Sefydlwyd yr eglwys, yn cynwys 33 o aelodau, ar ddiwedd y dydd. Cyfarfyddodd yr eglwys fechan a llawer iawn o wrthwynebiad ar ei chychwyniad, a chafwyd anhawsdra mawr i gael tir i gyfodi capel. Ar ol hir drafferth, llwyddwyd i gael y tir y saif yr adeilad presenol arno. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr ar y 3ydd o Dachwedd 1858, gan yr Anrhydeddus Charlotte Thompson, gwraig Thomas Thompson, Ysw., Prior Park, Bath, a chwaer i Iarll Gainsborough. Traul yr adeilad oedd 4,624p. 17s. 93c. Bu Mr. Pollard yn llafurio yma hyd Mehefin 1865, pan y dychwelodd i'w hen gartref, yn Saffrom Walden, Essex. Bu yr eglwys amryw fisoedd heb weinidog; ac yn y cyfwng, lleihaodd y gynnulleidfa i raddau dirfawr. Ymsefydlodd Mr. H. Oliver, B.A., o Pontypridd yma, yn Chwef. 1866. Y flwyddyn ganlynol casglwyd 500p. i ddileu y ddyled oedd ar yr addoldy. Yn 1868, casglwyd 250p. i adgyweirio yr adeilad, a rhoddwyd 50p. yn rhodd i'r adeiladydd, Mr. W. O. Watkins, yr hwn a roddasai ei waith yn rhad. Edrychai llawer ar waith Mr. Pollard a'i gyfeillion yn cychwyn yr achos yma yn anturiaeth fawr, os nad yn rhyfyg; ond credai ef ond iddo gael capel o faintioli priodol mewn man cyfleus, y gallasai lwyddo i gasglu cynnulleidfa o'r dosbarth nad oedd ond nifer fechan o honynt yn y dref yn mynychu moddion gras; ac ni siomwyd y disgwyliad. Mae y capel yn un o'r rhai eangaf yn y Dywysogaeth; ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa yn lluosacach yn awr nag y buont erioed.
CROSS KEYS.
Dechreuwyd pregethu a chadw ysgol Sabbothol yn ardal y Cross Keys yn 1867, trwy lafur Mr. D. G. Davies, Risca, ac wedi amryw fisoedd o brawf, gwelodd Mr. Davies fod yno le am achos. Ceisiwyd tir i adeiladu capel gan Arglwydd Tredegar, a chafwyd addewid am dano, ond nacawyd ef drachefn; ond cafwyd tir cyfleus eilwaith ar ystad Llanarth. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn mis Medi 1869, gan Charles Lewis, Ysw., Casnewydd. Siaradwyd ar yr achlysur gan amryw weinidogion a lleygwyr, ac yn eu plith gan S. Morley, Ysw., A.S. Mae'r capel wedi ei agor er dechreu Ebrill diweddaf, ac y mae golwg addawol iawn ar yr eglwys yn y lle. Mae Mr. Davies yn haeddu parch dauddyblyg am ei lafur dibaid gyda'r capel newydd yn Cross Keys. Nid oes yma ddim ond Saesonaeg yn cael ei bregethu, ac ofer hollol fuasai cynyg am wasanaeth cymysg.
MOUNT PLEASANT, PONTYPOOL.
Yn hanes eglwys Ebenezer nodasom fod eglwys Annibynol yn y Trosnant mor foreu a'r flwyddyn 1715, a'i bod yn debygol mai hon oedd dechreuad yr achos yn Ebenezer. Bu ardal boblog y Trosnant, a thref Pontypool heb un achos Annibynol o'r flwyddyn 1742, pryd yr adeiladwyd Ebenezer, hyd nes y cychwynwyd achos Saesonaeg yno tua'r flwyddyn 1834. Mr. Morris Evans oedd y gweinidog cyntaf ar yr eglwys Saesonaeg. Wedi ei farwolaeth ef, bu amryw weinidogion yno am dymorau byrion, ond gwan a nychlyd iawn oedd yr achos bob amser. Ar sefydliad Mr. Jenkins yn weinidog yn Mount Pleasant, ymunodd yr ychydig Saeson a'r achos hwnw, felly darfu yr hyn a elwid eglwys y Saeson yn Mhontypool.