ion yn fuan wedi gwthio yr hen iaith Gymraeg yn hollol allan o'r parth yma o sir Fynwy. Mae eglwys Elim yn nodedig o haelionus a gweithgar, ac yn barod bob amser yn ol ei gallu i ymgymeryd ag unrhyw achos a osodir ger ei bron. Dywed Mr. Lumley mewn llythyr a ysgrifena atom, na bu o gwbl ond y teimladau goreu rhyngddo ef a hwy, ac nas gallodd ymadael heb lawer o hiraeth.
Ni chodwyd yr un pregethwr yn yr eglwys o gwbl; ond y mae enw Mr. John Jones, St. Dials, am yr hwn y crybwyllasom yn barod yn deilwng o goffhad parchus. Yr oedd yn ddiacon cyn gadael Penywaun, ac am flynyddoedd, efe oedd yr unig ddiacon yn Elim; a gwasanaethodd y swydd yn dda fel yr ennillodd iddo ei hun radd dda. Efe oedd prif noddwr yr achos ar y dechreu, ac ato ef yr edrychid yn mhob achos o bwys. Araf a hwyrfrydig ydoedd i symud, ond yr oedd bob amser yn ddiogel; ac er y cyfrifid ef yn ofalus a chynil, etto, yr oedd ei ewyllys at dy ei Dduw. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau yn mis Awst 1869.
VICTORIA.
Mae gweithiau haiarn Victoria, y rhai a gychwynwyd yn 1837, yn Nghwm Ebbwy Fawr, tua milldir a haner islaw gweithiau Penycae. Cyn cychwyn y gweithiau, nid oedd ond tri neu bedwar o anedd-dai yn yr holl gymydogaeth, ond cyn gynted ag y dechreuwyd agoryd pyllau glo, a gosod i lawr sylfaeni y ffwrneisi, cafodd ugeiniau o anedd-dui eu hadeiladu, a daeth canoedd o bobl i'w cyfaneddu. Yr oedd Mr. Roger Hopkins, yr hwn oedd yn un o berchenogion y gwaith, ac yn brif arolygwr y lle, yn Annibynwr selog, a chymerodd ran flaenllaw yn nghychwyniad yr achos. Yn Mawrth 1838, dechreuwyd cyfaddasu un o'r anedd-dai newyddion i fod yn addoldy. Rhoddwyd ef at wasanaeth y gynnulleidfa gan Mr. John Jones, Brynmawr, yr hwn hefyd oedd yn un o berchenogion y gweithiau. Agorwyd y ty hwn at wasanaeth crefyddol Medi 23ain, 1838. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid B. Woodliffe, Tredegar; J. Ridge, Cendl; D. Jones, Aber; a D. Stephenson, Nantyglo. Hydref 14eg, 1838, corpholwyd yno eglwys o un ar hugain o aelodau, gan Mr. H. Jones, Tredegar. Addawodd Mr. Jones ofalu am weinidogaeth i'r eglwys ieuangc, nes y buasai yn alluog i gynal gweinidog ei hun. Parhaodd i'w gwasanaethu mor fynych ag y gallai hyd Rhagfyr 1839. Yr oedd yr aelodau y pryd hwnw yn 80 o rif, a barnasant eu bod yn alluog i gynal gweinidog eu hunain. Buont mor anffodus a rhoddi galwad i Mr. Jonathan Davies, Llanfaple, yr hwn a ymsefydlodd yma Rhagfyr 24ain, 1839. Yn Hydref 1840, ymwrthododd yr eglwys ag ef. Dechreuwyd adeiladu y capel yn 1839. Tynwyd ei gynllun gan Rice Hopkins, Ysw. Ei faint o fewn y muriau yw 56 troedfedd wrth 45. Traul yr adeiladaeth oedd 1,094p. Yn Hydref 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Jones (yn awr o Gefnycribwr), ac urddwyd ef Rhagfyr 8fed, 1841. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus am rai misoedd wedi urddo Mr. Jones, ond yn gynar yn y flwyddyn 1842, aeth pethau yn ddyryslyd yn y gwaith, ac yn Awst y flwyddyn hono safodd y cwbl, a gwasgarwyd agos yr holl bobl o'r ardal, pryd yr oedd tua 900p. o ddyled ar y capel. Bu raid, wrth reswm, gau y lle i fynu. Parhaodd Mr. Jones i bregethu i'r nifer fechan oedd wedi aros yn yr ardal, hyd Hydref 1843, pryd y rhoddwyd y cwbl i