byddai yn absenol oddiwrthynt, pan fyddai disgwyliad am dano. Wedi marwolaeth Mr. Prothero, yn mhen amser cymerwyd eu gofal gan Mr. W. Williams, Adulam, Tredegar, a bu ef yn llafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr am lawer o flynyddau. Yn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. George Owen, pregethwr cynnorthwyol perthynol i Seion, Rhymni, ac urddwyd ef yn weinidog arnynt, ac efe sydd yma etto. Ymddibyna Mr. Owen, fel o'r blaen, ar ei alwedigaeth fydol am ei gynnaliaeth, gan roddi cymaint o'i amser ag a allo i'w gwasanaethu, a derbyn ganddynt yr hyn y byddant yn alluog i'w roddi. Ni bu yr eglwys erioed yn gryf, ac nis gellir disgwyl iddi fod yn ol rhifedi y boblogaeth, yn lluosog iawn. Nid ydym yn gwybod am ddim neillduol a gymerodd le yma yn nglyn a'r achos o'r dechreuad; ond y mae yma rai ffyddloniaid wedi bod bob amser; a chanddynt am yr achos bychan yn y lle "fawr ofal calon."
RISCA.
Dechreuwyd pregethu a chadw cyfarfodydd gweddio gan yr Annibynwyr yn ardal Risca tua'r flwyddyn 1841 neu 1842. Ar y cyntaf, symudai y cyfarfodydd o dy i dy; a bu cyfarfodydd yn cael eu cynal yn rheolaidd am ryw gymaint yn Penyrhiw; hyd nes y cymerwyd ysgubor yn agos i'r un fan, a throwyd hi yn fath o gapel at wasanaeth yr addolwyr. Bu y gynnulleidfa yma am flynyddau, a chafwyd profion eglur fod llawer iawn o les i eneidiau wedi ei wneyd yn y fan. Bu Mr. T. Jones, o'r Pillgwenlly, Casnewydd, y pryd hwnw, yn pregethu llawer iawn yma ar ddechreuad yr achos; ac os hysbyswyd ni yn gywir, efe yn nghyd a Mr. Thomas, Mr. E. Powell, Mr. Ll. Griffith, yn awr o Abercarn, ac eraill a fuont yr offerynau i ddechreu yr achos yn Risca. Daeth Mr. Daniel Jones a Mr. John Thomas yno i gynnorthwyo yn fuan; ond nid oeddent hwy yno ar ddechreu yr achos. Bu Mr. B. Lewis, Llanfabon, yn dyfod atynt bob pythefnos dros ryw ysbaid, ond ni fu gan yr eglwys weinidog sefydlog hyd y flwyddyn 1854, pan y cymerodd Mr. Evan Evans, Nantyglo, ofal Risca a Machen. Yn y flwyddyn 1857, meddyliodd Mr. Evans a'r cyfeillion am gael capel newydd mewn man mwy cyfleus, a llwyddasant i gael tir yn ymyl y brif ffordd, ac adeiladasant gapel a vestry gyfleus iawn yn nglyn ag ef. Yn fuan wedi agor y capel newydd ymadawodd Mr. Evans, a bu yr eglwys heb weinidog sefydlog hyd 1861, pan y daeth y gweinidog presenol, Mr. David Glyn Davies, i'r lle o athrofa Aberhonddu; ac y mae er hyny wedi llafurio yma yn ddiwyd a llwyddianus, a chyda chymeradwyaeth gyffredinol. Mae yr achos yma, fel mewn llawer o fanau yn y sir, yn troi yn Saesonaeg yn gyflym. Nid oes dim ond Saesonaeg yn awr bob nos Sabboth, ac y mae yn amlwg mai Saesonaeg fydd yr holl wasanaeth cyn hir.
VICTORIA ROAD, CASNEWYDD.
Dechreuwyd yr achos yma gan Mr. Frederick Pollard, yr hwn a fuasai yn weinidog eglwys Dock Street am dair blynedd a thri mis. Rhoddodd yr eglwys yn Dock Street i fynu ar yr 20fed o Ragfyr, 1857, a dechreuodd bregethu yn Neuadd y dref ar y Sul canlynol, sef Rhagfyr y 27ain.