren; S. Phillips, Llangynidr; E. Davies, Libanus; J. Thomas, Cefneribwr; D. Davies, New Inn; J. Williams, Tynycoed; E. Prichard, Scethrog; a W. Moses, Cefncoedycymer. Maint y capel yw 40 troedfedd wrth 28, a thraul ei adeiladaeth oedd 408p. 10s. Yr oedd Mr. Watkins wedi symud o Rhymni i'r Llwyni, cyn adeiladu y capel, ond bu yn dyfod yn fisol yma am rai blynyddau. Wedi iddo ef roddi gofal y lle i fynu, tua'r flwyddyn 1858, rhoddwyd galwad i Mr. William Griffiths, Llanelli, Brycheiniog. Bu Mr. Griffiths yma hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddodd y weinidogaeth i fynu. Oddiar ei ymadawiad ef hyd yn bresenol, mae yr eglwys wedi bod dan ofal Mr. Roberts, gweinidog capel y Graig. Achos bychan a lled wan yw hwn wedi bod o'i gychwyniad hyd yn bresenol, a dichon y buasai yn fwy gwasanaethgar i'r enwad, ac achos crefydd, pe buasai wedi cael ei droi yn achos Saesonig er's naw neu ddeng mlynedd.
ADULAM, TREDEGAR.
Yr achlysur o ddechreuad yr achos a gyferfydd yn y lle hwn, oedd an- nghydwelediad yn eglwys Saron ar fater o ddysgyblaeth eglwysig, yn y flwyddyn 1840. Ymadawodd nifer o'r aelodau, a chymerasant long room, perthynol i'r Hen Gastell, at gynnal cyfarfodydd ar y Sabbothau, a chynnalient eu cyfarfodydd ar nosweithiau o'r wythnos yn nhai Daniel Rees, Nicholas Rees, a John Jones. Buont fel hyn am oddeutu blwyddyn; yna darfu iddynt daflu dau anedd-dy yn High Street yn un, a'u cyfaddasu i fod yn dy addoliad. Yn y flwyddyn 1844 adeiladwyd y capel, ac aeth y gynnulleidfa iddo yn ngwanwyn y flwyddyn 1845. Bu yr eglwys hon, o'i chychwyniad hyd ddechreu y flwyddyn 1845, heb gael ei chydnabod fel eglwys reolaidd gan undeb y sir, o herwydd yr ystyrid fod cychwynwyr yr achos wedi ymadael yn afreolaidd o Saron, ond yn y cyfarfod chwarterol a gynnaliwyd yn Ebenezer, Pontypool, Chwefror 19eg a'r 20fed, 1845, pasiwyd y penderfyniad canlynol gyda golwg arnynt: "Fod y cyfarfod hwn yn mawr lawenhau fod heddwch ac undeb wedi cymeryd lle rhwng eglwysi Saron, ac Adulam, Tredegar; a chan fod llythyr gollyngdod wedi cael ei roddi iddynt hwy o Saron, i gael eu ffurfio yn eglwys reolaidd yn Adulam, fod y cyfarfod hwn yn eu derbyn yn serchus fel chwaer eglwys i Undeb Mynwy." Y gweinidogion fuont yn gwasanaethu yr eglwys hon oeddynt Richard Evans a Walter Williams, Cefn- coed-y-cymmer. Ni fuont hwy yn dyfod yma ond am ychydig o amser. Y gweinidog nesaf oedd Jonathan Davies, gynt o Lanfaple a Victoria.